Braf yw cyhoeddi bod Plaid Cymru Gwynedd wedi cipio sedd newydd gan y grŵp annibynnol yn Is Etholiad Cyngor Gwynedd neithiwr (24 Mehefin 2021), wrth i’r gŵr busnes Gwynfor Owen gael ei ethol yn gynrychiolydd Ward Harlech a Thalsarnau.
Enillodd Gwynfor 34.4% o’r bleidlais, gyda 468 o bobl yn troi allan i bleidleisio.
Y Canlyniad
Gwynfor Owen, Plaid Cymru: 161
Lisa Dawn Louise Birks: 154
Martin James Hughes, Annibynnol: 153
“Mae hi’n anrhydedd cael fy ethol yn Gynghorydd Plaid Cymru dros bobl Harlech a Thalsarnau,” meddai Gwynfor Owen.
“Dwi’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cydweithio a’m cefnogi yn ystod yr ymgyrch, ac yn gwerthfawrogi pob pleidlais – roedd hi’n ras hynod agos yn y diwedd! Dwi wedi mwynhau cyfarfod nifer fawr o bobl yn ystod yr wythnosau diwethaf a byddaf yn gwneud fy ngorau dros bobl yr ardal wrth eu cynrychioli ar y Cyngor Sir.
“Hoffwn ddiolch i’r ymgeiswyr eraill am redeg ymgyrch deg a pharchus a diolch i staff Cyngor Gwynedd am sicrhau etholiad proffesiynol a threfnus.
“Dwi’n edrych ymlaen at ymuno â chriw Plaid Cymru yng Ngwynedd i gydweithio â’r tîm o Gynghorwyr sy’n gweithio ar ran trigolion y sir.”
Yn ôl Cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd, Elin Walker Jones: “Rydym yn falch iawn o estyn croeso i Gwynfor Owen, fel cynrychiolydd newydd Plaid Cymru yn Harlech. Mae gan Gwynfor brofiad helaeth o waith llywodraeth leol ac mae’n llais profiadol dros gymunedau. Yn ŵr busnes llwyddiannus, mae ganddo gysylltiadau eang a phrofiad o wirfoddoli fel cynrychiolydd ym maes addysg hefyd.
“Mae pobl Harlech a Thalsarnau wedi rhoi eu hymddiriedaeth yn Gwynfor, ac rydym fel grŵp o gynghorwyr Plaid Cymru yn edrych mlaen at ei groesawu i’n plith. Llongyfarchiadau mawr!”
Galwyd Is Etholiad Ward Harlech yng Ngwynedd yn dilyn ymddiswyddiad Cynghorydd Annibynnol, Freya Bentham.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter