Sicrhau bod budd ein hadnoddau naturiol yn parhau yng Nghymru

Mae ffermwr a chynghorydd o sir Feirionnydd wedi sicrhau cefnogaeth unfrydol cynghorwyr Gwynedd heddiw (2 Rhagfyr, Cyngor llawn Gwynedd) i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid canllawiau cynlluniau ariannu amaethyddol i sicrhau nad yw arian cyhoeddus trethdalwyr yn gadael Cymru, wrth i gwmnïau geisio taclo eu hôl troed carbon.

Yn ôl y Cynghorydd Gethin Glyn Williams (sy'n y llun) sy’n cynrychioli trigolion Abermaw ar Gyngor Gwynedd: “Mae gennym ni hanes, fel cenedl, o golli allan i wledydd mwy o’n cwmpas. Yn hanesyddol, nid ydym wedi llwyddo i gadw’r budd a’r elw o gynhyrchu ac allforio ein hadnoddau naturiol megis dŵr, glo a choed. Mae’r trac record o fuddsoddi’r elw yn ôl i ddiwydiannau, cymunedau a gwasanaethau Cymru yn un gwael.

“Ond mae 'na gyfle rŵan i newid hynny. I gymryd yr awenau a gosod arweiniad o fewn y maes amgylcheddol yng Nghymru a sicrhau bod unrhyw gwmni sy’n awyddus i unioni eu hallyriadau carbon ar dir Cymru, yn gwneud hynny, er lles yr economi werdd gylchol yma yng Nghymru.

“Ac mae’n rhaid i’r arweiniad hwnnw ddod gan Llywodraeth Cymru. Dwi’n awyddus i bawb sydd â diddordeb yn hyn, i eistedd i lawr a llunio strategaeth i Gymru sy’n sicrhau ein bod ni’n dod yn wlad garbon niwtral gyntaf, ac yna’n agor y drws i eraill ddod i mewn a buddsoddi yma, er lles yr amgylchedd a’r economi yma yng Nghymru.”

Daw galwad y Cynghorydd wrth i gwmnïau o’r tu allan i Gymru brynu ffermydd yng nghefn gwlad Cymru, manteisio ar grantiau cynlluniau amaeth amgylcheddol Llywodraeth Cymru, fel Glastir, er mwyn creu coetiroedd i unioni eu hallyriadau carbon.

“Nid yn unig mae’r cwmnïau yn tynnu oddi ar dir amaethyddol ffrwythlon all gynhyrchu bwyd a chynnal teuluoedd, ond maen nhw hefyd yn tynnu oddi ar y pwrs cyhoeddus Cymreig ar ffurf cynlluniau fel Glastir, er eu lles a’u helw eu hunain. Mae’n egwyddorol anghywir i gwmniau o du allan i Gymru ddefnyddio grantiau cyhoeddus Cymreig i unioni eu camweddau amgylcheddol.

“Dwi’n falch bod cynghorwyr Gwynedd wedi cefnogi’r cais i newid ar frys, y canllawiau grant Glastir (GWC) fel mai dim ond ffermwyr a thirfeddianwyr gweithredol yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais.

“Dwi hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol, fel Gwynedd, i reoli prosiectau coedwigo.

“Wedi’r cyfan y balans o warchod yr amgylchedd, buddsoddi yn yr economi, sefydlogi cymunedau a bwydo pobl gyda chynnyrch lleol o safon sy’n bwysig ar ddiwedd y dydd. Heb fod bob rhan o’r jig-so hwnnw yn ei le, bydd hi’n anodd iawn i Gymru lewyrchu.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2021-12-02 16:35:28 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns