Tîm Plaid Cymru cryf ar gyfer ward newydd Canol Bangor

Bydd tîm Plaid Cymru cryf yn gobeithio mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu trigolion lleol yn y  ward enfawr newydd sydd wedi ei chreu ym Mangor wrth baratoi at Etholiad Sir Cyngor Gwynedd ar y 5ed o Fai.

Amcangyfrifir bod poblogaeth o dros 7000 o bobl yn rhan o ward newydd Canol Bangor yn ystod tymor y brifysgol, her fawr i ymgeiswyr y ward dwy sedd sy’n cynnwys Bangor Uchaf (Ward Menai), Ward Garth, Ward Hendre a hanner Ward Deiniol, sy'n cynnwys pen uchaf y stryd fawr. 

Mae cynrychiolydd Ward Hendre, Medwyn Hughes (yn y llun uchod), sy’n gyn gynghorydd annibynnol, wedi penderfynu y byddai mynd i'r afael â'r sialens hon fel unigolyn yn anodd. O ganlyniad, mae wedi penderfynu ymuno â Phlaid Cymru Gwynedd, er mwyn cydweithio â chynrychiolydd Ward Garth, Huw Wyn Jones, i ffurfio tîm Plaid Cymru cryf i sefyll gyda’i gilydd fel ymgeiswyr Canol Bangor yn Etholiad Cyngor Gwynedd.

Yn ôl Medwyn Hughes: “Mae pobl Bangor a’r ddinas hyfryd hon angen cryfder a sefydlogrwydd yn ystod cyfnod heriol. Yn fy marn i, ni fyddai Bangor a’i phobl yn elwa o gael cynghorwyr etholedig sydd ddim yn cydweithio’n effeithiol o fewn yr un Ward. Mae tystiolaeth o hynny mewn wardiau deuol eraill pan fo ymgeiswyr yn cynrychioli gwahanol grwpiau gwleidyddol. 

“Mae Huw Wyn Jones a minnau wedi gweithio gyda’n gilydd yn y gorffennol ac mae’r ddau ohonom yn rhannu’r un weledigaeth ar gyfer ein dinas. Dyma benderfynu felly mai uno ein hadnoddau, ein sgiliau a’n gweledigaeth yw’r dewis gorau posib ar gyfer Canol Bangor.” 

Ychwanegodd Huw Wyn Jones: “Dwi’n falch iawn o gael gweithio ar yr ymgyrch etholiadol hon gyda Medwyn a dwi’n falch o’i groesawu i grŵp Plaid Cymru. Yn ôl yr hen ddihareb ‘mewn undeb mae nerth’, a dwi’n sicr mai dyma’r cynllun gorau posib ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n awyddus i’w cynrychioli yma. Mae gwaith torchi llewys yma, ac rydyn ni’n awyddus i fwrw mlaen â’r gwaith, datblygu’r prosiectau rydym wedi eu dechrau a gafael mewn pennod newydd gyda syniadau a gweledigaeth newydd i drigolion lleol.”

Yn ôl cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd, Elin Walker Jones: “Mae hon yn weledigaeth dda ar gyfer Canol Bangor, ac rydyn ni, fel grŵp cynghorwyr, yn croesawu Medwyn yn gynnes i dîm Plaid Cymru. Fel criw o gynghorwyr yma ym Mangor, roeddem yn gwrthwynebu’r newidiadau i ffiniau’r wardiau a’r ffaith bod Bangor yn colli pedwar cynrychiolydd. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr ar adeg dyngedfennol bwysig i bobl leol.

“Rydym, fodd bynnag, yn ffodus bod Huw a Medwyn yn gynghorwyr profiadol, gyda’r gallu a’r weledigaeth i rannu llwyth gwaith, gyrru newid a siarad ar ran pobol leol ar lefel y cyngor sir. Byddwn yn annog yr etholwyr i gefnogi Huw a Medwyn ac edrych i’r dyfodol yn gadarnhaol.

“Bydd Plaid Cymru yn troedio strydoedd a lonydd Gwynedd yn ystod y cyfnod etholiadol yma. Rydym yn hyderus y bydd o leiaf 50 o ymgeiswyr yn rhoi eu henwau ymlaen i sefyll yn enw Plaid Cymru Gwynedd erbyn y dyddiad cau, 5 o Ebrill. Dylai unrhyw un sy’n awyddus i sefyll mewn seddi gwag gysylltu â mi neu’r swyddfeydd etholaethol yn Arfon neu Ddwyfor Meirionnydd.”

Ym mis Hydref 2021 cyhoeddodd Y Comisiwn Ffiniau i Gymru y byddai cynrychiolaeth Cyngor Gwynedd yn gostwng o 75 i 69 o gynghorwyr o fis Mai eleni.

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2022-04-03 08:42:05 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns