Mae Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd wedi beirniadu’n hallt Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru sy’n dangos diffyg parch, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth am y Gymraeg, cefn gwlad a thwf economaidd y Gymru wledig.
Yng nghyfarfod cabinet Cyngor Gwynedd yn ddiweddar (5 Tach), roedd anghrediniaeth lwyr gan y cynghorwyr ynglŷn â diffygion dogfen y Llywodraeth sy’n holi am farn awdurdodau lleol mewn ymgynghoriad ar hyn o bryd. Mae’r Fframwaith yn gosod targedau’r Llywodraeth ynglŷn â thai, gwaith a datblygiadau dros yr 20 mlynedd nesaf.
Yn ôl y Dirprwy Arweinydd, Dafydd Meurig: “Mi feddyliais i mai jôc wael oedd y ddogfen! Dyma ddogfen sy’n fod i osod gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnydd tir dros yr ugain mlynedd nesaf. Yn rhagair y Prif Weinidog, mae sôn am ynni, hinsawdd, tai a does dim un gair am yr iaith Gymraeg.
“Mae anghysonderau yn y ddogfen wrth sôn am dri rhanbarth yng Nghymru, yn hytrach na’r pedwar rhanbarth arferol mae gweddill adrannau’r Llywodraeth yn nodi wrth drafod Cymru. Ac o fewn map yn y ddogfen, does dim cyswllt yn cael ei wneud rhwng y de a’r gogledd, a hynny gan y Llywodraeth ei hun ddylai fod yn rhannu twf a datblygiad economaidd strategol o’r de i’r gogledd. Mae’n destun jôc!
Yn ôl y Cynghorydd Gareth Thomas: “Mae sôn am dwf economaidd yn ardaloedd Glannau Dyfrdwy a Wrecsam. A dim un gair am dwf economaidd mewn ardaloedd gwledig. Oes disgwyl i unigolyn deithio i swydd yr holl ffordd o Aberdaron i Wrecsam, taith all gymryd 5 awr mewn diwrnod i’w gwblhau? Mae diffygion amlwg yn y cynlluniau hyn.
“Dwi hefyd yn siomedig nad oes un gair yn y Fframwaith am barthau menter y Llywodraeth ei hun. Fel un sy’n gyfrifol yma yng Ngwynedd am barth menter Eryri yn Llanbedr a Thrawsfynydd, byddwn yn disgwyl gweld dogfen sy’n sôn am ddatblygu economi yn cynnwys y parthau menter fel rhan o’r datblygiad hwnnw.”
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg yng Nghyngor Gwynedd: “Dwi’n fwy na siomedig, dwi’n flin! Mae’r iaith Gymraeg yn cael ei phortreadu fel rhywbeth hanesyddol traddodiadol. Mae’n warth o beth. Mae’r Gymraeg yma yng Ngwynedd ac mewn lleoliadau eraill yng Nghymru yn gyfrwng cyfathrebu fyw a byrlymus. Mae’n rhan annatod o’n seici ni, mae’n iaith gwaith, iaith chwarae, iaith fusnes. Mae’n dangos diffyg dealltwriaeth lwyr o’n cenedl Gymreig.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn: “Mae diffyg uchelgais yn y ddogfen hon dros ein gwlad, ein cymunedau a’n pobl. Rydyn ni’n gweld hyn ar sawl lefel gan y Llywodraeth hon, rydyn ni’n cael ein dal yn ôl fel pobl ac fel gwlad, rhag cyflawni ein potensial.
“Oes rheswm call bod y Llywodraeth yn cyflogi Prifysgol o Loegr i baratoi’r gwaith ymchwil ar gyfer y ddogfen yma? Ai dyna sydd wedi mynd o’i le yma? Dwi’n cwestiynu’n fawr synnwyr yr holl broses.
“Fel Cyd Gadeirydd y Fforwm Gwledig, mae’n siom aruthrol nad oes sôn am hyrwyddo economi cefn gwlad yma. Dim gair am y trefi marchnad sy’n bwydo ein hardaloedd gwledig. Mae’n ddogfen sy’n llwyr ddiffygiol a bydd ymateb i’r perwyl hwnnw yn cael ei rannu gyda’r Gweinidog yng Nghaerdydd. Mae Cymru yn haeddu llawer llawer gwell!”
Mae cynghorau sir wedi anfon eu hymateb i’r ddogfen i Lywodraeth Cymru.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter