Ar ddechrau cyfarfod o gabinet Cyngor Gwynedd heddiw (15 Hydref), gwnaeth arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn ddatganiad yn nodi eu bod fel gwleidyddion yn sefyll yn gadarn gyda phobl Catalwnia, yng ngwyneb y gorthrwm y mae naw o wleidyddion y wlad yn ei wynebu.
“Dwi’n teimlo’n hollol ddig bod rhyddid naw o wleidyddion blaengar Catalwnia wedi ei ddwyn oddi arnynt am gynnal pleidlais i fynegi barn y bobl ar annibyniaeth eu gwlad. Mae’n warth i ddemocratiaeth a dwi’n llwyr gondemnio gweithredoedd gwladwriaeth Sbaen.
“Mae’n brawychu dyn bod rhyddid yr unigolyn i fynegi barn wedi ei chwalu yn Sbaen yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n ymosodiad ar ddemocratiaeth y wlad, mae’n ymosodiad ar hawliau dynol sylfaenol ac mae’n tanseilio popeth rydyn ni, fel poblogaeth wâr yn ei gredu.
“Safwn gyda phobl Catalwnia heddiw, safwn gyda’i gwleidyddion sydd dan glo a safwn fel un gyda phobl y wlad.
“Mae’n warth bod diffyg ymateb yn dod gan Llywodraeth San Steffan ar y mater tyngedfennol pwysig yma sy’n herio democratiaeth ledled y byd. Galwn ar yr Undeb Ewropeaidd i herio Llywodraeth Sbaen ac i sicrhau eu bod yn ateb eu camweddau, yn ddi-oed.
Ychwanegodd y Cynghorydd Siencyn eu bod yn cofio hefyd am ein cymrodyr yn Cwrdistan sydd fel gwleidyddion Catalwnia yn dyheu am eu rhyddid o dan orthrwm byddin Twrci.
diwedd
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter