Incwm sylfaenol i bob un o drigolion Gwynedd?

Sut allwn ni, yng Ngwynedd, wella iechyd a lles ein trigolion trwy ddarparu incwm safonol sy'n dileu banciau bwyd, digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl yw’r cwestiwn y mae Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd, Elin Walker Jones yn ei holi. Trwy fuddsoddi mewn Incwm Sylfaenol Cyffredinol (Universal Basic Income) ledled Cymru.

Dyma'r cwestiwn y mae Plaid Cymru Gwynedd yn ei gyflwyno i bob un o Gynghorwyr Gwynedd ddydd Iau, 4 Mawrth, yn y cyngor llawn, gan holi am gefnogaeth i alw am newid a chyflwyno Gwynedd fel cynllun peilot posib i ymchwil bellach yn y maes.

Beth yw Incwm Sylfaenol Cyffredinol (ISC)? System gymorth ariannol wladwriaethol sy'n sicrhau chwarae teg, lle byddai pawb, beth bynnag fo eu sefyllfa, boed yn gweithio neu'n ddi-waith, yn derbyn safon byw sylfaenol gan y Llywodraeth.

Yn ôl y Cynghorydd dros Ward Glyder, Bangor, Elin Walker Jones: “Mae symudiad Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn ennill tir ledled Cymru ac mae UBI Lab Cymru yn ymchwilio i fesurau ymarferol a hyfyw o gyflwyno incwm sylfaenol i bawb. Byddai Gwynedd yn sir ddelfrydol i dreialu cynllun peilot o'r fath a dyma fydd un o’r pwyntiau byddai’n galw am gefnogaeth gan fy nghyd-gynghorwyr fory."

“Mae COVID-19 wedi dangos bod darparu sicrwydd ariannol i bobl ddim yn annog diogi. Beth sy’n digwydd yw bod y gefnogaeth yn rhoi rhyddid i bobl ofalu am eu hanwyliaid, cefnogi eu cymunedau a chwilio am gyfleoedd hyfforddi a datblygu personol.

“Mewn gwledydd eraill, mae cyflwyno ISC wedi gweld cyflogaeth yn cynyddu, yn ogystal â gwella iechyd pobl a chynyddu hyder a chymhelliant unigolion. Fel seicolegydd fy hun, dwi’n deall yr awydd sydd gan bobl  i weithio. Mae unigolion yn awyddus i rannu eu sgiliau a'u diddordebau mewn ffordd sy'n cyfoethogi cymdeithas.

“Un o egwyddorion sylfaenol Plaid Cymru yw mynd i’r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol. Mae tystiolaeth ymchwil* yn dangos cysylltiad clir rhwng anghydraddoldeb cymdeithasol a phroblemau cymunedol fel trosedd, camddefnydd cyffuriau ac alcohol, problemau iechyd meddwl difrifol a digartrefedd.

“Pam ar wyneb y ddaear, yn yr 21ain ganrif, ein bod ni’n parhau i dderbyn problemau fel hyn, a pharhau i wneud dim i gefnogi, newid na gwneud gwahaniaeth i safon bywydau pobl. Yn fy marn i, byddai ISC yn lliniaru nifer o'r materion yma o fewn eich cymuned leol chi, fy nghymuned leol i ac mewn cymunedau ledled Cymru.”

Amcangyfrifir bod gwerth £16 biliwn o gynllun credyd pensiwn y DU ddim yn cael ei hawlio’n flynyddol, gan adael pobl mewn sefyllfaoedd bregus.

Yn ôl ‘The Equality Trust’ yn 2014 mae’r Deyrnas Gyfunol yn gwario £39 biliwn y flwyddyn yn fwy na gwledydd cymharol, lle mae incwm yn cael ei ddosbarthu'n fwy teg. A’r rheswm dros hyn yw oherwydd bod anghydraddoldeb yn arwain at salwch, trosedd a phroblemau iechyd meddwl.

“Byddai’n well gwario’r arian yma’n cynyddu incwm pobl fel ein bod ni’n gweld llai o’r problemau costus hyn. Byddai dosbarthu arian yn fwy cyfartal a rhannu cefnogaeth yn eang yn rhoi opsiynau i bobl, byddai'n grymuso pobl i wneud penderfyniadau gwell, a chynnig help llaw ymarferol i bobl,” esbonia’r Cynghorydd Elin Walker Jones sy'n dosbarthu parseli bwyd yn rheolaidd yn ei hymdrech i gefnogi ei chymuned.

“Mae cynghorwyr ledled Cymru wedi bod yn trafod buddion Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn ystod y misoedd diwethaf. Amcangyfrifodd ymchwil yn 2008-2009 bod Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Torïaid wedi gwario bron cymaint o arian yn ymchwilio i dwyll a chamgymeriadau ag y gwnaethant adennill o'r broses! Nid yw'r system les yn ffit i bwrpas, mae’n gadael pobl Gwynedd a phobl Cymru i lawr. Mae angen i rywbeth newid.

“Mae’r pandemig wedi gosod chwyddwydr ar anghydraddoldeb, ar hunllef fiwrocrataidd ein system les ac wedi dangos pa mor fregus yw rhwydweithiau cymorth go iawn ein cymunedau. Mae system les y Deyrnas Gyfunol yn anghenfil anhyblyg ac aneffeithlon.

“Gallai ISC fod yn amddiffyniad pwysig wrth i awtomeiddio fygwth swyddi medrus, wrth i Brexit fygwth mwy fyth o swyddi na COVID19, ac wrth i’n Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol gwerthfawr gael ei breifateiddio’n dawel fach a dioddef o doriadau dirifedi.

“Gadewch i ni gydweithio a phwyso ar wleidyddion San Steffan a Chaerdydd i weld newid sydd o fudd i bawb ac sy’n gosod cyfleoedd cyfartal i’n trigolion. Rhiant o Wynedd sy'n awyddus i aros adref i fagu ei blentyn, heb y bygythiad o lwgu. Mab neu ferch sydd eisiau gofalu am riant sy'n ymladd cancr heb y baich o gynnal swydd i gadw dau ben llinyn ynghyd. Cwpl oedrannus yn mwynhau eu blynyddoedd olaf gyda'i gilydd, heb fyw mewn ofn o fethu talu eu bil ynni ar ddiwedd bob mis.

“Byddaf yn annog fy nghyd-gynghorwyr i basio’r cynnig hwn a phwyso ar Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Canghellor Llywodraeth San Steffan, Prif Weinidog Cymru a’n Aelodau Seneddol yma yng Ngwynedd.”

 

 

* The Spirit Level: Why Equality is Better for Everyone, Penguin Books, gan Richard G. Wilkinson and Kate Pickett (2010).


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2021-03-03 18:31:28 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns