Canran uchaf erioed o gynghorwyr Plaid Cymru i Wynedd.
Mae Plaid Cymru Gwynedd wedi sicrhau mwyafrif clir a mandad gadarn gan gymunedau Gwynedd i arwain y cyngor sir dros y bum mlynedd nesaf. Etholwyd y ganran uchaf erioed o gynghorwyr Plaid Cymru i Wynedd ers ei ffurfio yn 1996, sef 64% o’r cynghorwyr.
Cyflwyno Ymgeiswyr Plaid Cymru Gwynedd
Mae Plaid Cymru Gwynedd yn cyflwyno tîm cryf o 51 ymgeisydd i sefyll yn Etholiad Cyngor Gwynedd ar y 5 o Fai. Mae bron i hanner (22) yn ferched. Yn dilyn newidiadau gan y Comisiwn Ffiniau i newid ffiniau’r wardiau, mae 69 o seddi i’w llenwi yng Ngwynedd yn yr etholiad hwn – i lawr o’r cyfanswm 75 sedd wreiddiol.
Tîm Plaid Cymru cryf ar gyfer ward newydd Canol Bangor
Bydd tîm Plaid Cymru cryf yn gobeithio mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu trigolion lleol yn y ward enfawr newydd sydd wedi ei chreu ym Mangor wrth baratoi at Etholiad Sir Cyngor Gwynedd ar y 5ed o Fai.
Balchder bod Cyngor Gwynedd yn cefnogi merched ym myd chwaraeon
Yng nghyfarfod o’r Cyngor llawn yng Ngwynedd (3 Mawrth), holodd y Cynghorydd Judith Humphreys am gefnogaeth y cynghorwyr i broffesiynoli chwaraeon merched fel bod merched yn cael yr un cyfleoedd a chyflog a’r dynion.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae’r Cynghorydd Humphreys yn awyddus i dynnu sylw ac annog gwell chwarae teg i ferched ym myd chwaraeon Cymru a thu hwnt. (Hawlfraint llun: Chris, Omega Photography)
Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyfiawnder i drigolion Gwynedd?
Mae trigolion Gwynedd yn parhau i ddioddef chwe blynedd ers i gynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru achosi difrod i'w cartrefi gan eu gadael yn llaith, yn flêr ac angen gwaith atgyweirio.
Mae rhai trigolion tai preifat yn Neiniolen, Dinorwig, Clwt y Bont a Fachwen ar eu colled yn ariannol ac eraill yn cael trafferth talu am waith atgyweirio.
Ymweliad ail gylchu Ffridd Rasus, Gwynedd
Mae trigolion Gwynedd yn ail-gylchu 65.9% o’i gwastraff erbyn hyn, mymryn yn fwy na record ffigwr ail-gylchu Cymru gyfan ar gyfer 2020-2021 sef 65.4%. Golyga hyn bod £4 miliwn yn cael ei arbed i drethdalwyr Gwynedd yn flynyddol gan arbed 17,000 tunnell o allyriadau carbon.
Rhoi statws dyledus i Ddydd Gŵyl Dewi yng Ngwynedd
"Bydd Gwynedd yn arwain y ffordd yn genedlaethol eleni, trwy sicrhau bod staff yn dathlu dydd ein nawddsant, Dydd Gŵyl Ddewi gyda diwrnod ychwanegol o wyliau cyhoeddus," meddai Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dafydd Meurig, sy'n y llun.
Gwynedd yn diogelu cymunedau dros fisoedd y gaeaf
Gyda’r gaeaf wedi cyrraedd, mae Cynghorwyr Plaid Cymru mewn ardaloedd gwledig yng Ngwynedd yn falch bod halen i’w ddosbarthu i finiau melyn y sir, am ddim, y gaeaf hwn.
Yn dilyn trafodaethau gyda’r aelod cabinet sydd â’r cyfrifoldeb dros briffyrdd, y Cynghorydd Plaid Cymru, Catrin Wager, roedd pryder mewn ardaloedd gwledig bod y gost o lenwi’r biniau halen yn ychwanegu at bwysau cynyddol sydd ar gynghorau cymuned a thref:
Dros 2000 o bobl wedi arwyddo deiseb ffordd osgoi Llanbedr
Gyda dros 2000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr, mae’r Cynghorydd sefydlodd y ddeiseb, Annwen Hughes, Llanbedr (yn y llun) yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi ac yn awyddus i bobl barhau i leisio eu barn a nodi eu hanfodlonrwydd gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru.
Sicrhau bod budd ein hadnoddau naturiol yn parhau yng Nghymru
Mae ffermwr a chynghorydd o sir Feirionnydd wedi sicrhau cefnogaeth unfrydol cynghorwyr Gwynedd heddiw (2 Rhagfyr, Cyngor llawn Gwynedd) i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid canllawiau cynlluniau ariannu amaethyddol i sicrhau nad yw arian cyhoeddus trethdalwyr yn gadael Cymru, wrth i gwmnïau geisio taclo eu hôl troed carbon.