Llongyfarch talent Gwynedd, yr Urdd ac Eisteddfod T

“Mae’n hyfryd gallu llongyfarch tri pherson ifanc o Wynedd a ddaeth i’r brig mewn tair prif cystadleuaeth Eisteddfod rhithiol yr Urdd, ‘Eisteddfod T’” meddai arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn (a welir ar y dde yn y llun).

  1. Dydd Llun (25 Mai) enillodd Cai Fôn Davies o Benrhosgarnedd wobr prif pyfansoddwr yr ŵyl
  2. Dydd Iau (28 Mai) cafodd Mared Fflur Jones o’r Brithdir ei gwobrwyo fel prif lenor yr Ŵyl
  3. Dydd Gwener (29 Mai), daeth Osian Wyn Owen, Felinheli i’r brig fel prif fardd yr Eisteddfod

“Mae hi wastad yn bleser gweld ieuenctid Gwynedd yn llwyddo” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

“Hoffwn ymuno â’r genedl gyfan wrth longyfarch Mared, Cai ac Osian ar eu campau gan ddymuno pob llwyddiant a llewyrch iddynt wrth iddynt barhau i feithrin eu talentau.”

Ychwanegodd y Cynghorydd sir dros Frithdir, Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltyd, Peredur Jenkins “Pleser oedd clywed i ferch o’r ardal, Mared Fflur Jones o Fronalchen, Brithdir ddod i’r brig fel prif lenor Eisteddfod yr Urdd eleni. Rydym, fel ardal, yn ymfalchïo yn ei champ ac yn ei llongyfarch yn wresog iawn. Mae hi’n ferch dalentog, yn serennu mewn sawl maes, ac rydym yn falch bod un o’r ardal hon wedi cyrraedd y brig fel prif lenor, ac yn dymuno pob lwc iddi i’r dyfodol.”

Roedd y Cynghorydd Menna Baines hefyd ar ben ei digon wrth glywed am lwyddiant gŵr ifanc o’i ward hithau: “Dwi’n hynod falch fod Cai Fôn wedi dod i’r brig fel Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T 2020. Mae wedi cystadlu, meithrin ei ddoniau a’i grefft gerddorol ers blynyddoedd a dwi’n edrych ymlaen at ei weld yn parhau i lwyddo yn y maes. Mae wedi dod â chlod i Brifysgol Bangor, i Aelwyd JMJ, i Wynedd, ond yn bwysicach fyth  Benrhosgarnedd, wrth gwrs!”

Yn ôl y Cynghorydd Gareth Griffith, Felinheli: “Llongyfarchiadau enfawr i Osian neu Osian Bonc, fel rydyn ni’n ei nabod yma’n lleol. Rydym, fel ardal, wedi gosod baneri i longyfarch Osian ar ei lwyddiant yn y gorffennol. Er na allwn ei longyfarch fel cymuned yn yr un ffordd y tro hwn, rydyn ni’n ei longyfarch yn wresog iawn.”

Ychwanegodd Dyfrig Siencyn: “Hoffwn hefyd longyfarch nifer o blant a phobl ifanc o Wynedd sydd wedi llwyddo a serennu yn Eisteddfod T yn ddiweddar. Mae’r talent sydd gennym ledled y sir yn anhygoel, a’r profiadau mae’r bobl ifanc wedi eu cael o fod yn aelodau o’r Urdd yn amhrisiadwy.

“Diolch i’r holl rieni, athrawon ac hyfforddwyr sydd wedi bod gweithio’n ddygn yn paratoi dros yr wythnosau diwethaf, ac sydd, dwi’n sicr, wedi dysgu llawer wrth ymrafael â’r dechnoleg.

“Yn olaf, hoffwn longyfarch Urdd Gobaith Cymru am eu mentergarwch. Diolchwn i’r mudiad am herio traddodiad, am addasu ac wynebu sialens COVID-19 ar ei ben. Mae Eisteddfod T wedi bod yn brofiad cwbl wahanol i bawb, ond mae hi wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi rhoi llwyfan a phrofiad hwyliog i’n hieuenctid mewn amgylchiadau anodd. Llongyfarchiadau i dîm yr Eisteddod, Yr Urdd a’i phartneriaid ar eu llwyddiant!”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns