Balchder bod Cyngor Gwynedd yn cefnogi merched ym myd chwaraeon

Yng nghyfarfod o’r Cyngor llawn yng Ngwynedd (3 Mawrth), holodd y Cynghorydd Judith Humphreys am gefnogaeth y cynghorwyr i broffesiynoli chwaraeon merched fel bod merched yn cael yr un cyfleoedd a chyflog a’r dynion.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae’r Cynghorydd Humphreys yn awyddus i dynnu sylw ac annog gwell chwarae teg i ferched ym myd chwaraeon Cymru a thu hwnt. (Hawlfraint llun: Chris, Omega Photography)

Dim ond ym mis Ionawr eleni y cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru bod 12 o ferched i dderbyn cytundeb proffesiynol llawn amser am y tro cyntaf erioed yn hanes y gêm. Ond, mae cyflogau’r merched yn llawer is na chyflogau’r dynion.

Yn ôl Cynghorydd Gwynedd, Judith Humphreys, o Benygroes, (sy'n y llun) mae’n gam yn y cyfeiriad cywir, ond mae’r anghyfartaledd yn parhau: “Dwi wedi bod mewn cysylltiad â un o hoelion wyth chwaraeon merched, Yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd, sydd â phrofiad uniongyrchol o’r maes, fel cyn chwaraewraig pêl droed rhyngwladol dros Gymru. Mae ei harbenigedd hi wedi bod yn agoriad llygad i mi.

“Yr un modd, mae clywed sylw Victoria Ward, prif weithredwraig Cymdeithas Chwaraeon Cymru am hanes chwaraewyr, fel blaenasgellwraig tîm rygbi merched Cymru, Alisha Butchers yn dorcalonnus.

“Teimlodd Alisha y rheidrwydd i droi at apêl codi arian cyhoeddus, Crowdfunder i dalu am lawdriniaeth wedi iddi gael ei hanafu ar y cae rygbi. Yn ôl Victoria Ward fyddan ni fyth yn gweld chwaraewr o’r tîm dynion, fel Alun Wyn Jones, yn gorfod troi at apêl Crowdfunder i dalu am lawdriniaeth wedi anaf!”

Yn ôl y Women’s Sports Foundation a sefydlwyd gan Bille Jean King, y prif reswm dros gael cyfle cyfartal i ferched mewn chwaraeon yw er mwyn i ferched hefyd dderbyn y buddion a ddaw drwy gyfranogi mewn chwaraeon.

Y rhai amlwg yw’r budd seicolegol o gymryd rhan mewn chwaraeon, y budd corfforol o gadw’r corff yn iach ac yn heini ac wrth gwrs, y budd cymdeithasol sy’n dod o fod yn rhan o dîm neu weithio fel unigolyn ym maes chwaraeon gyda thîm cefnogi o’ch cwmpas.

Un sydd wedi profi’r union fuddiannau, tra ar yr un pryd yn wynebu heriau o ymgymryd â ‘r gamp ar y maes rygbi yw Teleri Wyn Davies, 24, sy’n wreiddiol o’r Bala (Teleri sy'n taclo ar y chwith yn y llun rygbi).

Ym mis Tachwedd llynedd, gwnaeth Teleri’r penderfyniad anodd i roi’r gorau i chwarae rygbi yn lled-broffesiynol i Glwb Rygbi Sale Sharks ym Manceinion. Un o’r rhesymau am hynny oedd oherwydd y pwysau cynyddol oedd arni wrth iddi astudio i hyfforddi fel cyfreithiwr tra ar yr un pryd teithio o’i chartref yn y Groeslon i hyfforddi gyda’r tîm rygbi ym Manceinion dair gwaith yr wythnos, teithio a hyfforddi gyda Sgwad Cymru yng Nghaerdydd a threulio amser yn cryfhau a chadw’n heini yn y gampfa.

“Doedd dim digon o oriau yn y dydd,” meddai’r ferch sydd wedi ennill pedwar cap i dîm rygbi Cymru. “Yn y pen draw roedd jyglo’r holl beli yn hynod o galed, a bu’n rhaid i mi benderfynu pa lwybr gyrfa roeddwn i am ei dilyn.

“Y gwir plaen ydi, petawn i wedi cael cynnig cytundeb proffesiynol i chwarae i dîm rygbi merched Cymru yn gynt yn fy ngyrfa, mae’n debyg y byddwn i wedi derbyn y cynnig hwnnw.

“Mae hi wedi bod yn goblyn o her i astudio i fod yn gyfreithiwr cymwysedig dros y chwe blynedd ddiwethaf, tra ar yr un pryd yn hyfforddi a chwarae i’r timau rygbi.

Ond mae Teleri yn gweld goleuni yn y maes: “Mae’r cytundebau newydd yn bendant yn gam ymlaen, ond mae nifer o’r merched sydd wedi derbyn y cytundebau yn parhau i orfod gweithio’n gyflogedig, oherwydd bod y cyflogau yn isel. Roedd talu’r bil petrol, llynedd, yn achosi dychryn i mi’n fisol, oherwydd bod cymaint o’m harian yn mynd ar deithio.

“Mae angen parhau i bwyso am newid i sicrhau gwell cyfartaledd a gwell tegwch i ferched ym myd chwaraeon.”

Yn ffodus iawn i Glwb Rygbi Caernarfon, mae’r Adran Ieuenctid yn elwa o gael Teleri yno yn hyfforddi’r tîm o dan 7 oed erbyn hyn. Mae’n bendant yn fodel rôl gwerth chweil i’r bechgyn a’r merched ifanc sy’n hyfforddi yno.

Un arall sy’n cefnogi’r alwad am well tegwch yw Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd, Elin Walker Jones (sydd yn y llun): “Mae nifer o ardaloedd o fewn y byd chwaraeon lle mae tangyflawni a thangynrychiolaeth gan ferched. Dwi’n llwyr gytuno â galwad Judith bod angen merched ar y byrddau chwaraeon ar bob lefel i gynrychioli merched eraill.

“Mae sicrhau bod na gyfleusterau addas ar gyfer chwaraeon merched, yn arbennig felly ym maes pêl droed a rygbi, yn hollbwysig hefyd.”

Elfen arall o’r cynnig yng Nghyngor Gwynedd oedd pwysigrwydd delwedd chwaraeon merched a’r pwyslais sydd ar y cyfryngau.

“Mae angen cael sylw cyfartal â dynion ar y cyfryngau ac yn y wasg,” meddai’r Cynghorydd Elin Walker Jones.

“Dim ond wedyn y gwelwn ni ddatblygu pan fo ffocws priodol i ferched ym myd chwaraeon ar y teledu, ar y radio, yn ein cylchgronau a’n papurau newydd ac yn bendant ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae genethod ifanc a merched yn gweld merched eraill yn cyflawni, yn cyrraedd yr uchelfannau ac yn llwyddo, yn rhoi’r hyder a’r weledigaeth iddyn hwythau fentro.”

Yn 2018 cyhoeddodd ‘Women in Sport’ adroddiad* yn nodi pa mor weledol yw chwaraeon merched yn y cyfryngau ar draws gwledydd Ewrop. Roedd pum gwlad o dan y chwyddwydr a dengys canlyniadau’r adroddiad nad oedd canran darlledu chwaraeon merched yn codi’n uwch na 10% yn yr un o’r pum gwlad.

Roedd canran darlledu chwaraeon merched yn y Deyrnas Gyfunol ddim ond yn cyrraedd 7%

Yn ôl y Cynghorydd Judith Humphreys: “Dwi’n mawr obeithio y bydd ein llywodraethau yn gwrando ar y cais o Wynedd. Mae ein safiad yn un dros gyfiawnder a chyfartaledd - gwerthoedd sy’n greiddiol i ni fel cynghorwyr Plaid Cymru. Dwi’n ymfalchïo bod pawb ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi dangos eu cefnogaeth yn y cyngor, a hynny er lles merched Cymru gyfan.”

Cefnogwyd yr alwad yn unfrydol gan gynghorwyr Gwynedd a bydd y cyngor nawr yn gohebu â Llywodraeth Cymru a San Steffan yn ogystal â’r sefydliadau perthnasol eraill i bwyso am newid.

diwedd

* Rhyddhaodd Women in Sport adroddiad (Hydref 2018) ar sylw’r wasg a gwelededd merched mewn chwaraeon yn Ewrop. Ariannwyd yr ymchwil gan gynllun Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2022-03-08 19:01:53 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns