Mae’r Cynghorydd Annwen Daniels, Blaenau Ffestiniog yn falch bod cydweithio y tu ôl i’r llenni gan dîm Plaid Cymru wedi sicrhau bod Cyngor Gwynedd yn fodlon diogelu’r gwasanaeth bws X19 o Lanrwst i Flaenau Ffestiniog ac yn ôl, am y tro.
“Dwi’n hynod falch bod trafodaethau a chydweithio wedi dod a datrysiad am y tro i sicrhau bod y gwasanaeth bws pwysig hwn yn parhau i deithio yn yr ardal,” eglura’r Cynghorydd sy’n cynrychioli Ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog.
Llun o'r Cynghorydd Annwen Daniels, Blaenau Ffestiniog
“Gwnes gyswllt brys gyda’m cyd aelod Plaid Cymru, yr Aelod Cabinet Amgylchedd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Dafydd Meurig, Aelod Seneddol y Blaid dros yr ardal Liz Saville Roberts a gyda swyddfa Dafydd Elis-Thomas AC i weld a oedd modd dod o hyd i ddatrysiad.
“Yn ffodus iawn, arweiniad y Blaid sydd wedi sicrhau bod trafodaethau positif wedi digwydd yn y Cyngor er mwyn cynnal y gwasanaeth X19 o Lanrwst i Flaenau Ffestiniog ac yn ôl i Lanrwst tan y Nadolig.
“Roedd yn bwysig oherwydd bod nifer o blant yn teithio adref o ysgol uwchradd yn Llanrwst yn ôl i’r Blaenau yn y prynhawn a nifer o bobl leol yn defnyddio’r gwasanaeth i gyrraedd at wasanaethau iechyd, bancio, siopau ac ati.
“Mae gwasanaethau yn ein gadael rif y gwlith yng nghefn gwlad oherwydd polisïau’r blaid Lafur a’r blaid Dorïaidd yng Nghaerdydd a San Steffan, felly mae’n bwysig ein bod ni’n cwffio am bob agwedd o’r gwasanaethau pwysig yma.”
Yn ôl y Cynghorydd Dafydd Meurig: ”Er nad yw'n bolisi gan Gyngor Gwynedd i dalu am gludiant i ddisgyblion fynychu ysgolion y tu allan i'r sir, rydym wedi dod i delerau gyda chwmni bws lleol i ariannu'r daith tan ddiwedd mis Rhagfyr.
“Trefniant dros dro fydd hyn i osgoi tarfu ar daith plant o'r ysgol ar ganol tymor. Mae Cyngor Gwynedd mewn trafodaeth gyda Chyngor Sir Conwy yn y gobaith o sicrhau trefniant amgen ar gyfer y flwyddyn newydd.”
Yn ôl Liz Saville Roberts AS Dwyfor Meirionnydd: “Dwi'n croesawu'n fawr y penderfyniad gan Gyngor Gwynedd i ariannu'r gwasanaeth bws hanfodol hwn dros dro, sy'n wasanaeth pwysig, economaidd ac addysgol rhwng Blaenau Ffestiniog a Sir Conwy.
“Dwi'n falch bod y cydweithio rhyngom fel tîm Plaid Cymru wedi sicrhau ymateb rhagweithiol a chadarnhaol gan y Cyngor i'r pryderon a fynegwyd gan bobl Blaenau a oedd yn bryderus iawn am y posibilrwydd o golli gwasanaeth.
“Dwi'n talu teyrnged i swyddogion y Cyngor dan arweiniad yr aelod cabinet am gamu i’r bwlch a chefnogi'r gwasanaeth hwn ac i Gynghorydd Blaenau Annwen Daniels am ei gwaith diflino.
“Mae gwaith o’n blaen i drafod gyda’r cwmni bysiau a phartneriaethau eraill i weithio ar amserlenni amgen er mwyn ail-sefydlu trefn o gydlynu siwrneiau bysus fel bod Blaenau yn hwb i deithwyr. Dwi hefyd yn mawr obeithio y gellir cymryd camau pellach i gynnwys gwasanaeth X19 yn rhan o wasanaethau TrawsCymru.”
Mae’r gwasanaeth yn bwysig iawn i drigolion Blaenau Ffestiniog sy’n teithio i Lanrwst ac ymlaen i Landudno ac yn ôl wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd, gwasanaethau bancio a siopau’r stryd fawr. Mae'r gwasanaeth prynhawn hefyd yn caniatáu i bobl o Ddolwyddelan gyrraedd Meddygfa Blaenau Ffestiniog.
Yn ôl y Cynghorydd Annwen Daniels: “I rai o drigolion yr ardal, bobl hŷn, trigolion sydd ddim yn gyrru, disgyblion ysgol - mae’r gwasanaeth yma’n un hanfodol. Gyda Blaenau Ffestiniog yn lleoliad byrlymus sy’n denu ymwelwyr i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau awyr agored, mae’n bwysig sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus yn gallu cyrraedd yr ardal yn gyson yn ystod y dydd i sicrhau hwb i’r economi leol. Mae gwaith o’n blaenau i geisio datrysiad tymor hir i’r mater hwn.”
diwedd
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter