“Dylai Cymru gael yr un hawl a’r Alban a Gogledd Iwerddon i nodi diwrnod ein nawddsant, Dydd Gŵyl Ddewi, yn ŵyl banc cenedlaethol,” yn ôl y Cynghorydd dros Landderfel, ger y Bala, Elwyn Edwards (yn y llun).
“Does dim synnwyr nad yw’r grym gennym ni, fel gwlad, i benderfynu ar ddyddiau sydd o bwys cenedlaethol i’n hanes, treftadaeth a’n hiaith ni ein hunain,” ac o flaen Cynghorwyr Gwynedd yr wythnos hon (7 Hydref), daeth cefnogaeth gref i gais y Cynghorydd o Benllyn.
Roedd mwyafrif o gynghorwyr Gwynedd o blaid yr alwad ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r grym i Lywodraeth Cymru allu creu gwyliau banc i Gymru drwy’r Ddeddf, Banking and Financial Dealings Act 1971, fel ag sy’n digwydd ar hyn o bryd yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
“Dwi’n falch iawn bod cefnogaeth ar lawr y cyngor i’r cais yma ac yn falch hefyd bod cabinet y cyngor am ystyried cydnabod Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol i’r gweithlu trwy roi diwrnod o wyliau iddynt. Bydd angen edrych yn fanylach yng nghyswllt yr ysgolion a’r gweithlu gofal, gan eu bod yn wasanaethau hanfodol a phwysig. Wrth gwrs, rhaid cofio hefyd bod y diwrnod yn cael ei ddathlu yn ein hysgolion.
“Mae Gwynedd yn arwain y ffordd ym maes iaith a diwylliant, felly mae hi’n gydnaws ein bod ni fel cyngor yn ymchwilio i ymarferoldeb hyn, ac yn annog cynghorau eraill ledled Cymru i ddilyn yr un trywydd.
“Gwnewch y pethau bychain, oedd neges Dewi Sant. Ein gobaith ni rŵan yw y gall Llywodraeth San Steffan wneud un peth bach a all droi i fod yn rhywbeth mawr a phwysig i ni yma yng Nghymru. Mae’n hen bryd i ni gael hawliau i lywodraethu drosom ein hunain. Byddwn yn parhau â’r frwydr.”
Un sy’n croesawu’r cynnig yw’r aelod cabinet dros Gefnogaeth Gorfforaethol ac sydd â’r cyfrifoldeb dros faterion staffio Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys; “Dwi’n falch bod y Cynghorydd Elwyn Edwards wedi cyflwyno’r cynnig yma ac yn gefnogol iawn i’r egwyddor.
“Mae hi’n gywilyddus nad oes gan Gymru y pŵer i benderfynu ar ein gwyliau banc ein hunain - yr unig wir ateb i ni yw annibyniaeth!”
“Yn amlwg, mae nifer o fanylion cyllidol i’w hystyried cyn y gellir gwireddu’r egwyddor yma i staff y Cyngor – byddaf yn holi’r adran i gychwyn ar y gwaith cyn gynted â phosib er mwyn dod a’r mater o flaen y Cabinet.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter