Grantiau datblygu tai ar gyfer prosiectau cymunedol

Mae’r cynghorydd sy’n arwain ar dai yng Ngwynedd yn galw ar gymunedau i fynd amdani a manteisio ar grantiau i helpu i droi gofod segur yn dai preswyl fforddiadwy i bobl leol.

“Mae gennym ni nifer o gynlluniau unigol i helpu i sicrhau bod pobl yn cael cyfleoedd i barhau i fyw yma yng Ngwynedd. Dwi’n awyddus i annog pobl i fanteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddynt drwy Gynllun Gweithredu Tai Gwynedd,” eglura’r Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd, Paul Rowlinson.

Un o’r rhain yw grant £50,000 i brosiectau adfywio cymunedol sy’n cynnwys cartref. Mae'r cyllid yn cefnogi prosiectau sydd eisoes wedi derbyn cefnogaeth ariannol ond sydd angen cymorth ychwanegol i helpu i droi gofod segur yn gartref am rent fforddiadwy i bobl leol.

Mae cymuned ym Mhen Llŷn wedi cael llwyddiant diweddar wrth wneud cais am yr arian, sef datblygiad Plas Carmel yn Anelog ger Aberdaron, Gwynedd. Mae’r grant wedi ei ganiatáu trwy Gyngor Gwynedd er mwyn helpu i drawsnewid tŷ capel yn gartref rhent fforddiadwy i drigolion lleol.

Ym Mhlas Carmel, mae’r tŷ capel sef adeilad rhestredig Gradd II sydd â thair ystafell wely ac sydd ynghlwm i’r capel yn cael ei drawsnewid yn gartref o ansawdd uchel i bobl leol fyw ynddo tra’n parchu arwyddocâd hanesyddol yr adeilad. 

Yn ôl Mared Llywelyn, Swyddog Addysg a Gwirfoddoli Plas Carmel: “Mae'r grant gan Gyngor Gwynedd wedi bod yn gymorth mawr wrth i ni adnewyddu Tŷ Capel Plas. Ein gweledigaeth ydi bod Plas Carmel yno ar gyfer y gymuned leol, a'u bod yn teimlo fel y gallant berchnogi'r safle.  

“Drwy rentu'r tŷ rydym yn gobeithio ein bod yn diwallu'r angen lleol am dai rhent, ac y bydd yn gartref cysurus, o safon uchel i unigolion neu deulu lleol.” 

Yn ôl y Cynghorydd Paul Rowlinson: “Dwi’n falch iawn bod Plas Carmel wedi llwyddo yn eu cais. Mae’r gwirfoddolwyr wedi gweithio’n galed ar elfen gyntaf eu cynllun, ac yn barod i fwrw ymlaen gydag ail elfen eu datblygiad.

“Mae'r cyllid yn cefnogi prosiectau sydd eisoes wedi derbyn cefnogaeth ariannol ond sydd angen cymorth ychwanegol i gwblhau elfen o greu cartref o fewn eu cynlluniau. Dwi’n annog mentrau cymunedol tebyg i Blas Carmel i ddod at Gyngor Gwynedd, gyda’i ceisiadau, er mwyn i ni weld a allwn ni eu cynorthwyo.”

Mae grant Gwynedd ar gael ar gyfer cynlluniau lle mae prosiect adfywio cymunedol fel adeiladau sy’n gaffi, tafarn, siop neu leoliad cymunedol ac yn cynnwys gofod segur y gellir ei droi i fod yn uned i fyw ynddo.

Mae criw Plas Carmel eisoes wedi sicrhau arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i ddatblygu’r capel hanesyddol i greu adnodd cymunedol a threftadaeth. Bydd y cartref newydd yn y tŷ capel yn ffordd o greu incwm gwerthfawr, drwy’r rhent, i’r fenter gymunedol helpu i sicrhau bod y prosiect yn gynaliadwy yn economaidd.

Mae’r cynllun grant yma’n rhan o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd (cyfeirnod: 3g), sy’n cynnwys cynlluniau i fynd i’r afael â digartrefedd, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ac adeiladu tai newydd i sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad i gartrefi addas o safon uchel, fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun grantiau, ewch i wefan Cyngor Gwynedd


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Courtney Jones
    published this page in Newyddion 2025-04-28 13:44:30 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns