Plaid Cymru Gwynedd yn pwyso i daclo sbwriel glan môr

Bydd Swyddogion Morwrol Gwynedd yn cynorthwyo i daclo sbwriel glan môr cyn hir, diolch i syniad gan Gynghorydd Plaid Cymru.

Yn ôl y Cynghorydd Gethin Glyn Williams, Abermaw, mae pryder mawr yn lleol am y llanast sy’n cael ei adael ar ein traethau sydd yn ei dro yn anharddu ac yn bygwth ein hamgylchedd naturiol.

 

“Mae’n bwnc sydd wedi ei amlygu ar hyn o bryd, diolch i gyfres deledu David Attenborough oedd yn gosod ffocws ein gwastraff a’i effaith ar fywyd morol ledled y byd.

“Yma’n Abermaw, mae’n broblem gynyddol. Ond rydym yn awyddus i gydweithio â’r gymuned ac asiantaethau eraill i edrych ar nifer o ffyrdd i geisio taclo’r broblem hon.

Mae unigolion a gwirfoddolwyr lleol wedi codi tunelli o sbwriel oddi ar draethau Ardudwy y tymor yma.

“A ninnau yng nghanol gwyliau hanner tymor gŵyl y banc Sulgwyn, ac ymwelwyr sydd mor hanfodol bwysig i’n heconomi leol yn tyrru i’r ardal, mae’n gyfle i ni godi ymwybyddiaeth bobl leol, busnesau a’n partneriaethau ynglŷn â’r newid sydd i ddod.”

Yn ystod pwyllgor craffu cymunedau’r Cyngor yn ddiweddar, cynigiodd Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams bod Swyddogion Morwrol y Cyngor yn cael yr offer a’r hyfforddiant angenrheidiol i addysgu a gorfodi cosbau am daflu sbwriel, sy’n anghyfreithlon, ar y traethau ac o gwmpas y trefi glan môr.

“Yn amlwg elfen o’i gwaith fydd hwn, ond bydd yn elfen bwysig o’i rôl wrth iddynt weithio yn eu cymunedau glan môr. Fel bob cyngor ledled Cymru, mae Gwynedd yn wynebu toriadau ariannol mawr i’n gwasanaethau oherwydd pwysau gan Llywodraeth Lafur Cymru. Os all Plaid Cymru yng Ngwynedd feddwl y tu allan i’r bocs, a chynnig gwasanaeth gwerthfawr i’n cymunedau mewn ffyrdd gwahanol, yna mi wnawn ni hynny.

“Sbwriel ydi un o’r pynciau sy’n codi amlaf wrth drafod gyda’n hetholwyr. Mae lle i ni gyd weithio i leihau’n defnydd o blastig, i ail-gylchu mwy ac i ystyried cyn defnyddio nwyddau sydd ddim yn fioddiraddadwy.” meddai’r Cynghorydd Williams.

Yn ôl aelod cabinet priffyrdd a bwrdeistrefol, y Cynghorydd Gareth Griffiths: “Fel cynghorwyr Plaid Cymru, rydym yn credu’n greiddiol bod angen sicrhau amgylchedd glân a llewyrchus yma yng Ngwynedd. Ein cymunedau sy’n ein gyrru, ac fel cynghorydd sy’n gweithio ar lawr gwlad, dwi hefyd yn clywed y negeseuon am y problemau mae gwastraff yn eu creu.

“Dwi’n falch bod gennym dîm o staff gweithgar a phroffesiynol sy’n barod i wynebu’r her ac ymgymryd â’r dyletswydd newydd yn eu gwaith bob dydd. Dwi hefyd yn credu’n gryf bod angen i ni addysgu a chynghori pobl sy’n tramgwyddo law yn llaw â gosod dirwyon. Mae angen synnwyr cyffredin yn y gwaith o newid meddylfryd pobl a’i hatgoffa am gadw ein strydoedd, palmentydd, traethau a chaeau yn lân.


Dangos 2 o ymatebion

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns