Y Blaid yn estyn llaw yng Ngwynedd yr haf hwn i gefnogi teuluoedd bregus
Mewn cyfarfod arbennig o gabinet y Blaid yng Ngwynedd heddiw, cyflwynwyd mater brys i’r aelodau etholedig ystyried cefnogi teuluoedd sy’n wynebu heriau dros gyfnod y gwyliau haf.
Cynlluniau arloesol ar y gweill yng Ngwynedd i daclo e-sigarèts
Trafodwyd y broblem gynyddol a phryderus o bobl ifanc yn smocio e-sigaréts neu 'vapes' yng Nghyngor Gwynedd yn ddiweddar. Yn y DU mae cyfran y plant sy’n arbrofi â vapes wedi cynyddu 50% yn flynyddol*, o 1 o bob 13 plentyn i 1 o bob 9 plentyn.
Casglu gwastraff Gwynedd yn gwella
Mae un cynghorydd lleol yn awyddus i gael gwell darlun am atebion i broblemau casglu sbwriel yng Ngwynedd ar ran ei drigolion.
Manteisiodd Cynghorydd Llanwnda, Huw Rowlands ar y cyfle i ofyn i'r cyngor llawn sut y bydd trawsnewid y casgliad gwastraff yn effeithio ar y trigolion sy'n byw yn ei ward.
“Gweithredu wastad yn rhan ohonai” medd Elin Hywel, Cynghorydd Pwllheli
Does dim llawer o bobl yn gallu dweud iddyn nhw ysgogi’r gymuned a hwyluso i brynu adeilad cymunedol yn y dre dros nos, ond i un cynghorydd newydd o Bwllheli, dyna un o’i champau ers cael ei hethol yn gynghorydd sir flwyddyn yn ôl.
Dirprwy Faer ieuengaf Caernarfon yn dysgu yn ôl traed y Maer newydd
Mewn seremoni arbennig yn yr Institiwt Caernarfon yn ddiweddar sefydlwyd Maer newydd i dre’r Cofis, y Cynghorydd Cai Larsen. Ac yn dynn yn ei sodlau, sefydlwyd y Dirprwy Faer sy’n siŵr o fod yr ieuengaf i ddal y rôl yn y dre, y Cynghorydd Dewi Wyn Jones, sy’n 26 oed.
Bron i 150 o drigolion ardal Y Fron yn gwrthwynebu lleoliad cartrefi modur newydd
Mae bron i 150 o drigolion ardal Y Fron wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cais cynllunio gan glwb cartref modur i sefydlu pump lleoliad arhosfan yn eu pentref gwledig.
Pontio’r Cenedlaethau yn Rhosgadfan
Mae cynllun pontio’r cenedlaethau wedi ei sefydlu yn ddiweddar yng nghartref Kate Roberts, yng Nghae’r Gors, Rhosgadfan ger Caernarfon. Pwrpas y cynllun yw dod a’r to iau a’r to hŷn ynghyd i rannu syniadau, sgiliau a phrofiad.
Arweiniad y Blaid yn dod a chartref nyrsio newydd dan law awdurdod lleol yng Nghymru, gam yn nes
Bydd Cartref Nyrsio a Gofal Penyberth yn Llŷn yn rhoi Gwynedd ar y map, fel cartref nyrsio newydd dan ofal awdurdod lleol yng Nghymru mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd.
Cynghorwyr yn talu teyrnged i’r bobl leol a’r grŵp cymunedol, Pobl
Mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar yn Llanbedr, Ardudwy, talodd y ddau Gynghorydd Sir deyrnged i’r bobl leol a’r grŵp cymunedol, Pobl, am eu lobïo parhaus, gwaith trefnu, gohebu a chyfarfodydd i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru a San Steffan i ddod o hyd i atebion i’r problemau traffig sy’n wynebu’r pentref. Bydd y ddau yn ymuno a 'Pobl' y penwythnos hwn ar gyfer taith gerdded protest yn Llanbedr am 11am, ddydd Sadwrn 25 Mawrth fydd yn cychwyn o ochr ddeheuol y pentref.
Canolfan Y Fron yn derbyn £3,000 i ddarparu bwyd i drigolion Ward Tryfan
Mae Canolfan Y Fron ger Caernarfon, Gwynedd yn falch eu bod wedi derbyn £3,000 i ddarparu bwyd i drigolion Ward Tryfan. Bydd yr arian yn galluogi’r ganolfan i ddarparu pryd dau gwrs i hyd at 40 o bobl, AM DDIM, unwaith yr wythnos.