Galw ar Lafur i ddiwygio fformiwla Barnett ar lawr y cyngor

Gyda thrigolion Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled oddeutu £1 miliwn* oherwydd codiadau Yswiriant Gwladol y Blaid Lafur, galwodd cynghorydd ar Lafur i ddiwygio fformiwla Barnett ar lawr y cyngor yng Ngwynedd yn ddiweddar (1 Mai).

“Mae angen ffordd decach o ariannu Gwynedd a Chymru,” meddai’r Cynghorydd Dros Harlech a Llanbedr, y Cynghorydd Gwynfor Owen, “yn arbennig felly a’n trigolion yn wynebu heriau costau byw fel gofal plant, codiadau mewn biliau ynni a dŵr a hyd yn oed costau bwyd sy’n cynyddu.

“Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Ac wrth gwrs, trethdalwyr Gwynedd sy’n dioddef gan bod raid cyfarch y bwlch ariannol.

“Mae Cynghorau Sir Cymru yn sicr o weld colled wrth i’r Llywodraeth ddefnyddio Fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael eu rhoi i wledydd datganoledig. Mae’r fformiwla yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn hytrach na’r angen sydd o fewn y gwledydd.

“Mae’n gwbl annheg na fydd gwasanaethau cyhoeddus yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd yn yr yswiriant gwladol. Mae nifer o gwmniau a sefydliadau eisoes wedi codi’r pwynt, ac mae’r geiniog yn gwasgu ar lawer o sefydliadau a busnesau. Polisi Llafur yw hwn. Mae’n enghraifft arall o sut mae Cymru dan anfantais llwyr o dan Llafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan.”

Mae gan Gymru ganran uwch o weithwyr yn y sector cyhoeddus, o'i gymharu â Lloegr a gweddill y Deyrnas Gyfunol.

Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys (yn y llun), Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd: “Mae Lloegr yn cael ad-daliad llawn am y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, ond tydi Cymru ddim.

“Mae hyn yn ddamniol wedi i ni glywed am bartneriaeth fawr bwerus Llafur yn San Steffan a Chaerdydd. Does gan Lafur yng Nghymru, yn amlwg, ddim dylanwad ar benderfyniadau eu cydweithwyr yn Llundain.”

“Dwi’n cefnogi’n llwyr yr alwad am ffordd decach o ariannu Cymru a’n trigolion ​ar lawr siambr y Cyngor Sir ac yn falch bod y cynnig wedi ei basio.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2025-05-06 12:19:31 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns