Mae trigolion lleol a Chynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd yn llawenhau bod eu hymgyrch i wella llwybrau cerdded a beicio’r sir gam yn nes, diolch i ymgyrchu dros y saith mlynedd ddiwethaf.
Yn y llun ma Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd, Peter Read, Abererch ac Aled Wyn Jones, Llanaelhaearn
Mae buddsoddiad o £1.8miliwn i’w wario ar lwybrau troed a beicio ledled Gwynedd yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.
Un sydd wedi pwyso’n galed ar arian gan Llywodraeth Cymru i wella’r ddarpariaeth yn ei ardal ef ydi’r Cynghorydd Plaid Cymru Peter Read sy’n cynrychioli trigolion Abererch ar Gyngor Gwynedd.
“Dwi’n ymfalchïo yn y newyddion yma, ac wrth fy modd ein bod wedi gallu dwyn y maen i’r wal wedi blynyddoedd o ohebu, trafod a phwyso ar Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y llwybrau lleol yma,” eglura’r Cynghorydd Peter Reed.
“Mae sicrhau bod llwybr diogel i bobl Y Ffôr ac Abererch gerdded arni, a defnyddio beiciau, wedi bod yn un o’m blaenoriaethau i, fel cynghorydd lleol. Felly pan ddaeth y newyddion o’r diwedd bod buddsoddiad i greu llwybr cerdded a beicio newydd ar yr A499 o Lanaelhaearn i Bwllheli, roeddwn wrth fy modd.
“Doedd dim synnwyr bod cymaint o wariant wedi bod yn yr ardal a’r llwybr yn stopio yn Llanaelhaearn. Mae gwaith cytundebu, trafodaethau am bryniant tir a chynlluniau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Y gobaith yw y bydd y gwaith yn dechrau yn y gwanwyn flwyddyn nesaf.”
Ledled y sir bydd gwaith datblygu llwybrau yn digwydd yn yr ardaloedd canlynol:
- Trefor, A499 cyswllt llwybr beicio i’r pentref
- Cwm y Glo i Lanrug, A4086 llwybr beicio
- Llanrug drwy Bontrug am Gaernarfon, A4086 llwybr beicio
- Caernarfon i Fethel, B4366 llwybr beicio
- Llanaelhaearn i Gaernarfon, A499 llwybr beicio
- Bangor i Lanberis, A4244 a’r B4547 llwybr beicio
- Llanelltyd i Abermaw, A496
- Pwllheli, Ysgol Cymerau, lledu llwybr a chreu man croesi newydd ar Ffordd y Cob
Yn ôl Y Cynghorydd Peter Read: “Mi ddaw a thawelwch meddwl i bobl leol bod modd cerdded yn ddiogel ar hyd y ffordd a daw â budd iechyd a lles i drigolion lleol hefyd, gan roi’r cyfle iddynt fwynhau’r awyr iach a chadw’n heini.
“Yn ehangach, mi fydd yn cysylltu pentrefi gwledig â’i gilydd a chynnig darpariaeth hamddena i drigolion Gwynedd ac i ymwelwyr fwynhau beicio mewn amgylchedd diogel a braf.
Cynghorydd arall sy’n croesawu’r buddsoddiad i’r ardal yw Aled Wyn Jones, cynrychiolydd Llanaelhaearn ar Gyngor Gwynedd.
“Mae’r gwaith o greu llwybr cerdded a beicio newydd o brif ffordd yr A499 i bentref Trefor yn digwydd ar hyn o bryd. Bydd yn dawelwch meddwl bod llwybr diogel ar gael fel mynediad i’r pentref ar gyfer trigolion lleol yr ardal, felly dwi’n falch iawn o weld y gwaith yn digwydd. Mae’r gwaith hwn yn estyniad i’r llwybrau diogel sydd wedi eu creu yn y pentref i alluogi plant ac oedolion i symud yn ddiogel i’r ysgol, y cae chwarae a’r ganolfan.
“Rhaid diolch i’r trigolion lleol am eu hamynedd wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Dyw cael goleuadau traffig a gwaith ffordd yn digwydd mewn unrhyw leoliad ddim yn hwylus, ond bydd pen llanw’r gwaith yn destun balchder i bawb yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Mae sicrhau bod y Llywodraeth yng Nghaerdydd yn buddsoddi mewn unrhyw gymuned yn rhyfeddol yn yr hinsawdd sydd ohoni. Mae’n dangos bod gwaith caled gan dîm Plaid Cymru Gwynedd yn sicrhau gweithredu a bod buddsoddiad yn cyrraedd cymunedau yng Ngwynedd. Mae’n beth da bod ardaloedd yng Ngwynedd yn cael budd o gronfeydd ariannol penodol fel hyn i wella darpariaeth a diogelwch.
Mae’r cyllid ar gyfer y llwybrau wedi dod o dair gronfa wahanol gan Llywodraeth Cymru – y Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd a’r Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter