Mae Cynghorydd Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau cefnogaeth cynghorwyr Gwynedd heddiw (3.10.24) i adolygu strategaeth fuddsoddi’r awdurdod lleol. Pwrpas yr alwad oedd cadarnhau bod holl arian cyhoeddus y sir yn cydymffurfio ag iawnderau dynol a chyfraith ryngwladol ledled y byd.
Cynigiodd Cadeirydd grŵp Plaid Cymru Gwynedd, Cai Larsen, y rhybudd o gynnig er mwyn sicrhau bod Cyngor Gwynedd yn blaenoriaethu ystyriaethau moesegol wrth fuddsoddi.
“Mi rydan ni’n gweld yr erchyllterau ma sy’n digwydd yn Gaza, Wcráin, Yemen a Myanmar ar ein sgriniau teledu a’n ffonau symudol yn ddyddiol. Ac i nifer, mae’n teimlo’n bell o Wynedd. Ond i gyfeillion ac i berthnasau rhai o drigolion Gwynedd rydyn ni’n eu cynrychioli, sydd yn gwbl ddiniwed yng nghanol y rhyfeloedd ma, mae hi’n sefyllfa gwbl, gwbl ddirdynnol.
“Mae hefyd yn fater o’r pwysigrwydd eithaf i’r bobl hynny o Wynedd sydd wedi cymryd rhan mewn gwylnosau a gwrthdystiadau mewn nifer o leoliadau yng Ngwynedd tros y flwyddyn ddiwethaf.”
Wrth egluro’r cynnig cyflwynodd y cynghorydd, sy’n cynrychioli canol tref Caernarfon ar y cyngor, y cefndir a’r cyd-destun i’r cynghorwyr:
“A hithau’n dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn mae’r ffigyrau yn amrwd:
- Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel, gyda’r mwyafrif llethol yn bobl gyffredin.
- Tua 10,000 o bobl, trigolion diniwed yn bennaf, heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.
- Dros 90,000 wedi eu hanafu, eto gyda’r mwyafrif yn bobl gyffredin.
- Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.
- Bod mwyafrif llethol y 2.2 miliwn o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.
- Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg ein trigolion ni, yma yng Ngwynedd.
“Mae pasio’r cynnig yma yn sicrhau bod y Cyngor yn edrych ar ei bolisïau buddsoddi er mwyn ychwanegu’r flaenoriaeth foesegol wrth edrych ar bolisi buddsoddiadau ariannol y cyngor.
“Mae’n rhaid i mi gyfeirio at Israel yn benodol oherwydd bod yr amgylchiadau erchyll sydd yno wedi bod yn mynd ymlaen am flwyddyn gron bellach. Yma yn nhref Caernarfon, rydyn ni wedi gweld gwylnos sy’n galw am gadoediad yn cael ei chynnal ar nosweithiau Sul ers blwyddyn gyfan. Dyma ddangos cryfder y teimlad sydd gennym ni tuag ynglŷn â’r sefyllfa druenus yma yn Gaza.
“Rhaid cofio bod perthynas y Gorllewin yn llawer agosach at Israel nag ydi hi at wledydd eraill sydd â record wael o barchu cyfraith ryngwladol a hawliau dynol. Mae economi Israel wedi integreiddio i system gyfalafol y Gorllewin, ac o ganlyniad mae risg uwch bod buddsoddiadau o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwneud eu ffordd i Israel.
“Dyna’r rheswm dwi’n falch bod cynghorwyr Gwynedd wedi cefnogi’r cynnig yma. Wrth wneud hyn, rydym yn mynegi ein gwrthwynebiad i’r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol heddiw ac i’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yno tros y degawdau. Rydym hefyd yn tanlinellu’r gred sy’n greiddiol i’n gwerthoedd Cymreig, bod gwerth a gwerth cyfartal i bob bywyd dynol, a bod y gwerth hwnnw yn annibynnol o gefndir crefyddol ac ethnig pobl.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter