Roedd geiriau angerddol i’w clywed ar lawr siambr Cyngor Gwynedd yn y cyngor llawn diweddar, wrth i gynghorwyr gefnogi galwad Cynghorydd Plaid Cymru i wneud safiad yn erbyn toriadau i sustem fudd-daliadau sy’n taro trigolion mwyaf bregus Gwynedd.
Mae toriadau i’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) i’r Credyd Cynhwysol ac i’r cymorth gyda chostau tai yn golygu bod Llywodraeth Lafur wedi troi cefn ar bobl gyffredin Gwynedd, yn ôl y Cynghorydd Plaid Cymru dros Bwllheli, Elin Hywel (yn y llun uchod).
“Ro’n i’n awyddus i godi’r mater yma oherwydd y braw a’r pryder mae penderfyniadau creulon ac ideolegol Llywodraeth San Steffan wedi ei achosi i nifer o’m hetholwyr fi yma yn nhref Pwllheli, a ledled Gwynedd.
“Mae polisïau fel hyn yn cael effaith uniongyrchol ar amgylchiadau dyddiol ein trigolion mwyaf bregus ac ro’n i’n benderfynol o wneud safiad ar eu rhan. Dwi’n falch bod gweddill Cynghorwyr Gwynedd wedi sefyll gyda mi ar y mater pwysig yma.”
Roedd tri cham i rybudd o gynnig y Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd (1 Mai).
- Galwad ar Lywodraeth Lafur Cymru i sefyll dros bobl Cymru a mynnu bod eu cydweithwyr yn San Steffan yn gwneud tro pedol ar eu cynlluniau i dorri budd-daliadau.
- Galwad i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau cyllideb briodol i’r sustem fudd-daliadau a gwasanaethau cymdeithasol er lles trigolion Gwynedd
- Galwad ar Lywodraeth y DU i ddatganoli lles a budd-daliadau i Gymru, ynghyd â’r holl offer angenrheidiol er mwyn i Lywodraeth Cymru allu gwarchod, gofalu a chynnal cymdeithas.
Gan fod Gwynedd yn sir wledig, ac, fel sawl rhan arall o Gymru â lefelau uwch o dlodi tanwydd, cyflogaeth ansicr ac incwm isel, mae’r toriadau yma’n cael effaith uniongyrchol ar drigolion y sir.
“Nid ffigyrau mewn tabl ydi'r rhain, ond mae’n cael effaith ar bobl go iawn,” eglurodd y Cynghorydd Elin Hywel a welir yn y llun isod ar lawr siambr y cyngor. “Pobl rydyn ni, fel cynghorwyr, yn eu gweld yn ein wardiau yn gyson, gyda rhai yn dod atom i holi am gymorth, ond nifer fwy sy’n diodde’n dawel, ar gyrion cymdeithas.
“Mae awdurdodau lleol, fel Gwynedd, yn darparu cefnogaeth ar sail foesol i’w thrigolion er bod yr esgid yn gwasgu a’r pwysau’n cynyddu ar yr adnoddau prin sydd ar gael yn lleol Fel sawl cyngor arall, mae cyfrifoldeb ar awdurdod lleol i flaenoriaethu gwasanaethau statudol fel ysgolion, gofal i’r henoed ac amddiffyn plant bregus,” yn ôl y Cynghorydd.
Fel Cyngor, mae cynnydd i’w weld yn y galw am wasanaethau cymdeithasol; cefnogaeth i bobl hŷn, pobl ag anableddau, a theuluoedd mewn argyfwng ariannol. Mae’r angen am dai brys yn cynyddu ac mae’r galw ar wasanaethau iechyd meddwl a chwnsela, sy’n aml yn methu cyrraedd y galw, hefyd yn codi.
Mae adroddiadau diweddar gan Shelter Cymru, Citizens Advice a Phwyllgorau San Steffan eu hunain yn cydnabod bod y broses asesu ar gyfer ESA a PIP yn achosi niwed difrifol i bobl fregus. Mae’n gosod mwy o straen ar unigolion, achosi iselder ac yn creu gor-bryder i deuluoedd.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Nia Jeffreys (isod), wrth gefnogi’r cynnig: “Mae ymchwil ‘Policy in Practice’ yn dangos bod y toriadau diweddar yn golygu y bydd Cymru’n cael eu heffeithio tair gwaith yn waeth, na Llundain a de ddwyrain Lloegr. Bydd bron i 200,000 o bobl Cymru, sef dros 6% o’r boblogaeth, wedi eu heffeithio, gyda rhai yn colli hyd at £9000 y flwyddyn.
“Y gwir ydi, Cyngor Gwynedd sy’n camu i’r bwlch sydd wedi ei adael gan Lywodraeth San Steffan a’i tangyllido erchyll oherwydd polisi creulon a dideimlad. Ac, er gwaetha’r straen, cofiwch ein bod ni yma. Mae rhaglen cefnogi pobl Cyngor Gwynedd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Holwch am gymorth, ewch at Gyngor ar Bopeth, i’ch hwb cymunedol, llyfrgell neu siarad â’ch cynghorydd sir lleol. Rydan ni yma i gefnogi’n gilydd.”
Wrth gloi, meddai’r Cynghorydd Elin Hywel: “Mae sustem les a grëwyd i fod yn un o amddiffyn mewn argyfwng a chefnogi’r rhai sydd angen bellach yn system sy’n cosbi. Nid diffyg arian sy’n ysgogi’r toriadau hyn ond diffyg ewyllys gwleidyddol. Pan mae Llywodraeth yn caniatáu system dreth fuddiol i’r cyfoethog ond yn methu cynnal incwm sylfaenol i unigolion sy’n ceisio byw ar lai na £80 yr wythnos, mae hynny’n gwbl ragrithiol.
“Dwi’n hynod falch bod Cynghorwyr Gwynedd wedi rhoi cefnogaeth i’r cynnig ac y byddwn fel sir yn anfon neges glir i San Steffan – nid yw Cyngor Gwynedd yn cytuno â’i bryntni ac ni safwn yn fud pan fo pobl yn dioddef!”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter