Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr

Ymgynghoriad: Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr

Dyddiad cau 22.2.22

Linc i'r holiadur/ymgynghoriad: Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr | LLYW.CYMRU

Mae templed isod gallwch gyfeirio ato i'ch helpu i'w lenwi... (cofiwch mai ond awgrymiadau yw'r ymatebion yma i'ch rhoi ar ben ffordd)

 

 

CWESTIYNAU’R YMGYNGHORIAD

 

Diwygiadau arfaethedig i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthau Defnydd) 1987 (UCO)

 

 

C1

 

 

A ydych yn cytuno neu'n anghytuno y byddai diwygio is-ddeddfwriaeth yn y ffordd a gynigir yn ffordd effeithiol o helpu i fynd i'r afael â’r effeithiau y nodwyd bod ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn eu cael mewn rhai cymunedau?

 

 

Cytuno.

Pryder y byddai’r newidiadau a fwriedir yn anodd i’w gorfodi.

 

 

 

C2

 

 

A ydych yn cytuno y dylid diwygio dosbarth C3 a chreu dosbarth C5 (Cartrefi eilaidd) a dosbarth defnydd C6 (Llety gosod tymor byr)? Os nad ydych, esboniwch pam.

 

 

Cytuno.

 

 

 

C3

 

 

A ydych yn cytuno â'r disgrifiadau o'r dosbarthiadau defnydd newydd a diwygiedig? Os nad ydych, esboniwch pam.

 

 

Anghytuno.

 

Dylid diffinio ‘ail gartref’ yn unol ag adran 12B o’r Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, sef “annedd nad yw yn unig nac yn brif gartref person ac sydd wedi ei dodrefnu'n sylweddol.” Byddai cysoni’r weithdrefn drethu leol a’r weithdrefn Gynllunio yn hwyluso’r broses o fonitro a gorfodi’r defnydd.

 

 

 

C4

 

 

A oes unrhyw sefyllfaoedd lle gallai defnydd fel tŷ annedd o dan ddosbarth ddefnydd C3 fod yn aneglur? Rhowch enghreifftiau.

 

 

 

 

 

 

C5

 

 

A fyddech o blaid diwygio deddfwriaeth sylfaenol (h.y. Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990) er mwyn rheoli ail gartrefi a llety gosod tymor byr?

 

Byddwn

 

Diwygiadau arfaethedig i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (GPDO)

 

 

C6

 

 

A ydych yn cytuno y dylid diwygio'r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir er mwyn caniatáu’r mathau o newid defnydd sydd i’w gweld yn Nhabl 2 os penderfynir bwrw ymlaen â’r newidiadau arfaethedig i'r gorchymyn dosbarthiadau defnydd? Os nad ydych, esboniwch pam.

 

 

Cytuno, ond dylid ailystyried y diffiniadau a gynigir, gan ystyried y defnydd o’r diffiniadau ar gyfer trethi ar gyfer cynllunio hefyd.

 

 

 

C7

 

 

A ydych yn cytuno bod defnydd o Gyfarwyddydau Erthygl 4 gan awdurdodau cynllunio lleol yn ffordd briodol wedi’i thargedu o ymateb i fater sy'n un penodol-i-leoliad? Os nad ydych, esboniwch pam a/neu awgrymwch ffordd arall o ymateb.

 

 

Os mai dyma’r yw’r unig opsiwn, yna cytunaf ei fod yn briodol. Dylid fodd bynnag ystyried opsiynau eraill e.e. diwygio deddfwriaeth sylfaenol.

 

 

 

C8

 

 

O ran newid defnydd i ail gartref neu lety wyliau tymor byr, os gwneir Cyfarwyddyd Erthygl 4, a ddylai ymgeiswyr gael yr hawl i hawlio iawndal os bydd awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod caniatâd, neu’n rhoi amodau ar ganiatâd heblaw'r amodau sy’n cael eu gosod gan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir, yn ystod y 12 mis cyntaf?

 

 

Na ddylai, yn sicr.

 

 

Diwygiadau Arfaethedig i Bolisi Cynllunio Cymru

 

 

C9

 

 

A yw'r diwygiadau arfaethedig i Bolisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ystyried nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr wrth ddatblygu’r gofyniad am dai ar y farchnad agored a thai fforddiadwy mewn ardal benodol ac a oes angen mabwysiadu polisi lleol mewn Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)?

 

 

Ydy.

 

 

 

C10

 

A yw'r diwygiadau arfaethedig i Bolisi Cynllunio Cymru yn cefnogi'r diwygiadau arfaethedig i:

 

·       Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987; a

·       Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995

 

 

Ydy, yn rhannol.

 

Canlyniadau'r newidiadau arfaethedig

 

 

C11

 

 

A ydych o'r farn bod canlyniadau cadarnhaol posibl y mesurau cynllunio arfaethedig i reoli ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn drech na'r canlyniadau negyddol posibl (neu i'r gwrthwyneb) o ran prisiau tai a'r effaith ar y farchnad dai lleol? Esboniwch eich ymateb, gan gyfeirio at dystiolaeth pan fo hynny'n briodol.

 

 

Ydw.

Mae’n debygol y byddai’r newidiadau yn cael effaith gadarnhaol ar y farchnad dai, drwy ryddhau unedau o’r stoc ‘ail gartrefi’, gan arwain at fwy o ddarpariaeth o dai fyddai’n fforddiadwy i gymunedau lleol.

 

 

 

C12

 

A oes gennych unrhyw sylwadau neu dystiolaeth am y canlyniadau posibl, boed yn gadarnhaol a / neu'n negyddol, i economïau lleol yn sgil y mesurau cynllunio arfaethedig i reoli ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr?

 

 

Byddai cyfyngu ar nifer yr ‘ail gartrefi’ a chael rheolaeth lawn o unedau ‘llety gwyliau’ yn bywiogi cymunedau lleol ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol.

 

 

 

C13

 

 

Awdurdodau lleol yn unig:

 

A ydych o'r farn bod gan yr awdurdodau cynllunio lleol ddigon o adnoddau i allu ymgymryd â lefel briodol o waith casglu tystiolaeth a monitro a chamau gorfodi er mwyn gallu rhoi’r mesurau cynllunio a gynigir ar waith yn effeithiol? Esboniwch eich ymateb, gan gyfeirio at dystiolaeth os yw hynny'n briodol.

 

 

 

C14

 

 

Yn berthnasol i awdurdodau cynllunio lleol yn unig:

 

·       Pa system TG (swyddfa gefn) a ddefnyddir ar hyn o bryd (gan gynnwys rhif y fersiwn)?

·       Beth yw’ch trefniadau contractiol (h.y. costau) ar gyfer gwneud newidiadau o ganlyniad i newid deddfwriaethol gan  Lywodraeth Cymru?

·       Pa mor hir y byddai'n ei gymryd i wneud newidiadau i'ch system TG?

·       Ar ba dyddiad y bydd eich contract presennol gyda chyflenwr eich system TG yn dod i ben?

·       Faint o amser y staff sydd ei angen (fesul cais) i roi ceisiadau i mewn i’ch system swyddfa gefn â llaw os na all y system eu derbyn yn awtomatig?

 

 

Ystyriaethau yn ymwneud â’r Gymraeg

 

 

C15

 

Hoffem gael gwybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

 

 

Byddai cynigion, wrth gyfyngu ar ail gartrefi, yn amlwg yn bywiogi cymunedau lleol ac yn felly cael effaith gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg dros gyfnod o amser.

 

Ystyriaethau cyffredinol

 

 

C16

 

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau ymgynghori penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y gofod isod i godi’r materion hynny.

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns