Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros Ward De Dolgellau, Linda Morgan, sy’n ateb cwestiynau Holi Hwn a Holi Llall y mis yma. Dyma ddysgu ychydig bach mwy amdani...
Enw: Linda Morgan
- Oed: 66
- Ymhle cawsoch eich geni? Dolgellau - yma ges i fy ngeni a’m magu ac yma ydw i byth.
- Ymhle ydych chi’n byw: Y Lawnt, Dolgellau
- Oes gennych chi deulu: Mae gen i ddau fab a dau ŵyr. Mae’r ddau fab yn seiri coed gyda busnesau eu hunain, yma yn Nolgellau.
- Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am fod yn Gynghorydd Sir: Helpu pobl, cefnogi pobl a gweithio gyda nhw i ddatrys problemau. Dwi wedi bod yn cysgodi yn ystod y broses glo oherwydd rheymau meddygol, ond dwi dal wedi gallu cefnogi pobl ar y ffôn, trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac os bydd unrhyw un yn galw at y drws. Mae technoleg wedi bod yn help aruthrol i bob un ohonom, yn enwedig wrth alluogi mi i hyrwyddo busnesau lleol a siopau’r dref yn ystod y pandemig yma. Bydd ein busnesau lleol ein hangen ni fwy nag erioed, ar ôl i ni ddod allan o’r clo.
- Beth ydych chi’n ei gasau fwyaf am fod yn Gynghorydd Sir: Peidio llwyddo
- Pwy yw eich arwr / arwres? Gwraig leol 105 oed, a ofynnodd i mi, tua 35 mlynedd yn ôl, i ymuno â phwyllgor Cyfeillion Ysbyty Dolgellau. Ei henw yw Mrs Anne Jones, sydd bellach yn byw yng Nghartref Cefn Rodyn. Fi oedd aelod ieuengaf y pwyllgor ar y pryd ac ers y cyfnod hwnnw, dwi wedi dod yn gadeirydd ar y pwyllgor fy hun. Rydym wedi llwyddo i godi miloedd o bunnoedd i'r ysbyty dros y blynyddoedd. A dod yn aelod o'r pwyllgor cyntaf hwnnw, mae'n debyg, wnaeth helpu i godi fy hyder i sefyll fel Cynghorydd Tref ac yna symud ymlaen i sefyll fel Cynghorydd Sir dros Ddolgellau. Mae Mrs Jones yn ddynes ysbrydoledig iawn.
- Beth yw eich atgof plentyn hapusaf: Mynd i Butlins ar drip blynyddol Ysgol Sul yr Eglwys. Roedden ni bob amser yn mynd ar y trên, roedd yn andros o gynhyrfus, bod ymhlith ffrindiau a theulu, a mwynhau ein hunain.
- Beth yw eich ofn mwyaf: Uchder. Dwi’n cofio mynd â'r plant i Gastell Harlech pan oedden nhw’n ifanc a dyma nhw’n rhedeg i fyny'r grisiau o fy mlaen, a finna yn cyrraedd atynt ar fy ngliniau y tu ôl iddynt, yn dal gafael arnyn nhw, wrth iddyn nhw edrych i lawr trwy'r bwlch yn y ffenestr wag islaw. Mi oeddwn i ofn am fy mywyd ac yn methu’n glir a sefyll ar fy nhraed!
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter