Plaid Cymru Gwynedd yn pwyso i ddatganoli darlledu a’r cyfryngau
Ar lawr Cyngor Gwynedd yn ddiweddar, galwodd grŵp Plaid Cymru Gwynedd ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu a’r cyfryngau i Lywodraeth Cymru.
Yn ôl y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn (yn y llun), Ward Bowydd a Rhiw Blaenau Ffestiniog: “Mae hi wedi dod yn amlwg dros y blynyddoedd diwethaf nad ydi Cymru’n cael y darlun llawn pan mae’n dod i drafod y materion sy’n allweddol i ni fel cenedl ar y cyfryngau.
Tawelwch Llywodraeth Cymru dros Ŵyl Banc Dydd Gŵyl Ddewi yn warth ar genedl gyfan
Mae’r tawelwch a’r diffyg ymateb gan Lywodraeth Lafur Cymru i gais Cyngor Gwynedd am hawl i nodi’r cyntaf o Fawrth fel dydd gŵyl banc cenedlaethol yn “warth ar genedl gyfan” yn ôl un Cynghorydd Plaid Cymru, Elwyn Edwards, Llandderfel sydd yn y llun.
Ymateb negyddol a fu i gais Cynghorwyr Gwynedd am statws gŵyl y banc i’r genedl gan Adran Fusnes a Masnach Llywodraeth San Steffan.
Gwynedd yn dechrau trafodaethau swyddogol â Stâd y Goron
Mae Plaid Cymru Gwynedd wedi dechrau trafodaethau swyddogol â Stâd y Goron i bwyso am degwch i drigolion y sir trwy ryddhau’r orfodaeth i dalu prydles am dir, arfordir a moroedd o fewn ffiniau Gwynedd. [Llun: Cynghorydd Dewi Jones ac arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Nia Jeffreys o flaen y Fenai]
Brwdfrydedd yn siambr Cyngor Gwynedd gydag ymweliad plant Waunfawr a Bontnewydd
Tybed a oedd cynghorwyr y dyfodol ar ymweliad â siambr gyngor Dafydd Orwig yng Ngwynedd yn ddiweddar? Dyna’r gobaith wrth i 60 o ddisgyblion Ysgolion Waunfawr a Bontnewydd ddod i ddysgu mwy am waith y cyngor a chlywed mwy am beth mae eu cynrychiolwyr sir lleol yn ei wneud drostynt.
Llun: Cadeirydd y Cyngor, Cynghorydd Beca Roberts yn cyfarch y plant a'r staff tu allan i Gyngor Gwynedd
Cyngor Gwynedd yn cefnogi galwad am Ysgol Ddeintyddol ym Mangor
Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio i gefnogi galwad Siân Gwenllian AS i sefydlu Ysgol Deintyddiaeth ym Mangor.
Pasiwyd cynnig a gyflwynwyd yn y cyngor llawn, ac mae’n nodi, ymhlith pethau eraill:
‘y prinder sylweddol o wasanaethau deintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru, a bod achos cryf ar gyfer sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor.
Craith fawr ar gymuned wedi damwain angheuol ger Garreg, Llanfrothen
Rhybudd o Gynnig Cyngh June Jones, Ward Glaslyn
Holodd y Cynghorydd Gwynedd dros Ward Glaslyn, June Jones am gefnogaeth ei chyd-gynghorwyr i alw am ddiweddaru’r rheolau i yrwyr ifanc fel na allant gludo teithwyr ifanc eraill cyn cyfnod o chwe mis er mwyn ennyn profiad o’r ffyrdd yn dilyn eu prawf gyrru.
Cau’r rhaniad digidol oedd ym Mrithdir, diolch i ymdrech lew cymunedol
Pan ddywedwyd wrth gymuned Brithdir y byddai angen llofnodion 45 o drigolion arnynt i gwblhau un agwedd ar yr ymgyrch i sicrhau bandeang cyflym ar gyfer Brithdir, torchodd rhai eu llewys a dechrau ar y dasg o guro drysau.
(Yn y llun, gwelir Eira Humphreys un o’r trigolion prysur ym Mrithdir fu’n cydweithio efo’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths i sicrhau bandeang cyflym i ran ucha’r pentref)
Ymwelydd yn diolch am ofal ac ymroddiad holl staff Ysgol Hafod Lon
Daeth ymwelydd arbennig i Ysgol Hafod lon, Penrhyndeudraeth yn ddiweddar, un o ddwy ysgol arbennig Gwynedd. Y Cynghorydd Paul Rowlinson, arweinydd addysg cabinet Gwynedd aeth draw i weld y disgyblion a’r staff sy’n sicrhau addysg i ddisgyblion o 3 i 19 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ar wahoddiad y Cynghorydd Gwynfor Owen, Cadeirydd Llywodraethwyr Hafod Lon.
Toriadau haerllug y Llywodraeth yn tanseilio pobl hŷn Gwynedd
Yng nghyfarfod Cyngor Gwynedd, yn ddiweddar, cododd y Cynghorydd dros Benrhyndeudraeth, Meryl Roberts, y pryder dros bobl hŷn y sir, gan holi am gefnogaeth ei chyd gynghorwyr i anfon gohebiaeth at Brif Weinidog Lloegr yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi. (Yn y llun, gwelir Cynghorwyr Gwynfor Owen, Dewi Jones, Delyth Griffiths, Meryl Roberts a Dilwyn Morgan)
Y ddynes gyntaf i arwain Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd
Etholwyd Y Cynghorydd Nia Jeffreys fel arweinydd newydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd mewn cyfarfod yng Nghaernarfon heno (13 Tach 2024). Nia yw arweinydd cyntaf benywaidd grŵp y Blaid yng Ngwynedd ac mae’n Gynghorydd Sir dros Ward Dwyrain Porthmadog ers 2017.