Mae cynllun pontio’r cenedlaethau wedi ei sefydlu yn ddiweddar yng nghartref Kate Roberts, yng Nghae’r Gors, Rhosgadfan ger Caernarfon. Pwrpas y cynllun yw dod a’r to iau a’r to hŷn ynghyd i rannu syniadau, sgiliau a phrofiad.
Daeth un ferch ffodus, Abby o Ysgol Rhosgadfan i’r brig yn y sesiwn cyntaf trwy ennill ŵy Pasg siocled am enwi’r cynllun yn ‘Paned a Sgwrs’ a chreu’r poster buddugol i hyrwyddo’r digwyddiad.
Cynllun ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd, Ysgol Gynradd Rhosgadfan ac Age Concern Gwynedd a Môn yw Paned a Sgwrs a’r bwriad yw cyfarfod yn gyson er mwyn cymryd rhan mewn sesiynau crefftau, cefnogi plant i ymarfer a mwynhau darllen a gwahodd cerddorion i gynnal sesiynau cerddorol.
Yn ôl y Cynghorydd Arwyn Roberts sy’n cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd: “Mae hwn yn brosiect sydd yn tynnu pobl ifanc a phobl hŷn at ei gilydd, gan gau’r gagendor sydd i’w deimlo gan rai rhwng y cenedlaethau. Mae’n gyfle hefyd i gymdeithasu a lleihau’r teimlad o ynysu mae rhai bobl hŷn yn ei brofi, wrth aeddfedu, colli anwyliaid a cholli hyder.
Roedd cael adborth gan bawb yn y sesiwn cyntaf ynglŷn â’r hyn yr hoffen nhw ei wneud yn y sesiynau yn chwa o awyr iach. Mae’r elfen o ddysgu yn digwydd bob ffordd a gobaith rhai o’r to iau oedd dysgu’r to hŷn sut i ddefnyddio’r rhyngwyd tra bod yr oedolion hŷn yn awyddus i rannu sgiliau gwaith llaw, fel gwau i’r disgyblion cynradd. Beth bynnag fydd y gweithgaredd, bydd digon o hwyl a sgwrsio i’w gael.”
Cynhelir y sesiwn nesaf ddydd Mercher 3 o Fai am 13:30 o’r gloch yng Nghae’r Gors, Rhosgadfan.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter