Diolch i fand gorymdeithio an-filwrol prysuraf y byd

Wrth i ni gamu yn nes at ddiwedd y flwyddyn a pharatoadau’r Nadolig ar ddechrau, mae Plaid Cymru Gwynedd yn awyddus i ddiolch i fand gorymdeithio an-filwrol Cymru am eu perfformiadau mewn nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru yn ystod 2019.

Fe’i gelwir y band gorymdeithio prysuraf yn y byd, ac mae Band Cambria o Sir y Fflint yn cynnwys cerddorion amatur brwd sy'n amrywio rhwng 4 ac 83 oed. Cyn bo hir bydd y band yn dathlu 14 mlynedd yn gorymdeithio ar hyd a lled Cymru mewn dathliadau a digwyddiadau awyr agored mawr.

Yn ôl Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dafydd Meurig: “Rydyn ni yng nghanol cynnydd mewn cefnogaeth gan bobl sy’n galw am annibynniaeth i Gymru. Ac mae Band Cambria wedi bod yn rhan annatod o’r cyffro hwn wrth iddyn nhw fynychu ac arwain llawer o’r ralïau ledled Cymru.”

Mae arweinydd a sylfaenydd y band, Adam Phillips, sy'n wreiddiol o Gorwen yn tynnu ei het bost am ei ddrymiau yn rheolaidd, wrth iddo adael ei swydd ddyddiol yn Swyddfa'r Post i fynd i ymarferion a digwyddiadau.

“Dechreuodd y syniad fel her mewn gorymdaith yn Wrecsam, lle ro’n i’n defnyddio uchelseinydd i lafarganu negeseuon. Dywedodd ffrind nad oedden ni’n cael yr effaith gadarnhaol roedden ni’n gobeithio amdano, felly fe wnaeth fy herio i gychwyn band gorymdeithio Cymreig.

“Heb unrhyw brofiad, dim talent gerddorol a dim arian, cytunais i’r her! Teithiais i'r Alban a dilyn band gorymdeithio Albanaidd ar hyd y strydoedd mewn digwyddiad, a theimlais wefr. Roedd effaith y band yn syfrdanol, roedd yr effaith a gawsant ar yr orymdaith yn anhygoel ac ro’n i wedi gwirioni’n lân!”

Sefydlwyd Band Cambria, sydd â’i gwreiddiau yn nwfn yn niwylliant Cymru, nôl yn 2006 a’i harwyddair yw ‘Gorymdeithio dros Gymru.’ Mae’r criw yn gorymdeithio milltiroedd gan hyrwyddo hanes a diwylliant Cymru wrth berfformio alawon a gorchmynion Cymreig traddodiadol mewn digwyddiadau ledled Cymru.

Dywedodd Adam, gaiff ei adnabodd fel Adam Balchder oherwydd y balchder mae’n ei deimlo tuag at Gymru: “Rydyn ni bob amser wedi mabwysiadu polisi o fynychu digwyddiadau waeth beth ydi eu maint na’i sefyllfa ariannol. Gall Dydd Gŵyl Dewi Sant fod yn ddiwrnod prysur iawn, felly rydyn ni'n tueddu i dorri'r band 40 aelod i grwpiau llai, fel y gallwn ymrwymo i'r holl geisiadau sy’n dod aton ni i ddathlu Dydd Gwyl Dewi.”

Mae'r Cynghorydd Steve Collings, sy'n cynrychioli trigolion Ward Deiniol ym Mangor yn gefnogwr brwd. Meddai: “Mae eu hymrwymiad heb ei ail. Maent yn teithio ar hyd a lled Cymru fel gwirfoddolwyr, unrhyw adeg o'r flwyddyn, i gynnig naws gerddorol unigryw i ddigwyddiadau awyr agored.

“Mae ganddyn nhw hefyd raglen hyfforddi ieuenctid, sy’n gweld y genhedlaeth iau yn datblygu ac yn cymryd rhan yng ngwaith y band. Ac mae hynny'n allweddol i ddyfodol unrhyw sefydliad, gan osod y sylfaen ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Maen nhw hefyd yn darparu hyfforddiant, offer a gwisg i'w haelodau, yn rhad ac am ddim, ac yn mynd â hyfforddiant cerddorol i gymunedau am ddim.

Eglura’r Cynghorydd Dafydd Meurig: “Mae’n anrhydedd i ni orymdeithio gyda cherddorion a hyfforddwyd gan Fand Cambria a’r band ei hun mewn llawer o ddigwyddiadau Ie Cymru, gydag uchafbwynt personol i mi, sef y rali yng Nghaernarfon nôl yn yr haf. Dwi’n awyddus i fachu ar y cyfle i ddiolch i Arweinydd y Band, Adam Phillips, a'i gerddorion ymroddedig am eu gwaith caled, eu cefnogaeth a'u talentau cerddorol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn dymuno’n dda i’r band ar gyfer 2020, ac yn edrych ymlaen at orymdeithio gyda nhw eto yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.”

Sefydlwyd Band Cambria yn 2006, ac yn ystod y flwyddyn gwnaethant fynychu 10 digwyddiad. Buan iawn y lledaenodd y gair am eu talentau, a thyfodd eu hymrwymiadau yn gyflym i 60 o ddigwyddiadau a mwy bob blwyddyn. Dyma sydd wedi eu gwneud yn un o'r bandiau gorymdeithio prysuraf yn y byd.

Mae repertoire y band yn cynnwys alawon Cymraeg traddodiadol ac mae’r gorchmynion a gyhoeddir yn ystod eu perfformiadau a’i gorymdeithio i gyd yn y Gymraeg. Crewyd eu gwisgoedd o frethyn Cymreig gan ddefnyddio gwlân Cymreig ac maent yn cael eu creu yng Nghanolbarth Cymru.

Am fwy o wybodaeth am Fand Cambria, ffoniwch: 07957 173262 neu cewch hyd iddynt trwy eu tudalen Facebook.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns