Ar lawr Cyngor Gwynedd yn ddiweddar, galwodd grŵp Plaid Cymru Gwynedd ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu a’r cyfryngau i Lywodraeth Cymru.
Yn ôl y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn (yn y llun), Ward Bowydd a Rhiw Blaenau Ffestiniog: “Mae hi wedi dod yn amlwg dros y blynyddoedd diwethaf nad ydi Cymru’n cael y darlun llawn pan mae’n dod i drafod y materion sy’n allweddol i ni fel cenedl ar y cyfryngau.
“Mae’r diffygion o beidio gallu cael rheolaeth dros ein cyfryngau a’n darlledu wedi creu cur pen i drigolion Cymru wrth drafod protestiadau, argyfyngau a materion cyffredinol sy’n ein heffeithio ni, fel pobl, o ddydd i ddydd.
“Enghraifft amlwg o hyn oedd y negeseuon cymysglyd oedd yn dod i ni drwy’r teledu, y radio a thrwy ein ffonau symudol, adeg y pandemig. Roedd dryswch pendant ar y pryd gan bod Cymru yn gwylio a chlywed newyddion oedd ddim ond yn berthnasol i Loegr. Crëwyd anhrefn wrth drafod cyfnodau clo a rheolau a chanllawiau iechyd pwysig, yn arbennig wrth drafod symud ar draws ffiniau ardaloedd.
“Prin iawn ydi’r persbectif Cymreig ar bynciau trafod pwysig sy’n berthnasol i’n trigolion a phrin ydi’r amser sy’n cael ei ddynodi i faterion sy’n effeithio ar bobl Gwynedd.”
Yn ystod y drafodaeth dywedodd y Cyngh Elfed Wyn ap Elwyn ei fod am weld gwaith yn digwydd i ymchwilio, paratoi a gosod y sylfeini cywir ar gyfer datganoli darlledu i ddwylo Cymru. Nododd yn glir bod angen i’r gwaith hyn ddigwydd gyda Llywodraeth San Steffan fel bod y ffordd yn glir i ddechrau ar y gwaith o ddatganoli.
Ychwanegodd y Cyngh Dewi Jones, Ward Peblig wrth gefnogi’r cynnig: “Ym 1982, tua’r un cyfnod a sefydlu Radio Cymru ac S4C, roedd gan y Basgiaid un sianel deledu ac un sianel radio. Erbyn heddiw mae gan y Basgiaid chwe sianel deledu a phum sianel radio. Yng Nghatalwnia ym 1983, sefydlwyd un sianel deledu ac un sianel radio. Erbyn heddiw, mae ganddynt chwe sianel deledu a thair sianel radio. Yma yng Nghymru da ni’n parhau ag un o bob un, wedi 40 mlynedd. Dyna i chi ddangos diffyg wrth gymharu tair cenedl.
“Mae Bil y Cyfryngau yn y Deyrnas Gyfunol 2024 wedi disodli’r hen Fil ond yn ei sgil wedi disodli’r angen i gynnig y ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol. Mi wnaeth Pwyllgor Diwylliant y Senedd fynegi pryder am hyn, gan ddweud bod rhaid i’r cyfrifoldeb i ddarparu gwasanaeth Cymraeg barhau yn rhan o’r Ddeddf newydd. Anwybyddu hyn wnaeth Llywodraeth Prydain.
“Yma yng Ngwynedd, yr hyn mae’n ei olygu i’n trigolion ni ydi bod gorsafoedd masnachol fel Capital - Champion a Heart gynt yn rhoi’r gorau i ddarlledu yn y Gymraeg. O ganlyniad , mae dros 20 mlynedd o ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg ar y sianeli masnachol wedi dod i ben. Mae’n gadael bwlch enfawr yn ein diwylliant o allu clywed y Gymraeg ar donfeddi radio masnachol. A dyma pam bod yr angen i ddatganoli darlledu i ddwylo Cymru ac i’r Senedd, mor hanfodol bwysig.”
Yn ôl y Cyngh Beca Brown, Ward Llanrug: “Mae Radio Cymru a BBC Sounds wedi cyhoeddi’n ddiweddar na fydd pobl y tu allan i’r Deyrnas Gyfunol yn gallu gwrando ar Radio Cymru gan fod y ddarpariaeth yn dod i ben.
“Fel un sy’n gweithio yn y sector addysg Cymraeg i oedolion, mae’n dysgwyr newydd ni ar hyd y byd yn mynd i gael colled eithriadol o fethu gwrando ar Radio Cymru. Mae o hefyd, wrth gwrs, yn lleihau’r gallu i’n Cymry oddi cartref gyrraedd at y Gymraeg ar y tonfeddi. Mae’n gnoc arall i’n gallu ni i gyfathrebu a rhannu gwybodaeth efo’n gilydd drwy’r cyfryngau yn y Gymraeg.”
Yn ôl y Cyngh Elfed Wyn ap Elwyn: “Heb drafodaeth lawn, glir a Chymreig ar faterion, mae’n anodd datblygu polisïau, meddylfryd a gweledigaeth glir fyddai’n harneisio ein hunaniaeth, iaith, diwylliant a threftadaeth fel cenedl.
Pasiwyd y cynnig a bydd Cyngor Gwynedd yn cysylltu â Llywodraeth San Steffan i bwyso ar Lywodraeth San Steffan i ymchwilio a pharatoi’r seiliau i ddatganoli darlledu i ddwylo Cymru.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter