Mae holl arweinwyr cynghorau sir Plaid Cymru wedi galw ar Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru i weithredu ar ddatrysiadau ym maes tai i bobl leol ar fyrder.
Mae arweinwyr cynghorau sir Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin yn pwyso ar y Llywodraeth Lafur i:
- addasu Deddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw dŷ cyffredin yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd o dan reolau trethiant. Bydd perchnogion wedyn yn talu Treth y Cyngor ac nid Treth Busnes. Byddai’n sicrhau na ellid colli treth ychwanegol y premiwm ar ail gartrefi ac y byddai modd buddsoddi’r arian mewn tai i bobl leol.
- addasu polisïau cynllunio er mwyn creu dosbarth defnydd newydd ar gyfer llety gwyliau tymor byr. Wrth gael dosbarth defnydd penodol, byddai angen cael caniatâd cynllunio ar gyfer y defnydd ac felly’n rhoi’r grym i awdurdodau lleol reoli niferoedd tai gwyliau mewn ardaloedd penodol i sicrhau cydbwysedd o dai i bobl leol a llety gwyliau tymor byr o fewn cymunedau.
- gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, wedi ei reoli gan y cynghorau sir eu hunain, i sicrhau bod cydbwysedd o dai mewn cymunedau a thai ar gael i bobl leol eu prynu neu eu rhentu.
Yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Mae’n hen bryd symud ar hyn i geisio dylanwadu ar y sefyllfa dai ledled Cymru. Mae Gwynedd wedi comisiynu darn helaeth o waith ymchwil llynedd, ac wedi dod a datrysiadau ymarferol i’r bwrdd ym maes trwyddedu a chynllunio.
“Rydym yn awyddus iawn fel pedair sir arfordirol gorllewin Cymru i gydweithio gyda'r Llywodraeth, ond mae hi nawr yn amser i’r Prif Weinidog weithredu.”
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, dywed y pedwar arweinydd: “Mae’r bygythiad i hyfywedd cymunedau Cymraeg yn cynyddu’n sylweddol wrth i’r farchnad dai boethi a phrisiau gyrraedd y tu hwnt i bobl leol. Yn yr ardaloedd hyn, wrth gwrs, mae nifer helaeth yn cael eu prynu fel buddsoddiad ar gyfer gosod tymor byr neu fel ail dŷ.”
Derbyniodd y Llywodraeth gopi o’r ddogfen ymchwil o sylwedd ar dai gan Wynedd sy’n amlygu maint y broblem ac yn cynnig datrysiadau nôl ym mis Ionawr. Mae bellach yn hanfodol bod gweithredu yn digwydd er mwyn dylanwadu ar y sefyllfa dai yng nghymunedau gwledig ac arfordirol Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.
Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydym yn falch bod yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar dai yn dilyn yr un trywydd ag adroddiad Cyngor Gwynedd, ar y cyfan, ac edrychwn ymlaen at drafodaeth gyda’r Llywodraeth i fynd drwy’r glo mân.
“Dwi’n credu bod y Llywodraeth yn awyddus i geisio datrysiad i’r broblem ail gartrefi yng Nghymru. Mae gan cynghorau sir Plaid Cymru wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad ac yn awyddus i rannu eu profiad yn y maes a gweithio ar ddatrysiadau gaiff effaith ar un elfen o’r broblem cartrefu pobl ledled Cymru.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter