Rhoi statws dyledus i Ddydd Gŵyl Dewi yng Ngwynedd

"Bydd Gwynedd yn arwain y ffordd yn genedlaethol eleni, trwy sicrhau bod staff yn dathlu dydd ein nawddsant, Dydd Gŵyl Ddewi gyda diwrnod ychwanegol o wyliau cyhoeddus," meddai Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dafydd Meurig, sy'n y llun. 

Yn groes i benderfyniad Llywodraeth San Steffan sy’n gwrthod datganoli’r grym i Gymru benderfynu ar ei wyliau banc cenedlaethol ei hun, penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd heddiw, i awdurdodi gŵyl y banc ychwanegol i’r staff i nodi statws a phwysigrwydd cenedlaethol Dydd Gŵyl Ddewi.

“Mae hon yn neges dyngedfennol bwysig,” eglura’r Cynghorydd Nia Jeffreys (yn y llun) sy’n arwain ar faterion corfforaethol y Cyngor.

“Mae’n warth cenedlaethol na allwn ni, yng Nghymru, ddewis a nodi ein hachlysuron diwylliannol, ieithyddol a threftadaeth genedlaethol bwysig ein hunain. Mae San Steffan yn gwrthod datganoli’r grym i Lywodraeth Cymru gael yr hawl sylfaenol yma.

“Rydyn ni’n gofyn am yr un hawl ag sydd gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddewis ein gwyliau banc eu hunain a rhoi statws i’n digwyddiadau pwysig cenedlaethol.”

Nôl yng nghyfarfod o’r cyngor llawn ym mis Hydref, pleidleisiodd bob un o gynghorwyr Gwynedd, yn unfrydol, i’r Cabinet ddynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol fel diwrnod o wyliau i'r gweithlu ar y cyntaf o Fawrth. Roedd y penderfyniad yn un trawsbleidiol, gyda holl grwpiau gwleidyddol y cyngor yn pleidleisio o blaid y cynnig.

Yn ôl y Cynghorydd Elwyn Edwards, Llandderfel (yn y llun) ddaeth a’r cynnig gerbron y cyngor llawn: “Dwi’n hynod falch bod y cais yma wedi ei basio heddiw ac y bydd mwyafrif o staff y Cyngor yn derbyn diwrnod o wyliau ar ddydd ein nawddsant cenedlaethol. Mae’n rhoi neges gre ein bod o ddifri yma yng Ngwynedd i herio’r drefn Brydeinig wrthun sydd yn diystyru ein hunaniaeth a’n treftadaeth ein hunain.

“Mewn blwyddyn lle mae gwyliau banc ychwanegol yn cael eu taflu atom blith draphlith a sôn am de partis bondigrybwyll ar ochrau strydoedd i ddathlu Jiwbili Platinwm Brenhiniaeth Loegr, mae’n dangos ein bod ni yma, yng Ngwynedd, o ddifri am dorri ein cwys cenedlaethol ein hunain.”

Yn ôl Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dafydd Meurig: “Fel cyflogwr mwya’r sir, mae cynnig diwrnod o wyliau i fwyafrif ein staff ar Ddydd Gŵyl Ddewi yn arwydd o’n gwerthfawrogiad iddynt am eu gwaith yn ystod cyfnod heriol sydd wedi ein hwynebu. Yn anffodus, oherwydd telerau ac amodau cenedlaethol athrawon sydd allan o’n rheolaeth ni, allwn ni ddim eu cynnwys yn y broses eleni.

“Trwy gynnig yr ŵyl banc eleni, y gobaith yw y gall cynghorau a sefydliadau cyhoeddus eraill ddilyn ac y gellid rhoi mwy o bwysau ar y Torïaid yn San Steffan i ddatganoli’r grym i Gymru allu penderfynu ar ei hawliau ei hun ac ymestyn y gwyliau i’r gweithlu cyfan yn ogystal â’r sector breifat. Dyna fyddai’r ddelfryd, sicrhau bod pob gweithiwr o bob maes yn cael diwrnod cenedlaethol o wyliau i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi ar y cyntaf o Fawrth. Mae llwyddiant economaidd gwyliau cyhoeddus San Padrig yn yr Iwerddon yn dystiolaeth o’r hyn sy’n bosib, ac mae’r un potensial i Gymru elwa yn economaidd hefyd.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2022-01-18 14:17:14 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns