Mae arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn yn galw ar Llywodraeth Lafur Cymru i sicrhau bod arian ychwanegol y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn cael ei glustnodi yn benodol ar gyfer llywodraeth leol, yn dilyn blynyddoedd o doriadau ariannol haerllug.
“Rydym eisoes wedi clywed bod oddeutu £600m yn fwy o arian i ddod o San Steffan yn dilyn adolygiad gwariant y Trysorlys ar gyfer 2020/2021, dros yr wythnos ddiwethaf. Dwi’n pwyso ar Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau bod canran deg o’r arian hwnnw yn dod i gynghorau sir, pan ddaw eu cyhoeddiad ariannol i ni ddiwedd Hydref.
“Mae Llafur wedi sicrhau mai’r brawd tlawd ydym wedi bod am flynyddoedd lawer o’i chymharu â’r maes iechyd, ac mae’r toriadau ariannol sydd wedi eu gorfodi arnom, bellach wedi cyrraedd yr asgwrn.”
Adroddodd y Cynghorydd Ioan Thomas, aelod cabinet Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros gyllid y sir yng nghyfarfod y cabinet (17 Medi) bod Gwynedd wedi gwneud £25 miliwn o doriadau ariannol i’w chyllideb mewn pedair blynedd.
Meddai: “Mae’n ffigwr anferthol o arian, a dyw hyn ddim heb ei effaith. Rydym yn cyrraedd y pwynt lle bydd mwy o doriadau yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau cwbl hanfodol, fel gofal oedolion bregus, pobl hŷn, plant bregus ac addysg plant os bydd y patrwm ariannu wallus yma’n parhau o du llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Gyfunol.”
Yn ôl yr arweinydd, Dyfrig Siencyn: “Mae’n amser tyngedfennol pwysig i waith cynllunio llywodraeth leol, wrth i ni baratoi ar gyfer darparu’r gwasanaethau gorau posib i drigolion lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/2021. Mae’r esgid eisoes yn gwasgu, wrth i adrannau’r cyngor droi pob carreg i chwilio am arbedion ariannol parhaus cyn cael ein gorfodi i dorri gwasanaethau.
“Rydym eisoes yn ymwybodol y bydd twll ariannol eto yn ein cyllideb o ganlyniad i danariannu’r Blaid Lafur wrth dalu chwyddiant i gyflogau a phensiynau athrawon a staff llywodraeth leol a chostau cynyddol sydd i’r gweithlu gofal cymdeithasol oherwydd y galw. Bydd bwlch ariannol i grantiau gwasanaethau plant a gofal dementia ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod er enghraifft ac mae angen ariannu newidiadau deddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
“Mae’r chwe arweinydd Cyngor Sir yma yn y gogledd wedi anfon neges glir i Weinidogion Llywodraeth Leol Julie James a Chyllid, Rebecca Evans, yn pwyso arnynt i gadw eu haddewid y caiff llywodraeth leol flaenoriaeth ariannol yn y flwyddyn ariannol nesaf.
“Yma yng Ngwynedd, rydym wedi paratoi a blaengynllunio ein gwaith ariannol yn ofalus ac yn drylwyr ers blynyddoedd lawer. Mae ein diolch mwyaf ni’n mynd i’n staff, sy’n cydweithio â ni wrth chwilio am arbedion, sy’n meddwl yn agored ac sy’n fodlon mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod gwasanaethau’r cyngor yn parhau o safon.”
“Egwyddorion Plaid Cymru yw diogelu’r bregus, cynorthwyo’r gwan a chynnig y cyfleoedd gorau posib i’n trigolion. Rydym yn erfyn ar y Blaid Lafur i sicrhau y gallwn fel llywodraeth leol barhau i anelu’n uchel ym mhob cornel o ogledd Cymru, er lles ein trigolion a’n cymunedau.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter