Deiseb 350 llofnod yn galw am lwybr diogel yn ardal Chwilog

Mae trigolion ardal Chwilog wedi cyflwyno deiseb wedi ei lofnodi gan 350 o bobl i Gyngor Gwynedd yn galw am gynlluniau i gyflwyno llwybr troed diogel o gyrion pentref Chwilog i lawr am Afonwen yn Eifionydd.

Mae cryn alw wedi bod ar hyd y blynyddoedd am gael llwybr o bentref Chwilog draw i Afonwen, oherwydd bod cymaint o drigolion yn cerdded ar hyd y lôn. Dros y blynyddoedd, mae nifer y cerbydau sy’n teithio ar hyd y ffordd wedi cynyddu, gan ei gwneud hi’n gynyddol anodd i drigolion gerdded yn ddiogel ar hyd y ffordd.

Yn ôl y Cynghorydd lleol, Aled Evans: “Mae ceisiadau wedi eu gwneud ers cyn i mi fod yn Gynghorydd yn yr ardal, i edrych ar greu llwybr troed safonol ar hyd y lôn yma sy’n cychwyn o gyrion pentref Chwilog tuag at Afonwen.

“Ar hyn o bryd mae’r ffordd yn beryglus, gyda llwybr gwelltglas yn unig ar ddarnau ohoni. Does dim posib cerdded ar hyd ochr y lôn efo pram neu feic plentyn - mae’n llawer rhy beryglus.”

Gyda thraffig trwm fel lorïau, tractorau a bysiau yn teithio ar hyd y ffordd, mae’r risg o ddamwain ar hyd y ffordd yn cynyddu.

Yn ôl y Cynghorydd Plaid Cymru, Aled Evans, sy’n cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd: “Dwi wedi trafod y broblem o ddiffyg llwybr troed ar hyd y ffordd ar sawl achlysur dros y blynyddoedd gydag Adran Drafnidiaeth Cyngor Gwynedd. Fel y gwyddom, mae arian yn broblem gynyddol o fewn awdurdodau lleol, ond dwi’n awyddus i sicrhau bod yr ardal yma’n cael ei blaenoriaethu ar gyfer unrhyw arian a ddaw o du Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf.”

Yn ôl Anwen Jones, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanystumdwy: “Mae llwybr beics bendigedig yn rhedeg o Afonwen i Bwllheli ar un ochr ac yna i Gricieth o’r cyfeiriad arall. Mae o’n llwybr diogel i bawb ei ddefnyddio ac yn adnodd gwerth chweil i’r ardal. Mae angen cysylltu hwnnw gyda’n hardal ni. Mae hefyd angen y llwybr diogel i bobol yr ardal allu cyrraedd y traeth yn Afonwen sy’n le braf eithriadol ond yn anodd cyrraedd ato fel mae petha.”

“Ond fel dywed un o drigolion Chwilog, mae cyrraedd y llwybr o bentref Chwilog ar feic neu ar droed yn beryglus ofnadwy, yn enwedig os ydych chi’n gwthio pram. Mae’n ffordd brysur gyda dwy gornel gudd arni, rhannau gyda glaswellt wedi gordyfu arni sy’n gorfodi pobl i gerdded neu seiclo ar hyd y ffordd.

“Fel y Cyngor Cymuned sy’n gyfrifol am yr ardal, rydym yn erfyn ar Gyngor Gwynedd i roi sylw brys i’r ardal, er mwyn sicrhau bod iechyd a lles trigolion yr ardal yn cael ei flaenoriaethu.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns