Nia Jeffreys, Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd a Chyngor Gwynedd
Cynghorydd Ward Dwyrain Porthmadog
Wedi ei geni a'i magu ym Mhorthmadog gan dderbyn ei haddysg yn Ysgol Eifionydd, gartref yn ôl y daeth Nia i fyw a magu ei theulu yn ei milltir sgwâr, wedi gyrfa yn gweithio ym maes cyfathrebu.
Fe'i hetholwyd yn Gynghorydd Sir dros Ddwyrain Porthmadog yn 2017 ac mae'n weithgar dros ei chymuned yn lleol.
Yn ystod ei gyrfa, mae wedi byw dramor, yn Llundain ac yng Nghaerdydd, gan weithio ym maes cyfathrebu i sefydliadau preifat, cyhoeddus ac elusennol, cyn dychwelyd i'w hannwyl Borthmadog.
Wedi astudio gwleidyddiaeth gymdeithasol, dechreuodd ei gyrfa yn gweithio yn Nhŷ'r Cyffredin i Aelod Seneddol Plaid Cymru, Dafydd Wigley, sy'n parhau yn un o'i harwyr. Aeth yn ei blaen i weithio i Nwy Prydain, Chwarae Teg, Asthma UK ac yna Cyfoeth Naturiol Cymru.
Etholwyd Nia yn ddirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd yn 2022 lle bu’n arwain ar yr economi a chymunedau, dau faes sy’n agos iawn at ei chalon.
Ym mis Rhagfyr 2024, etholwyd Nia yn arweinydd Cyngor Gwynedd, swydd y mae’n ei theimlo yn fraint ei derbyn ac mae hi yr un mor falch i fod yn arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Gwynedd.
Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd
Cynghorydd Ward Bontnewydd
Un o Landysul, Ceredigion yw Menna Trenholme yn wreiddiol ond mae’n byw yng Nghaeathro ger Caernarfon ers dros ddeg mlynedd. Wedi graddio mewn hanes o Brifysgol Aberystwyth, dechreuodd ei swydd gyntaf gyda’r Blaid yn gweithio i’r Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd ac yna i Liz Saville-Roberts fel gweithiwr achos ac yna’n rheoli swyddfa’r Blaid.
Treuliodd gyfnod yn gweithio fel mentor cyflogadwyedd i gwmni elusennol ym Môn ac yna croesi’r Fenai i Wynedd gan weithio i’r cyngor trwy Waith Gwynedd fel Mentor Cyflogadwyedd. Mae Menna wrth ei bodd yn cefnogi pobl a dyna un rheswm ei bod eisiau bod yn Gynghorydd er mwyn helpu eraill a rhoi llais i drigolion ei hardal.
Mae Menna yn briod ac yn fam i ddau o blant ifanc a’i bwrlwm nhw sy’n ei hysbrydoli a’i hysgogi i wneud ei gorau dros ei chymuned a thrigolion Gwynedd.
Fe’i hetholwyd yn gynghorydd dros Ward Bontnewydd ym mis Mai 2022 ac yn fuan wedyn daeth yn aelod cabinet dros Gefnogaeth Corfforaethol a Chyfreithiol.
Braint fawr ym mis Rhagfyr 2024 oedd derbyn rôl dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd ac mae hi bellach yn arwain maes plant a chefnogi teuluoedd o fewn y cyngor.
Cai Larsen, Cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd
Cynghorydd Ward Canol Tref Caernarfon
Brodor o Benisarwaun yw Cai Larsen ond mae'n byw yn nhref Caernarfon gyda'i wraig, ers bron i 40 mlynedd. Mae wedi treulio ei yrfa ym myd addysg gan ddylanwadu'n bositif ar addysg nifer o blant a phobl ifanc yr ardal, ond mae bellach wedi ymddeol o'i swydd fel prifathro ysgol gynradd.
Etholwyd Cai yn gynghorydd sir dros Seiont, Caernarfon yn 2017 ac ymysg ei nifer o roliau o fewn y gymuned mae'n gweithio'n wirfoddol gyda Porthi Dre, mae'n gadeirydd bwrdd Cwmni Dre ac yn eistedd ar fwrdd rheoli cymdeithas dai, Adra. Mae Cai yn Ddirprwy Faer Tref Caernarfon ac yn Gynghorydd Tref Caernarfon.
Mae ei ddiddordebau a'i gyfrifoldebau ar y Cyngor Sir yn cynnwys addysg ac economi, cynllunio, democratiaeth a'r iaith Gymraeg. Mae'n wyneb amlwg ym maes gwleidyddiaeth Plaid Cymru, yn aelod o'r pwyllgor gwaith cenedlaethol ac wedi dal nifer o swyddi dros y blynyddoedd. Mae ganddo ddiddordeb mawr ym mhatrymau pleidleisio ym mhob lefel o lywodraeth; lleol, cenedlaethol a Phrydeining.
"Mae'n fraint cael cadeirio'r grŵp mwyaf yn hanes Cyngor Gwynedd ers iddo gael ei ffurfio. Mae cadeirio grŵp sydd â chymaint o aelodau llawn arddeliad a brwdfrydedd yn gallu bod yn heriol ar adegau, ond mae hefyd yn brofiad hynod werthfawr a difyr," meddai Cai.
Mae’n briod yn dad i bump o blant ac yn daid i dri o wyrion.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter