Tai lleol yn hanfodol i drigolion Gwynedd wrth drafod premiwm ail gartrefi

Wrth i dros 6000 o bobl ymateb i ymgynghoriad Cyngor Gwynedd ar bremiwm treth ail gartrefi, dywed Cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd: “Mae’r mwyafrif o bobl leol, dros 60%, yn cefnogi’r angen i gynyddu’r premiwm o 50% i 100%.”

Gwnaeth y Cynghorydd Elin Walker Jones y sylwadau ar ganfyddiadau adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, a fydd yn cael ei drafod gan gabinet Cyngor Gwynedd yr wythnos nesaf (dydd Mawrth 16 Chwefror)

O'r trethdalwyr sydd ddim yn talu’r premiwm ond sy’n berchen tŷ, dywedodd 61% eu bod yn cefnogi'r cynnydd o 50% i 100% yn y dreth gyngor i berchnogion ail dŷ tra bod 37.7% yn teimlo y byddai codi'r premiwm yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol.

Ymatebodd 3,326 o berchnogion ail gartrefi i'r ymgynghoriad. Nododd 95.5% o’r rhain na fyddai'n briodol codi premiwm treth y cyngor o 50% i 100%.

“Mae pobl leol yn ymwybodol ein bod yn wynebu argyfwng o fewn y farchnad dai, yma yng Ngwynedd. Yn gyffredinol, mae cynghorwyr o bob anian wleidyddol yn cefnogi galwad Plaid Cymru bod angen gweld newid.

“Ein hegwyddor gyntaf yw sicrhau bod gan bobl, yn enwedig pobl ifanc, yr hawl i gartref cysurus yma yng Ngwynedd. Dyna ein nod sylfaenol, wrth i ni barhau i drafod ystod o faterion tai, yma yng Ngwynedd.

“Mae’r farchnad dai wedi gorboethi dros y flwyddyn ddiwethaf a chynnydd anhygoel mewn prisiau tai. Mae tai yn gwerthu heb oedi, yn aml yn cael eu prynu ag arian parod. Mae'n amlwg bod nifer yn cael eu prynu fel ail gartrefi, llefydd i bobl ddianc o ardaloedd dinesig poblog ac ymweld â nhw yn achlysurol yn ystod y flwyddyn.

“Mae rhai o'r tai hyn yn atal pobl ifanc rhag cael eu traed ar ysgol y farchnad eiddo. Y peth pwysicaf i mi, fel gwleidydd, yw cefnogi person lleol i ddod o hyd i'w g/chartref cyntaf.”

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gwynedd ei gynllun gweithredu tai uchelgeisiol gwerth £77 miliwn, lle mae ffocws clir ar ddarparu cartrefi o safon sy’n daer eu hangen i bobl Gwynedd.

Gwelodd adroddiad manwl a ryddhawyd ym mis Rhagfyr gan yr adran gynllunio fod 8% o’r stoc dai yng Ngwynedd bellach yn ail dai, gyda 60% o bobl leol yng Ngwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai.

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones: “Mae nifer o Gynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd yn credu bod codi’r premiwm o 50% i 100% yn un allwedd i helpu i fynd i’r afael â’r broblem.”

Cyflwynodd Cyngor Gwynedd, dan arweiniad Plaid Cymru, y premiwm treth y cyngor ar gyfer perchnogion ail dai nôl ym mis Ebrill 2018, gan godi premiwm o 50% ar y dreth cyngor.

Ar y 3 Rhagfyr llynedd, dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dafydd Meurig bod angen i Gyngor Gwynedd ystyried cynyddu premiwm ail gartrefi o 50% i 100%. Cefnogodd Cynghorwyr Gwynedd ei alwadau a holi’r cabinet i ymgynghori â'r cyhoedd ar y mater. Mae'r adroddiad hwn i'r cabinet yn dod â'r broses ymgynghori honno i ben.

Bydd cyngor llawn Gwynedd yn cyfarfod ar y 4 o Fawrth i wneud penderfyniad.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2021-02-10 17:03:39 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns