Mae Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn wedi penodi’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Ward Arllechwedd yn Ddirprwy Arweinydd newydd y Blaid ar Gyngor Gwynedd.
Daw hyn yn sgil penderfyniad y Cynghorydd Mair Rowlands, i sefyll i lawr o’i rôl ar Gabinet y Cyngor ac fel Dirprwy Arweinydd wedi iddi gael ei phenodi i swydd newydd fel Cyfarwyddwraig Undeb Myfyrwyr Bangor.
Yn ôl y Cynghorydd Dyfri Siencyn: “Hoffwn ddiolch i Mair Rowlands am ei gwaith fel Aelod Cabinet a Dirprwy Arweinydd dros y misoedd diwethaf. Dwi’n sicr y bydd yn parhau i wneud cyfraniad pwysig fel cynghorydd lleol dros drigolion Menai Bangor yn y Cyngor ac rydym fel grŵp yn dymuno’n dda iddi yn ei swydd newydd.
“Ar yr un pryd, dw i’n falch o gael croesawu’r Cynghorydd Dafydd Meurig fel Dirprwy Arweinydd newydd. Mae Dafydd yn aelod profiadol o’r Cabinet a dwi’n ei groesawu’n gynnes fel aelod o’r tîm,” meddai Dyfrig Siencyn.
Bydd aelod newydd yn cael eu penodi i gymryd lle’r Cynghorydd Rowlands ar y Cabinet yn fuan.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter