Ar Awst 5 yn adeilad Maes Gwyn, Pwllheli, sefydlwyd Plaid Cymru. Gan mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Blaid yn dychwelyd i’r dref i ddathlu.
Y flwyddyn honno roedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli, a daeth chwech o ddynion ynghyd yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddod â Byddin Ymreolwyr Cymru a’r Mudiad Cymreig ynghyd i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru. Newidiwyd yr enw i Blaid Cymru yn 1945.
Cafodd tri o'r dynion a gyfarfu ym 1925 ym Maes Gwyn – Saunders Lewis, David John Williams a Lewis Valentine – eu carcharu ym 1936 am ymosodiad llosgi bwriadol ar ganolfan newydd yr RAF ym Mhenyberth.
Ond ym mis Mehefin 2025, bydd gŵyl arbennig yn hawlio’r maes i ddathlu’r hanes arbennig. Mae trefniadau’r ŵyl yn cael eu cydlynu gan y cyn-AS Hywel Williams. Yn un o feibion Pwllheli ei hun, bu Hywel yn Aelod Seneddol dros Gaernarfon, ac yna Arfon, rhwng 2001 a 2024, gan ildio’r awenau i Liz Saville Roberts ym Mehefin y llynedd.
Bydd y prynhawn o hwyl a dathlu yn cael ei gynnal ym Mhwllheli ar Ddydd Sadwrn Mehefin 21. Mae croeso cynnes i bawb ymuno yn y dathliadau ar y Maes, boed yn aelod o Blaid Cymru neu beidio. Bydd arlwy o gerddoriaeth, areithiau, stondinau a gweithgareddau i’r plant. Bydd yr adloniant yn parhau fin nos gyda gig gwerin yn nhafarn y Penlan yng nghwmni Gwilym Bowen Rhys, Geraint Lovgreen, a band o accordions.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 13.00 gydag stondinau, gweithgareddau ac adloniant ac areithiau ffurfiol am 2.00. Bydd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ac Arweinydd y Blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts yn cyflwyno ymysg eraill, Dafydd Wigley, Kirsty Blackman AS (SNP), Mabon ap Gwynfor AS, Rhun ap Iorwerth AS, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym, Pys Melyn, Gwyneth Glyn, Twm Morys a mwy.
Dywedodd Hywel Williams:
“Dwi’n eithriadol o falch fod y Blaid yn cynnal y digwyddiad mawr cyntaf mewn cyfres i ddathlu’r canmlwyddiant ym Mhwllheli, ble cynhaliwyd y cyfarfod sefydlu yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn y dref yn 1925.
“Bydd yn ddigwyddiad hwyliog a phositif – o ddathlu a diolch am holl waith pleidwyr dros y ganrif, ac o edrych ymlaen at y cyfleoedd gwych sydd o’n blaenau i ymladd achos ein gwlad, yn arbennig etholiadau’r Senedd yn 2026.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter