Plaid Cymru Gwynedd yn pwyso am amgylchedd sefydlog i fusnesau fferm
Heddiw (6 Rhagfyr) bydd Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd yn galw am gefnogaeth y Cyngor llawn i bwyso ar Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau amgylchedd sefydlog a chadarn i fusnesau ffermydd yn dilyn Brecsit.
“Yma yng Ngwynedd, mae ffermydd teuluol bychain yn gonglfaen i gymunedau gwledig y sir,” meddai’r Cynghorydd Paul Rowlinson, “a chenedlaethau o bobl wedi eu magu i amaethu’r tir a chynhyrchu bwyd o safon gaiff ei gwerthu i’r cyhoedd.”
“Mae amaethu yn rhan annatod o ardaloedd gwledig Gwynedd ac yn cynnal llawer o deuluoedd yn y sir. Bydd unrhyw newid ddaw i fyd amaeth yn sgîl Brecsit yn sicr o gael effaith uniongyrchol ar yr economi leol, cymunedau gwledig a’r iaith Gymraeg,” eglura’r Cynghorydd Rowlinson fydd yn cyflwyno cynnig sy’n gofyn am gefnogaeth y Cyngor llawn i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sefydlogrwydd i ffermydd teuluol y sir.
Tîm Plaid Cymru’n cydweithio i arbed gwasanaeth bws Blaenau Ffestiniog i Lanrwst
Mae’r Cynghorydd Annwen Daniels, Blaenau Ffestiniog yn falch bod cydweithio y tu ôl i’r llenni gan dîm Plaid Cymru wedi sicrhau bod Cyngor Gwynedd yn fodlon diogelu’r gwasanaeth bws X19 o Lanrwst i Flaenau Ffestiniog ac yn ôl, am y tro.
“Dwi’n hynod falch bod trafodaethau a chydweithio wedi dod a datrysiad am y tro i sicrhau bod y gwasanaeth bws pwysig hwn yn parhau i deithio yn yr ardal,” eglura’r Cynghorydd sy’n cynrychioli Ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog.
Llun o'r Cynghorydd Annwen Daniels, Blaenau Ffestiniog
Cydweithio yw’r ateb i osgoi colli gwasanaeth bws Gerlan
Cydweithio yw’r ateb er mwyn osgoi colli gwasanaeth cyhoeddus bws sy’n teithio o Fangor trwy Fethesda ac i Gerlan, yn ôl y Cynghorydd Sir lleol, Paul Rowlinson.
“Mae 'na broblem barcio yn Gerlan gyda’r nos sy’n cael effaith ar wasanaeth bws lleol Arriva,” eglura’r Cynghorydd Plaid Cymru, Paul Rowlinson.
Llun: Y Cynghorydd Paul Rowlinson ar y gyffordd ar Ffordd Gerlan a Stryd Morgan sy’n peri’r anhawster i’r bysiau droi rownd oherwydd bod cerbydau wedi parcio ar y ffordd.
Buddsoddiad £1m ar 100 o dai mewn stad yng Ngwynedd
Wedi llai na blwyddyn, mae buddsoddiad £1miliwn wedi ei gwblhau ar 101 o dai mewn stad yng Ngwynedd.
Cynllun ar y cyd rhwng Cartrefi Cymunedol Gwynedd a Chyngor Gwynedd i ddiweddaru’r isadeiledd dŵr yn stad Pentref Helen, Deiniolen sydd wedi elwa o’r buddsoddiad.
Llun o'r Cynghorydd Elfed Williams sy'n diolch i drigolion stad Pentre Helen am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith adnewyddu
Cyngor Gwynedd dan arweinyddiaeth y Blaid y cyngor cyntaf yng Nghymru i alw am gyfyngiad amser o 28 diwrnod ar gadw mewnfudwyr
Mae Cyngor Gwynedd dan arweiniad Plaid Cymru, y sir gyntaf yng Nghymru i basio cynnig sy’n galw ar Lywodraeth San Steffan i roi stop ar gadw mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid dan glo heb unrhyw gyfyngiad amser.
Llun o'r Cynghorydd Catrin Wager sy'n cynrychioli trigolion Menai, Bangor.
Pryderon lleol am gais i ddatblygu cabanau gwyliau yng Nghoed Wern-Tŷ-Gwyn, Glasinfryn, Gwynedd
Mae cais i drigolion Gwynedd leisio barn ar gynllun i ddatblygu coedwig Glasinfryn rhwng Bethesda a Bangor yn fusnes gwyliau newydd gyda 40 caban ar y tir.
Yn y llun: Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd, Menna Baines, Pentir a Dafydd Owen, Tregarth a Mynydd Llandygai
Pwysau gan Gynghorydd Lleol dros bedair blynedd, yn rhoi blaenoriaeth, o’r diwedd, i ddiogelwch cerddwyr ym Mhenrhyndeudraeth
Mae Cynghorydd Plaid Cymru dros Benrhyndeudraeth, Gareth Thomas, wedi derbyn newyddion y bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ddiogelwch cerddwyr ar hyd prif ffordd yr A487 yng nghanol Penrhyndeudraeth wrth i linellau melyn gael eu cyflwyno ar rannau o'r ffordd.
Llun o'r Cynghorydd Gareth Thomas, Penrhyndeudraeth
Plaid Cymru Dyffryn Ogwen yn cefnogi’r galw am newid pwyslais i hanes Castell Penrhyn
Mae Cynghorwyr Plaid Cymru Dyffryn Ogwen yn cefnogi cais mudiad Cylch yr Iaith sy’n galw ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gryfhau Cymreictod Castell Penrhyn a sicrhau bod hanes diwylliannol a threftadaeth y lleoliad yn cael ei gyflwyno i ymwelwyr.
Llun o dim Plaid Cymru Dyffryn Ogwen Cynghorwyr: Paul Rowlinson, Dafydd Owen, Rheinallt Puw a Dafydd Meurig
Dwy yn newid swyddi ym Mhlaid Cymru Gwynedd
Etholwyd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Glyder, Bangor yn Gadeirydd newydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd wrth i'r Cynghorydd Morfa Nefyn, Siân Hughes ymddiswyddo, er mwyn datblygu ei gyrfa nyrsio.
Cynghorydd Sian Hughes, Morfa Nefyn yn trosglwyddo’r gadeiryddiaeth i Gynghorydd Bangor, Elin Walker-Jones gydag arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn yn ei chroesawu
Gwersi nofio arbennig wedi eu creu ym Mlaenau Ffestiniog
Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus, mae’r Cynghorydd Annwen Daniels, Blaenau Ffestiniog wedi llwyddo i sicrhau bod gwersi nofio newydd sbon yn digwydd i grŵp o blant gydag anableddau ym mhwll nofio Blaenau Ffestiniog.
Y Cynghorydd Annwen Daniels (canol) gyda staff y pwll nofio a rhai o'r plant sy'n derbyn y gwersi nofio