Taclo heriau tai Gwynedd: y cyflenwad a'r galw

"Gadewch i ni rannu ein barn am sut rydyn ni'n taclo heriau tai a rheolau cynllunio," meddai'r Cynghorydd Sir dros Benygroes, Craig ab Iago sy'n aelod cabinet amgylchedd Gwynedd. Felly dyma ddarn barn y Cynghorydd...

"Fel y cyn arweinydd tai yng Ngwynedd, defnyddiais y term “argyfwng tai” yng Ngwynedd am y tro cyntaf nôl yn 2020. Dechreuodd y cyfan pan welais i dŷ ar werth yn fy ardal leol, Llanllyfni, am £400,000. Roedd yn cael ei farchnata fel tŷ ger Abersoch. Roedd rhywbeth o’i le efo hyn.

Tua £23,000 oedd cyflog cyfartalog un o drigolion Llanllyfni ar y pryd. Yn amlwg, nid oedd yn gartref oedd yn cael ei dargedu at y farchnad leol. Fel Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd roedd tai wastad yn greiddiol i’n polisïau gwaith ar hyd y blynyddoedd, ond bu hyn yn ysgogiad i roi mwy fyth o sylw cyhoeddus i’r broblem wrth i ni wynebu’r argyfwng tai.

Yn rhyfedd iawn, pan ddechreuais ar y gwaith ymchwil i’r cyd-destun ehangach yng ngogledd Cymru, mi sylwais bod gan Gernyw broblemau tebyg i ni yma yng Ngwynedd. Roedd Cyngor Tref St Ives newydd fod yn y cyfryngau ar y pryd yn ceisio mynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi yn eu hardal. Pan ffoniais i swyddog tai yng Nghyngor Cernyw i ddysgu mwy, atebodd llanc lleol o Feirionnydd y ffôn a dechreuon ni ar sgyrsiau brwd i ddeall sefyllfa’r naill a’r llall.

Anfonodd y swyddog gopi o erthygl bapur newydd atai wedi ei gyhoeddi yn The Guardian nôl yn 1972 ac ynddo roedd llun o’i nain a’i daid fel un o’r teuluoedd lleol olaf i adael pentref Rhyd yng Ngwynedd. Roedd y tai yn y pentref sy’n eistedd rhwng Maentwrog a Llanfrothen yn y saithdegau wedi eu hail lunio fel ail gartrefi i bobl ddŵad.

O ymchwilio i hanes ail gartrefi yng Ngwynedd, darganfyddais bod cyn AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Elfyn Llwyd wedi bod yn cyflwyno bil aelod preifat neu cyfraith ddrafft yn Nhŷ’r Cyffredin ddegawdau ynghynt. Sylweddolais yn gyflym nad oedd fy sefyllfa i yn Llanllyfni ddim yn un newydd ac mai dim ond y bennod ddiweddaraf yn y stori drist oedd hon.

Felly, aethom ati gyda brwdfrydedd i uchafu’r broblem dai yn gyhoeddus yma yng Ngwynedd. Wyddoch chi bod 65.5% o drigolion Gwynedd yn methu fforddio prynu dim un cartref yng Ngwynedd yn 2021. A wyddoch chi hefyd nad oedd 40% o'r holl gartrefi oedd ar y farchnad yng Ngwynedd yn 2021 yn cael eu prynu fel cartref preswyl i unigolion. Mae'n sefyllfa gwbl anfoesol.

Efallai nad ydych yn ymwybodol bod dwy elfen i’r maes tai. Y cyntaf yw’r cyflenwad, sef y tai hynny sydd ar gael i bobl fyw ynddynt. Bellach mae gan Wynedd ‘Gynllun Gweithredu Tai’ cryf o £190m gyda chynnydd go iawn yn cael ei wneud yn y maes.

Yr ail elfen yw rheoli’r galw sydd am dai, a dyna le mae cynllunio yn dod iddi. Dros y blynyddoedd mae Gwynedd wedi bod yn flaengar yn y defnydd o wahanol offer sydd ar gael i greu gwell chwarae teg i bobl leol sy’n awyddus i roi eu troed ar y gris o berchnogi tŷ.

Fi bellach yw’r aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb am gynllunio. Ni yw’r unig gyngor yng Nghymru i gyflwyno Erthygl 4, sy’n golygu y bydd angen i berchnogion eiddo nawr holi am ganiatâd cynllunio er mwyn newid defnydd eu cartref o brif breswylfa i ail dŷ neu dŷ haf. Dylai hynny wella nifer y tai sydd ar gael i bobl sydd eisiau byw yn eu hardal enedigol.

Bellach mae gan Abersoch, Aberdaron, Botwnnog, Llanengan a Thudweiliog ar arfordir gogledd orllewin Gwynedd 90% a 96% o bobl leol yn methu fforddio prynu tai yn y pentrefi a’r ardaloedd yma. Rydyn ni’n gwybod bod yr ardaloedd yma yn lleoliadau hardd. Ond bydd tai sy’n costio ymhell dros filiwn o bunnoedd fyth yn fforddiadwy i bobl leol.

Mae angen cymunedau ffyniannus arnom gyda phobl ifanc yn bwydo'r ysgolion lleol, teuluoedd sy'n gweithio o fewn yr economi leol ac sydd yn eu tro yn cefnogi busnesau lleol bywiog. Dyna sut rydyn ni’n creu cymuned lewyrchus gyda thai, gwaith, addysg, hamdden, iaith, diwylliant a threftadaeth yn gonglfaen i’n cymdeithas. Rydyn ni’n parhau gyda’r gwaith!


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2025-06-25 12:44:42 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns