Gwersi nofio arbennig wedi eu creu ym Mlaenau Ffestiniog

Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus, mae’r Cynghorydd Annwen Daniels, Blaenau Ffestiniog wedi llwyddo i sicrhau bod gwersi nofio newydd sbon yn digwydd i grŵp o blant gydag anableddau ym mhwll nofio Blaenau Ffestiniog.

Y Cynghorydd Annwen Daniels (canol) gyda staff y pwll nofio a rhai o'r plant sy'n derbyn y gwersi nofio

Mewn cynllun peilot arbennig, mae’r Cynghorydd Daniels yn gobeithio bydd y cynllun yn cael ei ymledu i ganolfannau eraill o fewn Gwynedd yn y dyfodol.

“Mae nofio yn un un o’r sgiliau bywyd hanfodol ac yn ffordd o gadw’n iach ac yn heini,” meddai’r cynghorydd Annwen Daniels, sy’n cynrychioli trigolion Bowydd, Rhiw a Thanygrisiau ar Gyngor Gwynedd.

“Dwi’n credu y dylai pob plentyn ar draws y sir gael y cyfle i ddysgu nofio a hynny trwy fynediad at wersi nofio rhesymol eu pris, mewn canolfannau hamdden lleol.

“Ers tro dwi wedi bod yn pwyso ar y Cyngor i gynnal gwersi nofio i grŵp o blant gydag anableddau oherwydd nad yw’r gwersi nofio prif lif yn addas iddynt. Roedd cyfle i rieni dalu am wersi un i un ar gyfer plant gydag anableddau, ond mae'r gwersi rheiny yn gallu bod yn ddrud ac ni all bob teulu eu fforddio.

“Dwi wedi bod yn cydweithio gyda swyddog o wasanaeth hamdden Cyngor Gwynedd i weld beth fyddai’n bosib i’r Cyngor ei gynnig. Ro'n i wrth fy modd pan glywais fod y Cyngor wedi cytuno i gychwyn cynllun peilot ym mhwll nofio Bro Ffestiniog er mwyn gweld sut byddai’r gwersi yn datblygu.

“Erbyn hyn mae gwers nofio hanner awr yn cael ei gynnal ar gyfer grŵp bach o hyd at chwe phlentyn bob wythnos ym Mro Ffestiniog. Mae’r staff yn wych gyda’r plant ac mae’r plant yn cael hwyl a mwynhau cael gwers gyda phlant eraill yn y grŵp.

Yn ôl yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros hamdden, Cynghorydd Craig ab Iago: “Mae’r syniad o greu gwers nofio arbennig i blant efo anableddau ddysgu sgil pwysig oherwydd bod galw gan deuluoedd amdano yn wych. Mae’r staff sydd â chyfrifoldeb dros y gwasanaeth hamdden yn Blaenau i’w canmol am drafod syniadau efo’r gymuned a chydweithio i gynnig darpariaeth sy’n hyfyw, yn hwylus i’r teuluoedd ac i’r ardal. Ein gobaith yw ehangu’r ddarpariaeth i ardaloedd eraill wedi’r cyfnod peilota, fel bod gweledigaeth Plaid Cymru Gwynedd a’r Cynghorydd Annwen Daniels, yn cael ei wireddu.”

Yn ôl Y Cynghorydd Daniels: “Bydd y gwersi presennol yn cael eu cynnal hyd at ddiwedd Gorffennaf ac os ydynt yn boblogaidd, y gobaith yw y byddant yn parhau ym mis Medi. Bydd ystyriaeth hefyd yn cael ei roi i ddarparu’r gwersi mewn canolfannau hamdden eraill ar draws y sir.”

Os oes gan deuluoedd ddiddordeb mewn gwneud cais am le yn y wers nofio arbennig ym Mro Ffestiniog, cysylltwch â’r Ganolfan Hamdden ar 01766 831066.


Dangos 3 o ymatebion

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns