Mae un o bwyllgorau addysg Gwynedd wedi nodi pryder nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn cydymffurfio a’i Deddf Iaith ei hun, yn sgil trafodaeth hir am adnoddau Cymraeg i ddisgyblion addysg grefyddol TGAU.
Ers un mis ar bymtheg mae Cyngor Gwynedd yn pwyso ar Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau bod adnoddau TGAU Addysg Grefyddol ar gael mewn da bryd i ddisgyblion sy’n astudio’r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn mae Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Gwynedd (CYSAG) yn pryderu am ddiffyg awydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod adnoddau ar gael i ddisgyblion yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd.
Yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru Paul Rowlinson, Cadeirydd Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Gwynedd: “Yn ddi-os, bydd disgyblion sy’n astudio TGAU Addysg Grefyddol trwy gyfrwng y Gymraeg eleni, wedi bod dan anfantais enfawr, oherwydd na chyrhaeddodd yr adnoddau ar gyfer astudio’r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg tan fis Chwefror, chwe mis i mewn i’r flwyddyn ysgol.
“Yr hyn sy’n pryderu CYSAG ymhellach, yw’r ffaith nad yw’r Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb dros newid y drefn fel y bydd adnoddau Cymraeg yn cael eu cyflwyno i ddisgyblion yn amserol yn ein hysgolion yng Ngwynedd ac yng Nghymru gyfan. Yn ei hymateb i’n llythyrau, mae’r Gweinidog yn rhoi’r argraff mai rhywbeth mympwyol yw penderfyniad cyhoeddwyr masnachol a ydynt am gyhoeddi adnoddau trwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio.
“Mae hyn yn gosod cynsail peryglus iawn ym marn CYSAG, gan ddangos diffyg parch i’n disgyblion sy’n astudio pynciau TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond yn fwy fyth, rydym yn pryderu’n ddirfawr fod Llywodraeth Lafur Cymru yn torri cyfraith gwlad, Y Ddeddf Iaith, sy’n nodi’n glir na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yma yng Nghymru,” eglura’r Cynghorydd Paul Rowlinson.
“Fel y corff sy’n arwain a rheoli yma yng Nghymru, mae gan y Blaid Lafur le i ateb cwestiynau sylfaenol yn y maes yma. Wedi cyfnod hir yn aros, mae’r Gweinidog, o ganlyniad i’n cwynion a’n pwysau, wedi cytuno i sefydlu grŵp i ystyried ffyrdd o sicrhau bod adnoddau yn cael eu datblygu yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Dwi’n mawr obeithio y byddwn yn gweld gwelliant er mwyn i ddisgyblion sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg dderbyn eu gwerslyfrau a deunydd astudio ar yr adeg pan fydd arnynt eu hangen.”
Yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian: “Mae Cynghorwyr y Blaid yng Ngwynedd a Phennaeth Addysg y sir wedi bod yn pwyso ers bron i ddwy flynedd am ymateb cadarnhaol a chadarn i’r mater yma. Yn anffodus, mae disgyblion y flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi gorfod gwneud eu gorau i astudio o dan amgylchiadau anodd. Diolch i ddygnwch a dyfalbarhad Plaid Cymru, mae’r Gweinidog Addysg, o’r diwedd, yn dechrau symud ar y mater.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter