Bydd Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd yn lleisio gwrthwynebiad cryf i newidiadau posib i’r dreth etifeddiaeth ffermydd heddiw, gan rybuddio y bydd newidiadau o'r fath yn effeithio'n ddifrifol ar ffermydd teuluol ledled Gwynedd ac yn bygwth diwylliant ac economi cefn gwlad Cymru.
“Mae'r cynigion yma gan San Steffan yn fygythiad uniongyrchol i fywoliaeth cenedlaethau o deuluoedd amaeth yng Ngwynedd a'r economi wledig yn gyffredinol,” eglura'r Cynghorydd Jina Gwyrfai sy'n cynrychioli trigolion Yr Eifl ar Gyngor Gwynedd.
“Mae hefyd yn peri bygythiad gwirioneddol i ddiogelwch bwyd, yma yng Nghymru, gan fod pobl angen mynediad at ddigon o fwyd lleol, diogel a maethlon bob amser.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'u cydweithwyr Llafur yn San Steffan i asesu effaith y polisi arfaethedig gwallus yma,” meddai Jina Gwyrfai (yn y llun uchod) sy'n cynrychioli pentrefi Pistyll, Llithfaen Llanaelhaearn, Trefor a’r ardaloedd cyfagos ar Gyngor Gwynedd. Bydd y Cynghorydd Plaid Cymru yn dod â’r rhybudd o gynnig o flaen ei chyd-gynghorwyr yn siambr Cyngor Gwynedd heddiw (dydd Iau 3 Gorffennaf).
Cynigiodd datganiad cyllideb hydref 2024 Llywodraeth San Steffan, o'r flwyddyn ariannol newydd 2026 ymlaen, y dylid cyfyngu'r rhyddhad 100% o dreth etifeddiaeth i'r
£1 miliwn cyntaf o eiddo a busnes amaethyddol o fewn y gymuned amaethyddol.
Dywedodd Llafur y byddai’r newid yn “helpu amddiffyn busnesau teuluol a ffermydd.”
Gyda chyfartaledd incwm fferm yng Nghymru yn £30,000 y flwyddyn yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, cred Plaid Cymru a'r diwydiant y bydd cyfran sylweddol o ffermydd teuluol masnachol yn cael eu heffeithio gan y newidiadau. Mae ymchwil NFU Cymru yn amcangyfrif bod dros dri chwarter o ffermydd gweithredol ledled Cymru yn debygol o ddisgyn uwchlaw'r trothwy o £1 miliwn.
“Amlygodd trafodaethau diweddar gydag NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn Sioe Amaethyddol Nefyn yn gynharach yn y tymor faterion difrifol gyda datganiad y Canghellor,” eglura'r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths (yn y llun uchod), sy'n cynrychioli ffermwyr sy'n byw ym Mrithdir, Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltyd.
“Mae pawb yn ymwybodol bod ffermwyr yn berchen tir a stoc sy’n awgrymu cyfoeth, ond bod tlodi ariannol yn llethu nifer o ran arian yn y banc. Mae llawer o fusnesau teuluol amaethyddol yn wynebu her gyson cyn belled a chreu proffid ac mae cael dau ben llinyn ynghyd i rai o fewn y diwydiant yn anodd.
“Yr wythnos hon, mae bygythiad ffliw adar yn effeithio ar ddofednod yng Nghymru ac mae cyfyngiadau’r tafod glas wedi eu cyflwyno i geisio mynd i’r afael â’r clefyd mewn gwartheg a defaid ar draws y ffin.
“Gwnaethom gefnogi ein ffermwyr llynedd wrth dynnu sylw at bryderon difrifol yng Nghynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Llywodraeth Cymru. Mae’n teimlo bod y diwydiant yn cael ei wasgu bob sut ac mae hynny’n cael effaith andwyol ar iechyd a lles ffermwyr a’i teuluoedd yma yng Ngwynedd sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac ynysig.
Mae’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn awyddus i eilio’r cynnig yng nghyfarfod cyngor llawn Gwynedd heddiw: “Mae Llafur yn credu bod hwn yn ffordd gyflym i godi refeniw treth sydd ei ddirfawr angen ar y pwrs cyhoeddus, ond mae ffermwyr yn fy ardal i yn dweud wrthyf ei fod yn gynnig gwallus sy’n creu pryder difrifol iddynt.”
Yn ôl llefarydd materion gwledig Plaid Cymru yn y Senedd, Llŷr Gruffydd, a welir yn y llun isod:
“Rhaid i Lywodraeth y DU ddileu’r cynigion treth etifeddiaeth. Mae yna ffyrdd eraill y gallant fynd i’r afael â’r mater yma. Gellid defnyddio system “adfachu”, yn debyg i’r un a welir mewn rhai gwledydd Ewropeaidd, lle byddai treth etifeddiaeth yn weithredol os caiff tir fferm ei werthu o fewn saith mlynedd gan yr etifedd. Byddai hyn yn targedu’n well prynwyr tir sy’n prynu er mwyn buddsoddi yn hytrach nac amaethu a chodi mwy o refeniw i’r Trysorlys.
“Mae polisi arfaethedig Llafur yn targedu ffermydd teuluol yn annheg, teuluoedd sy’n aml yn byw o’r llaw i’r genau wrth gynnal dwy neu dair cenhedlaeth o’r teulu. Dylai Llywodraeth Lafur fynd i’r afael ag unigolion a busnesau mawrion sy’n berchen tir er mwyn buddsoddi’n ariannol ond sy’n osgoi talu trethi, nid targedu ein ffermydd teuluol Cymreig.”
Yn ôl y Cynghorydd Jina Gwyrfai: “Nid busnesau yn unig yw ein ffermydd teuluol — maent yn amddiffyn yr iaith, treftadaeth a’n tirwedd. Byddai cyflwyno treth etifeddiaeth heb gydnabod y gwreiddiau cymunedol dwfn hyn yn anghyfiawn ac yn unllygeidiog. Dyna’r rheswm y byddaf yn cynnig y rhybudd o gynnig yma i Gynghorwyr Gwynedd heddiw.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter