Plaid Cymru Gwynedd yn arwain y ffordd ar addysg yng Nghymru

Mewn nifer o gyfarfodydd diweddar, mae’r Blaid yng Ngwynedd wedi cymryd yr awenau ym maes addysg wrth gynnig arweiniad i benaethiaid sy’n paratoi ysgolion Gwynedd ar gyfer addysgu plant ym mis Medi.

“Gydag ysgolion wedi ail agor i ddisgyblion ledled Cymru, mae cri penaethiaid ein hysgolion wedi newid, gan holi’r cwestiwn beth fydd y drefn addysgol ym mis Medi?” eglura aelod cabinet dros addysg yng Ngwynedd, y Cynghorydd Cemlyn Williams.

“Yma yng Ngwynedd, mae’r paratoadau wedi dechrau ac mewn cyfarfodydd gyda chynghorau sir eraill ledled y gogledd, rydym wedi rhannu ein gweledigaeth ni, y Blaid yng Ngwynedd.

“Yn anffodus, tawelwch sy’n dod o du Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, wedi’r holl waith da a wnaeth y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wrth drafod ail agor ysgolion.

“O ganlyniad, roedd rhaid i ni gynnig arweiniad i’n 84 o benaethiaid ysgolion, gan baratoi sefyllfaoedd posib y gallwn eu hwynebu ym mis Medi, er mwyn galluogi’r ysgolion i baratoi a bod yn barod ar gyfer addysgu disgyblion ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.”

Gyda bythefnos ar ôl o dymor yr haf, mae’r amser yn brin ar gyfer rhoi mesurau mewn lle i benaethiaid arwain eu staff, boed yn athrawon, staff cefnogi, staff cegin a gofalwyr ynglŷn â’r ffordd y bydd yr ysgolion yn gweithredu ym mis Medi.

“Yma, yng Ngwynedd, y disgybl sy’n ganolog i bopeth rydym yn geisio ei wneud. Heb roi arweiniad clir i’r Penaethiaid, allan nhw ddim paratoi yr addysg gorau posib, boed hynny, yn y dosbarth; cyfuniad o ddysgu byw a dysgu yn y dosbarth neu ddysgu byw llawn amser, i ddisgyblion Gwynedd.

“Mae’n plant a’n pobl ifanc ni, hefyd wedi bod drwy’r felin dros y misoedd diwethaf. Dyw eu clustiau heb fod ar gau i’r negeseuon COVID-19 yn y wasg ac ar ein cyfryngau cymdeithasol. Mae gennym ddyletswydd fel sir, fel gwasanaethau cefnogi, fel athrawon, fel rhieni i dawelu meddwl ein disgyblion a’i rhoi ar ben ffordd ynglŷn â sut bydd eu haddysg yn edrych ym mis Medi.”

Elfen arall y mae Plaid Cymru Gwynedd yn pwyso am arweiniad gan Llywodraeth Cymru yw a fydd darpariaeth gofal i blant bregus dros gyfnod yr haf?

Yn ôl y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sydd â chyfrifoldeb dros blant a phobl ifanc yng Ngwynedd: “Ers i COVID-19 ein taro, mae cydweithio clos wedi digwydd rhwng yr adran addysg a’r adran plant a phobl ifanc lle mae gwasanaethau cymdeithasol, gweithwyr ieuenctid a chefnogi teuluoedd yn gweithio yng Ngwynedd.

“Mae’r ffordd newydd yma o weithio wedi sicrhau bod arbenigedd, rhannu gwybodaeth a phrofiad y ddau dîm wedi sicrhau bod y plentyn yn ganolog yn ein gwaith o ofalu, addysgu a chefnogi.

“Yn anffodus, does dim arweiniad wedi dod gan Lywodraeth Lafur Cymru, a ninnau ar drothwy diwedd tymor yr haf, sut gallwn ni barhau i ofalu am blant bregus y sir. Mae teuluoedd sydd angen cymorth a chefnogaeth yng Ngwynedd angen gwybod beth fydd ar gael i’w cynorthwyo i ofalu am blant bregus, wrth symud mewn i gyfnod y gwyliau.

“Rydym hefyd, wrth gwrs, yn siomedig iawn bod y Gweinidog Addysg yng Nghaerdydd DDIM am ddarparu arian i gefnogi gweithwyr allweddol dros yr haf sydd â phlant dros 5 oed. Rydym wedi holi’r cwestiwn, gan bod plant o dan 5 oed yn cael gofal. Dyma’r teuluoedd sydd wedi bod ar y rheng flaen wrth daclo COVID-19, mae’r diffyg parch sy’n cael ei ddangos tuag atynt gan y Blaid Lafur yn warthus.

“Mae gwir angen i’r Gweinidog osod ei stondin, trafod gyda’r Undebau ar fyrder a chyhoeddi pa fath o gefnogaeth fydd ar gael gan gynghorau sir i blant bregus dros gyfnod yr haf?”

Yn ôl Aelod Senedd Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian: “Er gwaethaf diffyg arweiniad gan y Gweinidog Addysg, rwy'n falch o weld fod Cyngor Gwynedd yn mynd ati yn barod i geisio sicrhau y bydd darpariaeth yn ei le ar gyfer gofalu am blant bregus yn ystod gwyliau'r haf. Gyda'r ddarparieth haf arferol wedi diflannu yn sgil pwysau COVID, rhaid rhoi blaenoriaeth i'n plant mwyaf bregus. Siom o’r mwyaf yw deall na fydd cefnogaeth i blant gweithwyr allweddol dros 5 oed, byddaf yn parhau i herio’r Gweinidog ar y mater hwn.

“Wrth feddwl ymlaen at mis Medi, rydym yn gwybod fod her fawr o'n blaenau ac mae'r Cyngor i'w ganmol am geisio dod i ddealltwriaeth buan efo'u penaethiaid ysgol ynglŷn â sut ddarpariaeth fydd ei angen ym Medi gan gadw golwg o hyd ar lefelau'r haint. Gorau po gyntaf y caiff ein hysgolion ail agor yn llawn er lles ein holl ddisgyblion - ond rhaid iddi fod yn ddiogel i wneud hynny. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu gwaith dan amgylchiadau mor anodd.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns