Pwysau'n cynyddu ar Lywodraeth Cymru i weithredu nawr ar argyfwng tai – adroddiad newydd ar dai gwyliau yn cynnig datrysiadau

Mae adroddiad manwl a gomisiynwyd ar dai gwyliau tymor byr ac ail gartrefi yng Ngwynedd yn dangos bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i fynd i’r afael â’r prinder yn y stoc dai, gan ddilyn cynlluniau’r Alban i gynnig pwerau i awdurdodau lleol reoleiddio gosodiadau gwyliau tymor byr.

Mae un argymhelliad allweddol yn nodi y dylid deddfu fel bod perchnogion tai yn gorfod holi am ganiatâd yr awdurdod lleol i newid defnydd eiddo i lety gwyliau tymor byr.

Mewn argymhelliad pwysig arall yn yr adroddiad nodir y dylid cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer tai gwyliau tymor byr, wedi'i reoli gan yr awdurdod lleol.

Mae’r cynlluniau hyn eisoes ar waith yn yr Alban lle bydd awdurdodau lleol yn cael pwerau newydd i reoleiddio gosodiadau tymor byr trwy newid y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref, wrth iddynt benderfynu a yw tai gwyliau tymor byr er budd cymunedau lleol.

Daw'r galwadau hyn wrth i ganfyddiadau'r adroddiad ddangos bod 10.77% o'r stoc dai yng Ngwynedd, 6849 o dai bellach yn ail gartrefi neu'n dai gwyliau. Mae hwn yn gynnydd sylweddol o'i gymharu â 7.78%, cyfanswm o 4415 o dai yn 2001.

Y cyfartaledd cenedlaethol cyfredol yng Nghymru yw 2.56% o dai wedi'u categoreiddio fel ail gartrefi neu dai gwyliau. Ar hyn o bryd mae bron i 60% o bobl leol yng Ngwynedd yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai.

Edrychodd yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Gynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros gynllunio a’r amgylchedd, Gareth Griffith ar bedair elfen allweddol, nifer a lleoliad tai gwyliau yng Ngwynedd; sefydlu tueddiadau dros y 30 mlynedd diwethaf; asesu effaith tai gwyliau ar gymunedau lleol ac archwilio atebion posib a mecanweithiau rheoli rheoliadol.

Eglura’r Cynghorydd Gareth Griffith: “Mae hwn yn adroddiad amserol, sy’n rhoi ffeithiau a thystiolaeth glir i ni ynglŷn â’r stoc dai yng Ngwynedd. Mae'r cyflenwad a'r dewis o dai sydd ar gael yng Ngwynedd yn fater hollbwysig i gymunedau lleol. Mae gan y system gynllunio ran uniongyrchol i'w chwarae wrth sicrhau bod digon o dir ar gael i ddiwallu anghenion tai cymunedau lleol.

“Fodd bynnag, mae yna gymunedau ledled Cymru sy’n wynebu pwysau sylweddol oherwydd y defnydd o dai preswyl fel tai gwyliau sy’n arwain at stoc dai sydd ddim yn cwrdd ag anghenion cymunedau lleol ar hyn o bryd.”

Mae 92% o bobl Abersoch wedi eu prisio allan o'r farchnad dai gydag ardal Llanengan yn dilyn yn dynn a rei sodlau ar 90%.

“Rydyn ni’n clywed straeon am deuluoedd ifanc yn methu â dod o hyd i gartref addas am bris addas yn y lleoliad cywir, a phobl ifanc yn mudo o’r sir wrth i dai ddod yn anfforddiadwy.

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos pwysau enfawr sy’n wynebu cymunedau yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro yn benodol. Nid yw'r sefyllfa'n unigryw i Wynedd, ond rydym bellach wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol, ac rydym yn benderfynol o wthio Llywodraeth Cymru i weithredu. Mae’n argyfwng tai mewn nifer o siroedd Cymru, ac mae’r adroddiad ffeithiol hwn yn dangos bod rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu i unioni’r cydbwysedd.”

“Rydym yn llwyr ymwybodol bod twristiaeth yn chwarae rhan ganolog yn economi Gwynedd ac yn hanfodol i gynaliadwyedd cymunedau lleol a thrigolion Gwynedd. Mae'r diwydiant yn dod a buddion economaidd sylweddol i'r sir, ac cefnogi miloedd o swyddi

“Er ein bod yn croesawu nifer ddigonol o unedau gosod gwyliau rheoledig mewn ardaloedd priodol fel cyfraniad gwerthfawr i’r sector twristiaeth, credwn fod angen cyfyngu ar nifer yr ail gartrefi a thai gwyliau tymor byr er mwyn cynnig dewisiadau tai go iawn i bobl leol.”

Cyflwynodd Cyngor Gwynedd dan arweiniad Plaid Cymru bremiwm treth o 50% ar ail gartrefi ym mis Ebrill 2018. Oherwydd bwlch cyfreithiol yn Neddf Cyllid Llywodraeth Cymru mae rhai perchnogion tai gwyliau tymor byr neu ail gartrefi yn symud eu eiddo o gyfradd Treth y Cyngor i'r Gyfradd Treth Busnes. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu nad oes dim treth yn cael ei dalu, sy'n golygu osgoi talu am wasanaethau llywodraeth leol hanfodol fel casgliadau sbwriel, ailgylchu, cynnal a chadw ffyrdd, goleuadau stryd a mwy.

Mae hyn yn atal awdurdodau lleol rhag defnyddio ffynhonnell gyllid allweddol i sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei wneud mewn tai i bobl leol sy’n awyddus i brynu neu rentu cartrefi yn eu cymunedau ynghyd ag amddiffyn gwasanaethau lleol hanfodol.

“Mae hwn yn ddiffyg sylfaenol yn y system drethi, ac yn un y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ag ef,” meddai’r Cynghorydd Gareth Griffith.

Bydd yr adroddiad llawn yn cael ei drafod ym Mhwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd cyn ei anfon at y Cabinet i’w drafod ar y 15 o Rhagfyr.


Dangos 2 o ymatebion

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns