“Mae’n hen bryd i’r llywodraeth yn San Steffan roi’r hawl i Lywodraeth Cymru ddynodi Mawrth y cyntaf yn wyliau cenedlaethol swyddogol. Mae’n teimlo nad oes gennym ni, fel gwlad, yr hawl i gydnabod Dewi Sant fel Nawddsant Cymru, oherwydd haerllugrwydd a hualau o du’r senedd yn Lloegr.”
Dyna farn y Cynghorydd Elwyn Edwards, Llandderfel wrth iddo lwyddo i ennill cefnogaeth ei gyd gynghorwyr ar lawr y Cyngor (3 Hydref).
“Dwi’n ymddiheuro dim am godi’r mater yma, eto, ar lawr siambr y Cyngor. Mae Seintiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael cydnabyddiaeth lwyr gan eu cenedl, trwy nodi’r diwrnod fel gwyliau cenedlaethol. Ydi Cymru ddim digon pwysig, felly, i gael yr hawl yma i benderfynu drosom ni’n hunain?
“Mae difaterwch y Torïaid yn San Steffan i’r mater yma dros y blynyddoedd wedi bod yn haerllug. Mi rydyn ni’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei chefnogaeth i’n cais yn y gorffennol. Mae’n hen bryd rŵan i’r Blaid Lafur ym mhob haen o lywodraeth, roi’r hawl i ni, fel cenedl, benderfynu drostom ni’n hunain sut i nodi’r achlysur pwysig yma yn ein calendr blynyddol.
“Mae digon o siarad gwag wedi bod gan y Blaid Lafur am nifer o bynciau dros y blynyddoedd. Gan mai nhw sydd bellach yn llywodraethu yn Senedd Cymru ac yn San Steffan, siawns y bydd modd dwyn y maen i’r wal ar ŵyl banc cenedlaethol i’r genedl ar y cyntaf o Fawrth?
“Galwn am gefnogaeth holl gynghorau sir, tref a chymuned yng Nghymru i gydweithio â ni a Llywodraeth Cymru i bwyso ar San Steffan am newid erbyn y cyntaf o Fawrth 2025.”
Cynigiodd y Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd, Elwyn Edwards, y cais fel rhybudd o gynnig yng Nghyngor llawn y Cyngor ac fel basiwyd y cynnig.
Diwedd
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter