Mae’r tawelwch a’r diffyg ymateb gan Lywodraeth Lafur Cymru i gais Cyngor Gwynedd am hawl i nodi’r cyntaf o Fawrth fel dydd gŵyl banc cenedlaethol yn “warth ar genedl gyfan” yn ôl un Cynghorydd Plaid Cymru, Elwyn Edwards, Llandderfel sydd yn y llun.
Ymateb negyddol a fu i gais Cynghorwyr Gwynedd am statws gŵyl y banc i’r genedl gan Adran Fusnes a Masnach Llywodraeth San Steffan.
Dywed Justin Madders AS yn ei lythyr mai costio gormod fyddai nodi gŵyl nawddsant ein cenedl yn ŵyl y banc cydnabyddedig, er gwaetha’r ffaith bod Senedd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael cydnabod ei Seintiau cenedlaethol nhw fel gwyliau banc
“…er y gallai gŵyl banc ychwanegol fod o fudd i rai cymunedau a sectorau, mae'r gost i'r economi o gael gŵyl banc ychwanegol yn sylweddol… nid oes gan y Llywodraeth [San Steffan] unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid patrwm sefydledig a derbyniedig gwyliau banc yng Nghymru.”
Nôl ym mis Hydref, pasiodd Cyngor Gwynedd mewn cyfarfod o’r cyngor llawn i holi Llywodraeth San Steffan drosglwyddo’r hawl i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i ddynodi’r 1 o Fawrth bob blwyddyn yn wyliau cenedlaethol swyddogol.
Gwnaed y rhybudd o gynnig gan Blaid Cymru Gwynedd, a Chynghorydd Llandderfel, Elwyn Edwards: “Yr hyn sy’n fy nghorddi fi yw’r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi datgan ei chefnogaeth i ni o’r blaen, ond y tro hwn a hwythau bellach mewn grym yng Nghaerdydd a Llundain, does dim un gair wedi dod gan y Blaid Lafur yng Nghaerdydd i’n cais. Rydyn ni’n cael ein hanwybyddu’n llwyr!
“Ar ben y gwarth o gael ein trin fel dinasyddion eilradd yn ein gwlad ein hunain, mae’n eironi llwyr fod dwy lywodraeth Lafur, bellach yn rhedeg Senedd Cymru a Senedd Lloegr, ond mai ymateb llugoer rydyn ni’n parhau i’w gael. Mater bach fyddai gweld y Blaid Lafur yn cydweithio ar ddwy lefel o lywodraeth i roi hawl i genedl gyfan ddathlu achlysur hollbwysig i’w thrigolion?”
Yn ôl y Cynghorydd Plaid Cymru dros Dregarth a Mynydd Llandygai, Beca Roberts (sy'n y llun) sy’n Gadeirydd y Cyngor a anfonodd y llythyrau i’r llywodraethau nôl ym mis Hydref: “Mae’n ddifrifol o siomedig bod Llywodraeth Cymru yn methu hyd yn oed ateb ein llythyr. Mae’n dangos amharch llwyr i’r cyngor a thrigolion Gwynedd.
“Dwi’n hynod siomedig i’r blaid Lafur yng Nghaerdydd gefnogi cais Cyngor Gwynedd am ŵyl y banc cenedlaethol ar y cyntaf o Fawrth nôl yn 2021, a munud mae’r ddwy lywodraeth o’r un anian wleidyddol, does dim ymateb yn dod i ni o Gaerdydd. Roedden ni’n llawn gobaith o allu dwyn y maen i’r wal ar y pwnc yma trwy’r cydweithio rhwng Llafur yng Nghaerdydd a San Steffan. Byddwn yn parhau i frwydro!”
Nôl ym mis Hydref 2021, pasiodd cynghorwyr Gwynedd, yn unfrydol i roi diwrnod o wyliau i’r mwyafrif o staff y cyngor ar Ddydd Gŵyl Ddewi 2022. Yn ddiolch iddynt am eu gwaith caled a’i hymroddiad dros gyfnod heriol y pandemig, croesawyd y diwrnod cenedlaethol o wyliau i nodi Dydd Gŵyl Ddewi. Oherwydd toriadau haerllug o San Steffan, ni fu’n bosib i Wynedd barhau â’r arferiad.
Yn ôl y Cynghorydd Beca Roberts: “Fel cyflogwr mwya’r sir, byddai cynnig diwrnod o wyliau i’n staff ar Ddydd Gŵyl Ddewi yn nodi’r achlysur cenedlaethol pwysig hwn i’n diwylliant, iaith a’n treftadaeth. Mae’n hen bryd i gynghorau a sefydliadau cyhoeddus eraill allu sicrhau bod pob gweithiwr o bob maes yn cael diwrnod cenedlaethol o wyliau i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi ar y cyntaf o Fawrth.
“Mae llwyddiant economaidd gwyliau cyhoeddus San Padrig yn yr Iwerddon yn dystiolaeth o’r hyn sy’n bosib. Mae’r un potensial i Gymru elwa yn economaidd hefyd, felly galwn, unwaith eto i’n llywodraethau ddangos parch i’n trigolion a’n cenedl allu nodi gŵyl ein nawddsant.”
Meddai’r Cynghorydd Elwyn Edwards wrth gloi: “Dim ond hyd nes bydd Plaid Cymru’n llywodraethu yn Senedd Cymru y gwelwn ni newid. Does gan y Blaid Lafur yn Senedd Lloegr ddim diddordeb mewn hybu hunaniaeth Cymru, Cymreictod na buddiannau ein cenedl.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter