Gwynedd yn diogelu cymunedau dros fisoedd y gaeaf

Gyda’r gaeaf wedi cyrraedd, mae Cynghorwyr Plaid Cymru mewn ardaloedd gwledig yng Ngwynedd yn falch bod halen i’w ddosbarthu i finiau melyn y sir, am ddim, y gaeaf hwn.

Yn dilyn trafodaethau gyda’r aelod cabinet sydd â’r cyfrifoldeb dros briffyrdd, y Cynghorydd Plaid Cymru, Catrin Wager, roedd pryder mewn ardaloedd gwledig bod y gost o lenwi’r biniau halen yn ychwanegu at bwysau cynyddol sydd ar gynghorau cymuned a thref:

“Pwysau ariannol annheg yn dilyn y wasgfa ariannol sydd wedi ei orfodi ar gynghorau sir dros y blynyddoedd diwethaf gan Lywodraeth San Steffan sydd wedi dod â’r Cyngor i’r sefyllfa yma,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager.

“Ond mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar leisiau sy’n mynegi pryderon am y drefn a gyflwynwyd, a dwi’n falch o adrodd ein bod yn gallu cyflwyno newidiadau leni sy’n golygu y bydd Cyngor Gwynedd bellach yn llenwi’r biniau halen i geisio lleihau effeithiau tywydd garw yng nghefn gwlad.”

Yn ôl y Cynghorydd Elwyn Edwards sy’n cynrychioli Ward Llandderfel ger y Bala: “Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Cynghorydd Plaid Cymru, Catrin Wager am drafod, ymchwilio a chydweithio’n gadarnhaol â ni yn wardiau gwledig y sir, i sicrhau bod biniau halen sydd wedi ei lleoli ar ochrau ffyrdd yn ein hardaloedd i’w llenwi am ddim gan y Cyngor Sir eleni.

“Mae’r rhwystrau sy’n codi i gymunedau gwledig pan fo’r tywydd yn troi yn gallu achosi problemau i weithwyr rheng-flaen deithio i’w gwaith, i lorïau fel rhai sy’n codi llaeth o ffermydd godro ac i drigolion yn gyffredinol wrth iddynt geisio symud yn ddiogel ar hyd lonydd gwledig sydd heb eu graeanu.

“Os gallwn ni, fel Cyngor, geisio lleddfu rhywfaint o’r baich hwn, yna rydyn ni’n mynd y filltir ychwanegol i gefnogi ein cymunedau. Mae diogelwch ein trigolion a’n staff yn hollbwysig.”

Yn Ward Llandderfel yn unig, mae’r biniau halen ar y ffyrdd bychain yn dyngedfennol bwysig gan bod rhai o’r lonydd yn cyrraedd 1900 o droedfeddi uwchlaw lefel y môr. Mae gaeafau yn gallu bod yn galed iawn a rhew ac eira yn achos trafferthion wrth deithio ar hyd y ffyrdd gwledig.

Llun o'r Cynghorydd Elwyn Edwards yn ngiât ffordd fferm Wyau Cae Pant yn Llandderfel

Yn ôl Colin Jones o gwmni Wyau Cae Pant yn Llandderfel: “Fel busnes, mi all y gaeaf fod yn anodd wrth ddosbarthu wyau a derbyn bwyd i’r ieir yma i fuarth y fferm gyda’r loriau, oherwydd y tywydd garw a’n lleoliad ni.

“Mae giât ffordd y fferm ar dop allt serth heibio i bentref Llandderfel. Felly, mae’r dirwedd yn uchel a’r allt yn llithrig iawn pan ddaw’r tywydd gaeafol.

Mae clywed y bydd biniau halen yn cael eu llenwi yn yr ardal am ddim gan y cyngor leni, yn newyddion da iawn i ni. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r cynghorydd lleol, Elwyn Edwards am godi’r mater a thynnu sylw swyddogion at y broblem.”

Yn ôl y Cynghorydd Catrin Wager: “Dwi’n falch bod cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd sy’n cynrychioli ardaloedd gwledig wedi dod atai i drafod y pryder yma. Trwy gydweithio rydyn ni’n llwyddo i ddatrys problemau, cefnogi cymunedau a rhoi buddiannau pobl Gwynedd yn gyntaf.

“Mae’r pwysau ariannol gan y Torïaid yn San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf wedi golygu bod gwasanaethau sydd ddim yn gyfrifoldeb statudol ar gynghorau sir wedi eu torri neu wedi cyrraedd yr asgwrn ac mae hynny yn gwbl annheg ar drigolion a chymunedau Gwynedd.

Mae Pwyllgor Craffu Cyngor Gwynedd hefyd wedi codi’r mater â’r Adran wedi bod yn chwilio am ddatrysiad.

Y Cyngor sy’n graeanu ffyrdd prif flaenoriaeth ac ail flaenoriaeth ledled y sir, ond nid oes cyfrifoldeb statudol i raeanu lonydd eraill y sir. Trwy gyflenwi’r graean, mae’n rhoi cymorth i drigolion sy’n byw yn yr ardaloedd gwledig gyrraedd at yr halen yn agos at eu cartrefi, pan fydd y tywydd yn achosi trafferthion.

“Yn yr achos yma, mae cyflwyno’r graen i’r biniau halen am ddim y peth cywir a theg i’w wneud i drigolion Gwynedd. Mae ardaloedd gwledig ledled Gwynedd yn cael cyflenwadau halen yn y biniau melyn fel bod gwell siawns gan bobl i symud a theithio gyda gofal dros fisoedd o dywydd garw y gaeaf yma,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager.

Mae gohebiaeth wedi ei anfon at Gynghorau Cymuned a Thref y sir i’w hysbysu am y newidiadau i’r drefn ar gyfer eleni.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2021-12-21 14:33:15 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns