Mae Plaid Cymru Gwynedd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid canllawiau grantiau busnes Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau nad yw perchnogion ail gartrefi sy’n fwriadol wedi trosglwyddo i dreth fusnes er mwyn osgoi talu trethi, ddim yn cael mynediad at grantiau cefnogi busnesau £10,000 neu hyd at £25,000.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth ariannol i fusnesau bach Cymru yn dilyn datblygiad Covid-19 a’r effaith mae’r afiechyd yn ei gael ar yr economi. Fel rhan o’r pecyn cymorth, mae grant sydd ynghlwm â’r dreth annomestig ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy'n berchen eiddo.
Ond wrth i arweinwyr cynghorau sir ledled Cymru drafod y grantiau, cysylltodd y Blaid yng Ngwynedd â’r Gweinidog, Julie James, i ddatgan anfoesoldeb rhyddhau arian o’r pwrs cyhoeddus i lenwi pocedi rhai sydd â digon o gyfoeth yn barod.
Yng Ngwynedd yn unig amcangyfrifwyd y gallai rhwng £15m a £18m gael ei ryddhau i berchnogion ail gartrefi trwy’r bwlch oedd yn y pecyn cefnogaeth ariannol i fusnesau bychain gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (sydd yn y llun uchod): “Mae’n gwbl anfoesol bod unigolion cyfoethog sydd berchen ail gartrefi yn cael mynediad i’r pecyn cymorth ariannol yma o du’r Llywodraeth. Mae’n mynd yn gwbl groes i ethos y cynllun, sef pecyn i sicrhau economi hyfyw mewn cyfnod aneconomaidd oherwydd yr aflwydd haint yma sy’n lledaenu trwy’r wlad.
“Mae’r grant i’w ddefnyddio gan fusnesau gwledig bychain yng Ngwynedd sydd wedi ei heffeithio’n uniongyrchol o ganlyniad i ddeddfau’r Llywodraeth sy’n atal cwmnïau a busnesau rhag masnachu. Dyna pam ein bod wedi holi Uned Gyfreithiol Cyngor Gwynedd i edrych ar gymalau penodol o fewn y canllawiau busnes, er mwyn gwahaniaethu rhwng busnes gwledig a pherchnogion ail gartrefi.
Mae arweinwyr cynghorau sir eraill ledled Cymru wedi cefnogi gwaith Gwynedd, gan gynnwys yn benodol, cynghorau sir Ynys Môn, Conwy, Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro, lle mae nifer uchel o ail gartrefi yn bodoli. Mae trafodaethau niferus wedi digwydd trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod y mater
“Rydym yn croesawu ymateb y Gweinidog, Julie James i’r drafodaeth hon. Mae wedi bod yn gadarnhaol ac yn adeiladol. Ond yn anffodus, mae’r gweision sifil yn llusgo traed gyda’r manylion.” yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.
Yn ychwanegol i’r canllaw busnes y geiriad y mae Gwynedd wedi ei chynnig i Lywodraeth Cymru yw: “Mewn perthynas â llety hunanarlwyo, ni fydd busnes yn gymwys i gael y grant pe bai'r eiddo ar unrhyw adeg ers 1 Ebrill 2010 yn annedd domestig. Fodd bynnag, bydd llety hunanarlwyo yn gymwys i gael y grant os oes gan yr eiddo ganiatâd cynllunio penodol ar gyfer defnydd o'r fath. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o’r caniatâd cynllunio i gefnogi'r cais am y grant os bydd yr awdurdod gweinyddol yn holi amdano.”
Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Trwy ychwanegu’r cymal yma i’r canllaw busnes byddai’n amddifadu’r rhai hynny sydd wedi gosod eu hail gartref am gyfnod er mwyn osgoi talu’r Dreth Gyngor rhag derbyn y grant ond ar yr un pryd yn sicrhau bod y busnesau hynny sydd wedi troi tŷ yn fusnes go iawn yn ei dderbyn.
“Edrychwn ymlaen at dderbyn ymateb ffurfiol Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James, yn ystod y dydd heddiw. Ein gobaith yw y daw canllaw clir ac eglur i’r gefnogaeth fusnes sy’n dal dŵr, os daw her gyfreithiol i unrhyw gyngor sir, o du’r cyfoethogion sy’n berchen ail gartref.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter