Dwyn a rhoi - angen i Lafur weithredu ar drethiant ar ail gartrefi

Yn ôl Plaid Cymru Gwynedd mae Llywodraeth Cymru yn dwyn gydag un a rhoi gyda'r llall wrth gyhoeddi cynlluniau’r gyllideb.

Wrth groesawu’r newydd y bydd cynnydd mewn treth trafodion tir ar gyfer perchnogion ail dai, yn ôl y Blaid yng Ngwynedd nid yw'r Llywodraeth Lafur yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r ffaith bod perchnogion ail dai yn dewis osgoi talu unrhyw dreth ar eiddo yng Nghymru.

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydyn ni wedi bod yn galw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater sylfaenol yma, bod y gyfraith yn caniatáu i berchnogion ail dai droi i drethu busnes er mwyn osgoi talu unrhyw drethi.

“Mae hyn yn golygu nad yw’r bobl yma sy’n dewis symud i’r Dreth Fusnes, er nad ydynt yn rhedeg cwmnïau, yn cyfrannu yr un geiniog tuag at wasanaethau lleol fel goleuadau stryd, ailgylchu, casgliadau sbwriel a seilwaith ffyrdd.

“Cyhoeddodd y Gweinidog heddiw y gallai’r cynnydd mewn treth trafodion tir godi miliynau o bunnoedd ar gyfer tai cymdeithasol. Yma yng Ngwynedd, un sir o’r 22 sir yng Nghymru, rydym yn colli miliynau o bunnoedd mewn trethi bob blwyddyn, oherwydd y bwlch yn Neddf Cyllid Llywodraeth Cymru.

“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru fynd i’r afael â’r mater hwn ar fyrder. Byddai’n dod a budd ariannol i siroedd ac yn unioni'r cam anfoesol hon. Byddai'r gronfa ariannol yma’n caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian i fuddsoddi mewn cartrefu pobl leol yn ein cymunedau,” meddai'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

Mewn adroddiad manwl diweddar a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd, dangoswyd bod 10.77% o’r stoc dai yng Ngwynedd, 6849 o dai, bellach yn ail gartrefi neu’n dai gwyliau.

Mae Plaid Cymru Gwynedd eisiau gweld perchnogion tai yn gofyn am ganiatâd awdurdod lleol i newid defnydd eiddo i lety gwyliau tymor byr. Mae hefyd yn argymell y dylid cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer gosod gwyliau tymor byr, wedi'i reoli gan yr awdurdod lleol.

“Byddai cyflwyno mesurau o’r fath yn caniatáu i ni reoli ein stoc dai yn well, gan sicrhau bod darpariaeth o gartrefi ar gael i bobl leol.”

Cyhoeddwyd cynllun gweithredu tai gwerth £77 miliwn yn ddiweddar gan Gyngor Gwynedd, gyda ffocws clir ar gartrefu pobl leol, pobl sydd mewn angen a buddsoddi yn stoc dai'r sir ar gyfer y dyfodol.

“Ein ffocws yn y blynyddoedd nesaf yw cartrefu pobl leol,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn. “I wneud hynny yn llwyddiannus, mae angen i Lywodraeth Cymru chwarae eu rhan hefyd.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2020-12-23 12:02:51 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns