Mae‘r Blaid yng Ngwynedd sy’n parhau i bwyso am newid i alluogi pob unigolyn nodi ei Chymreictod/Gymreictod ar ffurflen y Cyfrifiad yn dweud bod y gwaith yn cymryd cam yn y cyfeiriad cywir, yn ôl aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gydaraddoldeb.
Ar hyn o bryd, does dim cyfle i unigolion nodi os ydynt yn Gymro neu Gymraes Du, Asia, Caribî neu Affrica o dan is-benawdau penodol ar y ffurflen. Mae’r ffurflen yn awgrymu bod bod yn Gymro, Sais, Albanwr, Gwyddelig wedi ei gyfyngu i fod yn wyn, yn unig. Ac o dan y categorïau Asiaidd a Du, mae’r gair Prydeinig yn ymddangos, sy’n tanseilio holl ethos o roi’r hawl i unigolion nodi eu cenedligrwydd a’u tras.
“Mae’r ffurflen yn gwbl gamarweiniol ac yn cyfyngu ar allu bob unigolyn i nodi eu bod yn Gymreig,” yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb o fewn y Cyngor.
“Mae hyn yn annerbyniol. Mae’n feddylfryd hen ffasiwn rydym yn ceisio ei ddiddymu o fewn cymdeithas, ac mae cael ffurflen cyfrifiad yn cyfyngu ar allu rhai unigolion i fynegi eu Cymreictod yn anghywir.
Yn ôl arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn oedd hefyd yn bresennol yn y cyfarfod diweddar: “Rydym yn ddiolchgar i swyddogion yma yng Ngwynedd am geisio dwyn y maen i’r wal gyda’r gwallau yma yn ffurflen y Cyfrifiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Cawsom gyfarfod cadarnhaol gyda Dirprwy Gyfarwyddwr y Cyfrifiad yn ddiweddar, i nodi ein pryderon. Rydym eisoes wedi anfon mwy o wybodaeth atynt yn dilyn y cyfarfod, er mwyn pwysleisio’r trafferthion sy’n codi o gyfyngu ar hawliau unigolion.
“Yma yng Ngwynedd, rydym wedi addasu’r math yma o gategorïau o fewn ein holiaduron ers tro byd, ac mae cyrff cyhoeddus eraill wedi gwneud yr un modd. Mae’n hen bryd, felly i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol addasu eu ffurflenni eu hunain, a hynny, cyn lansio Cyfrifiad 2021.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter