Mae Plaid Cymru Gwynedd wedi dechrau trafodaethau swyddogol â Stâd y Goron i bwyso am degwch i drigolion y sir trwy ryddhau’r orfodaeth i dalu prydles am dir, arfordir a moroedd o fewn ffiniau Gwynedd. [Llun: Cynghorydd Dewi Jones ac arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Nia Jeffreys o flaen y Fenai]
Mewn cyfarfod diweddar rhwng Cyfarwyddwr Cymru Stad y Goron ag arweinydd Plaid Cymru Gwynedd a’r Cynghorydd Dewi Jones a gododd y mater yn y cyngor llawn nôl ym mis Hydref llynedd, pwysleisiwyd y sefyllfa ariannol heriol sy’n wynebu cynghorau sir.
Yng Ngwynedd yn unig, talwyd dros £160,000 o arian cyhoeddus i Stad y Goron yn 2023; amrywiaeth o £35 ar gyfer darn o draeth Bangor, £8,500 ar gyfer darn o draethau yn Nwyfor a swm anferthol o £144,000 ar gyfer Hafan Pwllheli.
Yn ôl y Cynghorydd Dewi Jones, Peblig: “Meddyliwch beth fyddai Cyngor Gwynedd wedi gallu ei gyflawni dros drigolion y sir gyda dros £160,000 yn fwy o arian yn 2023? Mae’r ffaith bod ni’n gorfod talu rhent am fynediad i’n tir ein hunain yn ein gwlad ein hunain yn anfoesol.
“Mae datganoli Stâd y Goron yn ymwneud â llawer mwy na dim ond pwy sy'n rheoli’n tir a’n moroedd. Mae'n ymwneud â hyder yn ein gallu i lywodraethu ein hunain, ymddiriedaeth yn ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a’r hyder i lunio economi sy'n gwasanaethu pobl Cymru a thrigolion Gwynedd. Dyna un neges glir i ni ei rhannu gyda Chyfarwyddwr Cymru yn ein cyfarfod.”
Roedd elw Stâd y Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2023/24 i £1.1 biliwn yn 2023/24. Yn yr un cyfnod, mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn termau real. Erbyn hyn, mae bwlch ariannol o £9 miliwn gan Wynedd i ddelio ag o, cyn gosod cyllideb 2024/25.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Rhaid diolch i’r Cynghorydd Dewi Jones am godi’r pwnc yma ar lawr y cyngor nôl ym mis Hydref. Erbyn hyn, mae 11 allan o’r 22 o gynghorau sir wedi galw am ddatganoli Stâd y Goron i ddwylo Cymru. Mae’r momentwm yn tyfu.
“Gydag adnoddau cyhoeddus gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn parhau i wasgu cynghorau sir, mae’n rhaid cael gwell trefn ar ariannu gwasanaethau yng Nghymru. Dyw’r briwsion sy’n cael eu taflu ato ni flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddim yn mynd i sicrhau tegwch i blant Gwynedd sydd angen gofal, pobl hŷn y sir sydd angen cefnogaeth yn eu henaint, na theuluoedd Gwynedd sydd angen cartrefi parhaol.
“Mae’n hen bryd i lywodraethau Caerdydd a San Steffan fynd i’r afael â’r tanariannu sy’n digwydd ar lawr gwlad. Dyma un ffordd y gallai sefyllfa Cymru a thrigolion Gwynedd wella. Mae’n anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd tuag at gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn Llundain. Dylai'r arian hwn aros yng Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd.”
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys mae’n ddiolchgar i Gyfarwyddwr Cymru a’i thîm am gyfarfod â nhw i drafod y mater pwysig hwn.
“Mae angen ewyllys gwleidyddol i newid hyn, ac ar hyn o bryd mae’r blaid Lafur yn llawer iawn rhy dawedog am y broblem.”
Bydd Bil Stâd y Goron yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun 24 Chwefror. Diolch i welliant gan Plaid Cymru, dyma’r cyfle i fynnu tegwch i Gymru yn San Steffan.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter