Mae ffermwr Ynys Enlli a Chynghorydd Sir Aberdaron yn croesawu’r ffaith y gall cynllun ynni llanw newydd ddod â budd economaidd i drigolion Pen Llŷn.
Yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd, Gareth Roberts (yn y llun), mae dod a chynllun ynni gwyrdd amgylcheddol i Ben Llŷn i greu ynni drwy ddefnyddio llanw’r môr, yn gynllun cyffrous.
Bwriad Nova Innovation yw cyflwyno 5 tyrbein bychan 100kW ar wely’r môr rhwng Ynys Enlli a’r tir mawr fyddai’n cynhyrchu trydan. Y gobaith fyddai gwneud Ynys Enlli yr ynys ynni glas cyntaf yn y byd, lle byddai cerrynt y môr yn cynhyrchu ynni gwyrdd i greu trydan, yn hytrach na gorfod dibynnu ar ddefnyddio disl i gynhyrchu trydan ar Enlli.
Llun: Ynys Enlli a gwely'r môr yn dangos sut byddai'r tyrbeini yn edrych o dan y dŵr (hawlfraint llun: Nova Innovation)
“Mae rhinweddau gwyrdd y cynllun yma’n amlwg,” meddai’r Cynghorydd, “ac mae cynnwrf i weld y cynllun yn datblygu. Ond i mi, fel cynghorydd lleol, dwi’n edrych mlaen yn arw at weld pa fuddion economaidd all y cynllun yma ei gyflwyno i’r ardal.
“Mae Nova Innovation eisoes wedi nodi eu bod yn awyddus i ddefnyddio contractwyr lleol, busnesau ac unigolion sy’n byw yn yr ardal, i weithio ar y datblygiad a manteisio ar y cyfleoedd ddaw yn sgil datblygu ynni llanw môr Enlli.
“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cadwyni cyflenwi yn sgil datblygiadau buddsoddi o fewn cymunedau, ac mae’r cynllun yma yn cynnig cyfleoedd ym maes datblygu, peirianneg, adeiladu, technoleg, morwrol a llawer mwy.
“Fel Cynghorydd yr ardal, byddwn i hefyd yn falch o weld cyfleoedd addysgol yn rhan o’r gwaith, fel bod cyfle i ddisgyblion a myfyrwyr fanteisio ar y cyfle i oruchwylio, astudio a chael eu hysbrydoli gan gynllun technolegol blaengar fel hyn, yma yng ngogledd orllewin Cymru.”
Mae gan Nova brofiad o gyflwyno tyrbinau llanw ar Ynysoedd y Shetland yn Swnt Bluemull, sy’n cynhyrchu ynni o bedwar tyrbin o dan y môr. Mae gwaith y cwmni yn Shetland yn cynnwys monitro bywyd gwyllt o amgylch y tyrbinau a’r ardal gyfagos. Gan ddefnyddio camerâu tanddwr maent wedi canfod, trwy eu harolygon, nad oes effeithiau negyddol ar fywyd gwyllt y môr, fel adar a mamaliaid morol.
Cyflwynwyd buddsoddiad o £1.2 miliwn i Nova Innovations gan Lywodraeth Cymru, trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, i gefnogi'r gwaith o holi am hawliau amgylcheddol a dylunio peirianneg ar gyfer y prosiect arloesol hwn.
Yn ôl y Cynghorydd Gareth Roberts: “Yn wahanol i ynni gwynt lle mae’r farn gyhoeddus wedi ei rhannu, does dim effeithiau negyddol gweledol i’r tirlun gyda’r tyrbeini yma, gan eu bod wedi eu cuddio o dan y môr.
“Ac yn bwysicach fyth, mae cynllun fel hyn yn cyfrannu at Gwynedd Werdd y Cyngor Sir, lle mae cymunedau a thrigolion yn ceisio lleihau ôl troed carbon.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter