Mae Cynghorydd Sir dros Frithdir, Peredur Jenkins wedi llongyfarch cwmni lleol ar ennill gwobr genedlaethol am eu gwaith.
Mae Meithrinfa Seren Fach, a sefydlwyd ym Mrithdir yn 2006 wedi ennill Y Feithrinfa Ddydd Orau yng Nghymru yn seremoni rithiol Mudiad Meithrin yn ddiweddar.
Dywedodd y Cynghorydd Gwynedd dros Frithdir, Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltyd, Peredur Jenkins: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Meithrinfa Seren Fach ym Mrithdir wedi derbyn y wobr hon. Mae'n glod enfawr i'r staff a'i ymddiriedolwyr ac mae'n adlewyrchu'r ffordd broffesiynol y mae'r rheolwr, Eleri Jones a'r staff yn rhedeg y Feithrinfa.
“Mae'r gwasanaeth maen nhw'n ei ddarparu i deuluoedd ardal de Meirionnydd yn amhrisiadwy ac rydyn ni'n gwerthfawrogi'r holl waith caled maen nhw'n ei wneud wrth ofalu, cefnogi a datblygu'r babanod a’r plant bach o ddydd i ddydd.
“Mae Seren Fach yn gyflogwr pwysig iawn yn yr ardal wledig hon ym Meirionnydd ac mae’n bwysig ein bod ni’n eu hannog ac yn cefnogi busnesau gwledig i ffynnu.
“Mae’r gymuned gyfan yn ymuno â mi i longyfarch Eleri Jones a’r tîm wrth ennill y wobr hon. Rydym yn dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol ac yn diolch iddynt am eu gwaith trylwyr.”
Yn ôl Eleri Jones, Rheolwr Meithrinfa Seren Fach: “Carwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i staff arbennig Seren Fach am eu hymroddiad a’u gwaith caled bob amser. Mae grŵp gweithgar o staff yma sy’n cydweithio’n dda â’i gilydd gan gyflawni gwaith safonol, yn golygu fod y plant yn cael y gofal a’r gefnogaeth orau bob amser.
“Diolch hefyd i holl rieni Seren Fach sydd dros y blynyddoedd wedi ein cefnogi ac wedi rhannu eu profiad o ddod a’u plant atom gyda rhieni eraill. Mae’r geirda hwn wedi ein cynnal dros y blynyddoedd.
“Rydym yn ymfalchïo yn safon uchel y gofal rydyn ni’n ei chynnig gan anelu i gynnal a gwella ar y safonau hynny yn barhaol.
“Carwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i’r Mudiad Meithrin am gynnal y seremonïau hyn yn flynyddol gan roi cyfle i rieni bleidleisio yn y categorïau. Mae cydnabyddiaeth fel hyn yn golygu cymaint i ni.”
(Llun Seren Fach: Erfyl Lloyd Davies)
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter