Mewn seremoni arbennig yn yr Institiwt Caernarfon yn ddiweddar sefydlwyd Maer newydd i dre’r Cofis, y Cynghorydd Cai Larsen. Ac yn dynn yn ei sodlau, sefydlwyd y Dirprwy Faer sy’n siŵr o fod yr ieuengaf i ddal y rôl yn y dre, y Cynghorydd Dewi Wyn Jones, sy’n 26 oed.
Pasiwyd yr awenau, a’r gadwyn hynafol, ymlaen i’r Maer newydd y Cynghorydd Cai Larsen gan y Cynghorydd Tref, Maria Sarnacki. Mae’r Cynghorydd Sarnacki wedi cynnal ei dyletswyddau am ddwy flynedd yn lle’r flwyddyn arferol oherwydd y clo mawr yng nghyfnod y pandemig.
“Mae’n anrhydedd fawr,” meddai’r Cynghorydd Cai Larsen, sydd hefyd yn Gadeirydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.
“Mae’r dref ma a’i phobl yn rhan annatod ohonai erbyn hyn, ac mae cynrychioli Ward Canol Dref Caernarfon yn joban werth chweil. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at y dyletswyddau newydd ddaw yn sgil fy rôl fel Maer a’m gobaith fydd dylanwadu’n bositif ar brosiectau’r dref a chynrychioli Caernarfon lle bynnag yr af.”
“Diolch i’r Cynghorydd Maria Sarnacki am ei gwaith, mae gen i sgidiau mawr i’w llenwi!”
Bydd Lynne Larsen, gwraig Cai, yn gonsort iddo wrth ddechrau ar y dyletswyddau yn cynrychioli'r Cyngor Tref a phobl Caernarfon am y flwyddyn sydd i ddod.
Dyw gwaith caled ddim yn ddieithr i Cai, mae'n gweithio'n wirfoddol gyda Phorthi Dre, mae'n gadeirydd bwrdd Cwmni Dre ac mae’n eistedd ar fwrdd rheoli cymdeithas dai, Adra. Byd addysg fu ei alwedigaeth am flynyddoedd lawer cyn iddo ymddeol fel pennaeth ysgol gynradd yn 2017 a’i ethol yn gynghorydd.
Un fydd yn dysgu wrth draed y meistr, fydd Y Cynghorydd Dewi Jones, gŵr ifanc 26 oed o dre’r Cofis. Wedi ei ethol yn Ddirprwy Faer yr un noson a Cai, mae’r athro rhan amser yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy yn cynrychioli ei dref enedigol, Peblig ar Gyngor Gwynedd.
Yn Ôl un o gyn Meiri’r dref, y Cynghorydd Ioan Thomas: “Mae Dewi yn wleidydd praff, yn gyfforddus iawn yn ei rôl fel cynghorydd newydd brwdfrydig, ac yn weithgar iawn. Mae ganddo ddyfodol disglair o’i flaen ym myd gwleidyddiaeth, ond mae’n parhau yn driw iawn i’w filltir sgwâr. Llongyfarchiadau mawr i Cai ac i Dewi ar eu rolau newydd.”
Wedi’r seremoni dathlwyd Noson y Maer yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon. Yno roedd yr Aelod Seneddol Hywel Williams, Siân Gwenllian Aelod Senedd Cymru, cynrychiolaeth o’r byddinoedd Cymreig yn ogystal â phwysigion eraill yr ardal, gan gynnwys Meiri’r Trefi Caerog eraill o Ogledd Cymru. Llongyfarchodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cai, ar ei apwyntiad drwy neges fideo.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter