Mae diffyg cyswllt y we safonol yn amharu ar addysg plant a phobl ifanc ardal Croesor yng Ngwynedd yn ôl y Cynghorydd Sir dros yr ardal, Gareth Thomas.
Ers blynyddoedd lawer mae trafodaethau wedi bod rhwng BT a’r gymuned leol i wella’r ddarpariaeth gyswllt â’r we yn yr ardal, ond parhau mae’r problemau.
“Mae’n hanfodol bwysig bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad i gyswllt safonol i’r we, yn arbennig rŵan bod pawb yn cael eu haddysgu o gartref.
“Dwi wedi bod mewn trafodaethau gyda BT ers sawl blwyddyn i wthio’r mater. Erbyn hyn, mae’n hollbwysig bod darpariaeth bandeang yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer Croesor a’r ardal gyfagos.”
Yn ôl y Cynghorydd sy’n cynrychioli ardal Croesor o fewn Ward Penrhyndeudraeth ar Gyngor Gwynedd, mae Croesor ar y rhestr i dderbyn bandeang cyflym gyda BT a Llywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn bellach.
“Y broblem ydi nad oes amserlen bendant yn cael ei rhannu â’r gymuned i gyfathrebu pa bryd yn union y bydd hyn yn digwydd.
Dyna’n union y mae Tim a Bev Dunne o Groesor yn ei ddweud. Gyda Bev yn astudio cwrs drwy’r Brifysgol Agored a’i merch, Phoebe (yn y llun) wedi ei hanfon gartref i astudio ei chwrs gradd ym Mhrifysgol Cumbria, o bell, mae astudio gartref yn drafferthus.
“Mae’n rhwystredig iawn,” meddai Phoebe Dunne. “Mae’r cyswllt yn araf iawn, iawn, mae popeth yn cymryd hydoedd i lawrlwytho. Mae’n cymryd dwbl yr amser i mi wneud fy ngwaith adref o’i gymharu â phan dwi yn y Brifysgol yn Cumbria.
“A gan fod mam hefyd yn astudio, mae cael y ddwy ohono ni’n gweithio ar yr un pryd yn gwaethygu’r broblem, gan bod y cyflymder mor ara deg. Mae’n gyrru rhywun o’i go!”
Teulu arall o’r cwm sy’n cael trafferthion yw Adam a Marged Eardley. Gyda’i dau o blant yn ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd, mae sicrhau bandeang dibynadwy yn peri trafferthion iddyn hwythau hefyd.
“Rydyn ni gyd yn ymwybodol ein bod ni’n ceisio byw ein bywydau drwy gyfnod cwbl anarferol wrth baffio haint byd-eang. Ond mae gwir angen sicrhau bod plant a phobl ifanc ddim yn cael eu hamddifadu a’u gadael ar ôl. Mae cael y mynediad gorau posib at wasanaethau addysgol, yn ogystal â gwasanaethau iechyd a lles, hefyd yn dyngedfennol bwysig.
“Does dim opsiwn arall i’r cwm yma sy’n eistedd rhwng Beddgelert, Blaenau Ffestiniog, Maentwrog a Phenrhyndeudraeth. Mae’n ardal wledig, ond mae ynysu plant a phobl ifanc rhag gallu cael mynediad safonol at eu gwaith addysgol yn eu rhoi dan anfantais enfawr.
Mae’r Cynghorydd Gareth Thomas (llun isod) wedi cysylltu eto gyda BT a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Lee Walters i’w hatgoffa am y diffygion sydd i wasanaethau yn yr ardal hon ac i bwyso am ddatrysiad buan.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter